Coroni Seicoleg yn Adran y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol
Baner Dathlu Llywyddiannau Staff a Myfyrwyr y Brifysgol
04 Mai 2020
Mae’r Adran Seicoleg wedi ennill teitl clodfawr Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2020 am yr ail flwyddyn yn olynol, yr adran gyntaf erioed i wneud hynny.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniad eithriadol staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr academaidd ac adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Trefnir y gwobrau gan Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth (UMAber) gyda chefnogaeth y Brifysgol, oherwydd Covid-19, cyhoeddwyd y gwobrau eleni yn fyw ar wefan UMAber ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ar ddydd Iau 30 Ebrill 2020.
Dywedodd Chloe Wilkinson-Silk, Swyddog Materion Academaidd UMAber ar gyfer 2019-20: “Rwy’n hynod ddiolchgar ein bod ni wedi cael y cyfle hwn i ddod ynghyd a chydnabod a dathlu’r gorau o’n sefydliad er gwaethaf yr holl anawsterau ar hyn o bryd. Mae hyn yn dyst i’r gymuned deuluol gref yma ym Mhrifysgol Aberystwyth- efallai ein bod ar wahân, ond rydym fel un.”
“Derbyniom 265 o enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni, gyda llawer ohonynt yn hynod bersonol a thwymgalon. Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu henwebu ac i’r enillwyr, sy’n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn gymuned ddysgu anhygoel.”
Dywedodd Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: Dysgu Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: “Yn ystod yr amseroedd hyn, mae’n biti nad oedd modd i ni ddod at ein gilydd i ddathlu gwobrau eleni, ond hoffwn ddiolch i UMAber am yr holl ymdrech a roddwyd ganddynt i’r digwyddiad ‘rhithiol’. Mae gweithio drwy’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber gyda Swyddogion Undeb y Myfyrwyr wedi dod yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Cyfeiriwyd teyrngedau cynnes eleni at ymroddiad, ymrwymiad, cyfranogiad, arloesedd, hiwmor a ffraethineb aelodau staff. Mae eu darllen yn fy ngwneud yn falch o berthyn i’r Brifysgol wych hon yng Ngorllewin Cymru sydd wedi ennill gwobrau TEF Gold, Times Higher a What Uni. Llongyfarchiadau i’r holl staff a myfyrwyr a gafodd eu henwebu ac i enillwyr y gwobrau eleni.
Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2020 yw:
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Kate Warren – Ffiseg
Addysgu Creadigol
Dr Gillian McFadyen – Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Pencampwr y Gymraeg
Iwan Davies - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Gwobr Cam Nesaf
Annabel Latham – Ysgol Addysg
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Dr Bill Perkins – Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Athro Ôl-Raddedig y Flwyddyn
Panna Karlinger – Ysgol Addysg (Tiwtor yn yr Adran Fathemateg)
Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn
Khai Jackson – Adran Seicoleg
Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn
Daphne Pacey - Adran Hanes a Hanes Cymru
Aelod Staff Ategol/ Gwasanaeth y Flwyddyn
Siân Jones – Gwasanaethau Gwybodaeth
Myfyriwr-fentor y Flwyddyn
Rezija Madara Fridrihsone – Ysgol Gelf
Gorychwiliwr y Flwyddyn
Dr Tom Holt - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Darlithydd y Flwyddyn
Dr Peadar Ó Muircheartaigh – Adran Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
Adran y Flwyddyn
Seicoleg