Rhaglen ar-lein yn galluogi i fyfyrwyr gydol oes astudio o bell
18 Mai 2020
Mae Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ffordd amgen o ddysgu yn ystod y pandemig Covid-19.
Mae’r adran wedi trosglwyddo rhan o’i rhaglen, sy’n cynnwys modiwlau o dri maes pwnc sef Celf a Dylunio, Dyniaethau ac Ecoleg, i ddysgu ar-lein er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i astudio o bell yn ystod trydydd tymor yr Ysgol Dysgu Gydol Oes sy’n digwydd o fis Mai i fis Awst.
Dywedodd Dr Calista Williams, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth: “O ganlyniad i Covid-19, mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio’n galed i greu rhaglen ddysgu o bell ar gyfer Tymor 3. Mae nifer o gyrsiau ar gael ar draws ystod eang o bynciau a fydd yn eich galluogi i gael mynediad at gyfleoedd dysgu o gysur eich cartref. Mae’r adran wrth law i’ch tywys a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.”
Mae’r rhaglen gelf yn canolbwyntio’n bennaf ar gyrsiau byrion 5 credyd sy’n cyfateb i 10 awr addysgu gydag amser ychwanegol ar gyfer astudio annibynnol. Mae’r cyrsiau hyn yn galluogi myfyrwyr i astudio gan gynnig y cyfle i ymroi i ddyletswyddau eraill yn ogystal.
Yn ogystal â throsglwyddo cyrsiau presennol i’r porth ar-lein mae’r rhaglen newydd hefyd yn cynnwys dau fodiwl 5 credyd newydd sef ‘Adeiladu Gwytnwch’ a ‘Cerflun Ffigurol Cynnar’.
Mae’r modiwl ‘Adeiladu Gwytnwch’ yn dysgu strategaethau ymwroli a all fod o help yn ystod cyfnod anodd tra bo’r modiwl ‘Cerflun Ffigurol Cynnar’ yn gwrs blasu wedi’i selio ar ddylanwadau cerflunio cynnar ar gerfluniau cyhoeddus ffigurol cyfoes yn eich ardal.
Mae’r rhaglen Ddyniaethau yn cynnig dau gwrs ysgrifennu creadigol ar lein sef ‘Ffuglen Greadigol’ a ‘Ysgrifennu o Natur’. Bydd modiwlau terfynol ‘Ysgrifennu Sgriptiau’ a ‘O’r Acorn i’r Dderwen: Adeiladu’ch Coeden Deulu’ hefyd yn cael eu dysgu o bell.
Er bod y rhaglen Ecoleg yn ddibynnol ar waith maes fel arfer, mae Ecoleg 1 ac Ecoleg 2 yn cael eu dysgu fel modiwlau dysgu o bell yn ystod yr haf. Mae modd hefyd i fyfyrwyr y rhaglen Ecoleg droi at gyrsiau ‘Darlun Hanes Naturiol’ ar Bryfed.
Mae modd dod o hyd i gwrs yma: https://www.aber.ac.uk/cy/lifelonglearning/courses/