Rhyddid ar Wahân - Arddangosfa ar-lein Celfyddydau Creadigol

12 Mai 2020

Myfyrwyr Celfyddydau Creadigol Prifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu arddangosfa ar-lein arloesol o waith a grëwyd mewn ymateb i gyfyngiadau symud Covid-19.

Bydd yr arddangosfa ‘Rhyddid ar Wahân’, sydd ar gael am ddiwrnod yn unig, yn datblygu trwy ffrwd fyw dros gyfnod o 24 awr o ganol dydd ar Ddydd Gwener 15 Mai tan ganol dydd ar Ddydd Sadwrn 16 Mai.

Eglura Miranda Whall, Cyfarwyddwr y Celfyddydau Creadigol a darlithiwr yng Nghelfyddydau Creadigol a Chelfyddyd Gain: “Trwy gydol y cyfyngiadau symud, mae’r myfyrwyr Cyfryngau Creadigol wedi bod yn arwain rhai gweithdai ar-lein anhygoel gan ymateb i’r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Mae’r rhain wedi cynnwys ystod eang o gelfyddydau creadigol, gan gynnwys gweithdai ysgrifennu, darlunio, actio ac ymateb i wrthrychau.

“Mae’r arddangosfa ‘Rhyddid ar Wahân’, sydd yn cael ei ffrydio yn fyw, yn nodi penllanw’r gwaith grŵp hwn, prosiectau unigol gan fyfyrwyr Cyfryngau Creadigol, ynghyd â dau fyfyriwr Celfyddyd Gain, a fy mhrosiect fy hun. Bydd y digwyddiad 24-awr yn cynnwys cyfweliadau myfyriwr-i-fyfyriwr, trafodaethau gyda gwesteion, trafodaethau panel, prosiectau unigol gan gynnwys sgrinio ffilm, perfformiadau a gweithdai dan arweiniad myfyrwyr.”

Digwyddiad ar-lein am ddim yw ‘Rhyddid ar Wahân - Arddangosfa ar-lein Celfyddydau Creadigol’ ac fe’i cynhelir o ganol dydd ar Ddydd Gwener 15 Mai tan ganol dydd ar Ddydd Sadwrn 16 Mai.