Porth ar-lein newydd yn cynnig cyngor i ddarpar fyfyrwyr prifysgol
01 Mai 2020
Mae porth ar-lein newydd i helpu pobl ifanc gyda pharatoadau ar gyfer bywyd prifysgol yn ystod y cyfnod y Coronafeirws wedi'i lansio gan Brifysgol Aberystwyth.
Cafodd yr Hwb Adnoddau Ar-lein, sy'n cynnig cyngor ar wneud ymchwil i brifysgolion a chyrsiau a'r broses ymgeisio, ei lansio ddydd Gwener 1 Mai 2020.
Mae’r wefan wedi ei hanelu at bobl ifanc 17 a 18 oed a fyddai fel arfer yn brysur yn ymweld â ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored prifysgolion yr adeg hon o'r flwyddyn.
Mae'r safle hefyd yn darparu adnoddau dysgu gwerthfawr i ysgolion a cholegau ar ffurf Cipluniau Pwnc sy'n cynnig mewnwelediad unigryw gan academyddion blaenllaw o’r Brifysgol i feysydd sy'n berthnasol i'r cwricwlwm ôl-16.
Mae yna hefyd gyfres newydd o weminarau byw ar newid yn yr hinsawdd, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ychwanegu darlithoedd fideo, sgyrsiau TedX a Llawlyfrau-E yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Dewi Phillips, Rheolwr Datblygu Partneriaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn amser tyngedfennol o’r flwyddyn i bobl ifanc a fyddai fel arfer yn dechrau edrych o ddifrif ar eu dewisiadau ar gyfer astudio mewn prifysgol o fis Medi 2021. Yn anffodus mae'r cyfyngiadau Covid-19 presennol yn eu hatal rhag manteisio ar y teithiau campws arferol a gweithgareddau diwrnod ymweld eraill sy'n rhan mor bwysig wrth ddod o hyd i'r brifysgol addas ar eu cyfer nhw.
“Trwy gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol hon mewn un man, rydym yn mawr obeithio y bydd hwn yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr ôl-16, athrawon a rhieni. Mae yna rai adnoddau gwych yn eu lle eisoes, p'un a yw'n gwblhau cwrs pythefnos i helpu i adeiladu prosiect unigol neu wylio cyflwyniad byr ar sut i gwblhau datganiad personol yn ogystal â rhai gweminarau byw gan ein prif academyddion. Bydd rhagor o ddeunyddiau yn cael eu hychwanegu yn ystod yr wythnosau nesaf, felly gwyliwch y gofod.”
Teithiau rhithwir a diwrnodau agored
Mae'r porth hefyd yn cynnig cyfle i fynd ar daith rithwir o amgylch campws a chyfleusterau Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnwys golygfeydd 360 gradd o'r adnoddau addysgu a'r llety.
Dyma hefyd fydd Diwrnod Agored Ar-lein nesaf y Brifysgol a gynhelir ddydd Mawrth 5 Mai, pan fydd darpar fyfyrwyr yn cael cyfle i sgwrsio ar-lein â darlithwyr, myfyrwyr cyfredol a staff derbyn, dysgu am y gwahanol gyrsiau a gynigir, darganfod sut i wneud cais a pha raddau y gallai fod eu hangen arnynt a gweld sut y gallai'r ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau helpu eu cyllid.
Gweminarau newid hinsawdd
Gall darpar fyfyrwyr hefyd gael blas ar fywyd academaidd yn Aberystwyth trwy gyfres o weminarau byw a fydd yn mynd i’r afael â’r pwnc llosg ‘newid hinsawdd’.
Ddydd Iau 14 Mai am 1 y prynhawn bydd yr Athro Milja Kurki o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod: ‘Sut mae mynd i’r afael â newid hinsawdd a beth sydd a wnelo ideolegau gwleidyddol ag ef?’
Bydd digwyddiad yr Athro Milja Kurki yn trafod rhai o’r heriau sylfaenol sy’n wynebu gwleidyddiaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Bydd yn ymdrin â materion megis sut y gellir mynd i’r afael â newid hinsawdd pan fydd gwladwriaethau a chymunedau yn aml yn canolbwyntio ar sicrhau eu goroesiad a’u ffyniant eu hunain ar draul eraill, ac yn trafod perthnasedd ‘ideolegau gwleidyddol’ i ddadl am newid hinsawdd heddiw.
Ddydd Gwener 22 Mai am 1 y prynhawn, bydd Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cyflwyno gweminar iaith Gymraeg ar y berthynas rhwng gwleidyddiaeth a newid yn yr hinsawdd.
Bydd Dr Lewis Newid yn dangos sut y mae newid hinsawdd yn broses sy’n codi heriau sylfaenol i arferion a syniadau traddodiadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ac yn ystyried beth yw’r rhagolygon gwleidyddol ar gyfer y dyfodol. Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cydweithrediad ac i ba raddau y gellir eu goresgyn?
Bydd gweminarau yn trafod y berthynas rhwng newid hinsawdd a busnes, daearyddiaeth, bioleg, economeg a llenyddiaeth Saesneg.
Mae manylion llawn Hwb Adnoddau Ar-lein newydd Prifysgol Aberystwyth ar gael yma www.aber.ac.uk/cy/undergrad/hub.