Partneriaeth leol newydd i gynhyrchu offer gwarchodol

11 Mai 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda grŵp ym Machynlleth er mwyn cynhyrchu rhagor o PPE i amddiffyn gweithwyr iechyd a gofal rhag haint Covid-19.

O ganlyniad i’r bartneriaeth gyda’r grwp lleol Dyfi PPE, mae academyddion a staff y Brifysgol yn torri deunydd gyda thorwyr laser ac yn cynorthwyo gyda gwella’r dulliau cynhyrchu. Bydd y darnau a gynhyrchir gan y Brifysgol yn cael eu rhoi at ei gilydd gan gwmni Cymreig er mwyn creu feisors. Mae’r cydweithio yn digwydd fel rhan o’r Ganolfan Prosiect dros Arbenigedd Ffotoneg Cronfa DatblyguRhanbarthol Ewrop, mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner iddi.

Mi gaiff yr offer gwarchodol personol ei ddosbarthu’n lleol at ddefnydd ysbytai, cartrefi gofal a meddygfeydd.

Dywedodd Martin Kemp o Dyfi PPE:

“Cafodd ein grŵp ei sefydlu gyda’r nod cyffredin o warchod y rheini sy’n ein gwarchod ni. Er mwyn arafu lledaeniad y feirws ac i achub bywydau.

“Gan adeiladu ar yr ymchwil ar y ffyrdd ymarferol o ddefnyddio technolegau digidol uwch gan gwmnïau bychain, a phrofiad rhyngwladol o’r gymuned ffynhonnell agored, rydym wedi bod yn helpu llenwi’r bwlch yng nghyflenwad offer gwarchodol personol.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu gyda’r ymdrech enfawr yn lleol, sy’n rhan o fenter genedlaethol ehangach. Mae’n braf gweld pawb yn tynnu ynghyd.”

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Brifysgol wedi sicrhau bod ystod eang o’i chyfleusterau a’i gwasanaethau ar gael i daclo’r Coronafeirws. Ymysg cyfraniadau eraill, mae’r Brifysgol wedi darparu llety i staff y gwasanaeth iechyd a gweithwyr y gwasanaethau brys a neilltuo adeilad arall fel gofod clinigol mewn cydweithrediad gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Anne Howells, Pennaeth dros dro, Ymchwil, Busnes ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu defnyddio'r arbenigedd a’r adnoddau o fewn y Brifysgol i gyfrannu at yr ymdrechion i fynd i’r afael â Covid-19. Rydym wedi cyfrannu mewn sawl ffordd fel rhan o’n hymrwymiad fel sefydliad i wneud pob dim y gallwn i gynorthwyo’r ymdrechion i gadw’n cymunedau lleol ac, yn wir, cymunedau ledled y byd yn ddiogel. Fe fyddwn yn dal i drafod gyda’r llywodraeth ac eraill sut y gallwn ni gyfrannu mewn ffyrdd eraill yn ystod y cyfnod hynod heriol hon.”

Ceir mwy o fanylion am y fenter wirfoddol leol drwy fynd i: http://ppe.machynlleth.wales