Newyddion
Diwrnod ysgrifennu creadigol yn canolbwyntio ar lenorion ar y cyrion
Bydd digwyddiad a gynhelir gan arbenigwyr ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol Aberystwyth y mis nesaf yn canolbwyntio ar rymuso llenorion ar y cyrion i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Darllen erthyglMae Plaid Cymru eisiau datganoli pwerau darlledu i Gymru - sut mae'r drafodaeth yn newid
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Jamie Medhurst, Athro mewn Ffilm a'r Cyfryngau, yn trafod sut y gallai canlyniad yr etholiad cyffredinol effeithio ar y ddadl barhaus am ddatganoli pwerau darlledu o San Steffan i'r Senedd.
Darllen erthyglBygythiadau i ieithoedd lleiafrifol dan sylw arbenigwyr rhyngwladol
Bydd y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol dan y chwyddwydr mewn cynhadledd ryngwladol sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf.
Darllen erthyglHwb ariannol i ymchwil bwyd drwy Gronfa Ddaear Bezos
Bydd ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn elwa o fod yn rhan o grant $30 miliwn gan Gronfa Ddaear Bezos i wneud systemau bwyd byd-eang yn fwy ecogyfeillgar.
Darllen erthyglGwobr gynllunio o fri i brosiect yr Hen Goleg
Mae’r cynlluniau sy’n trawsnewid cartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys wedi’u cydnabod mewn seremoni wobrwyo fawr yn Llundain.
Darllen erthyglDathlu Wythnos Ffoaduriaid 2024 yn Aberystwyth
Daeth ffoaduriaid, sefydliadau cymorth lloches, llunwyr polisi ac ymchwilwyr academaidd o bob rhan o Gymru ynghyd yn Aberystwyth ddydd Mercher 19 Mehefin ar gyfer dathliad arbennig o gelf, cerddoriaeth, barddoniaeth a chymunedau amrywiol i nodi Wythnos Ffoaduriaid 2024.
Darllen erthyglCydnabod arloeswraig ym maes menywod mewn cyfrifiadura ar restr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin
Mae sylfaenydd cynhadledd arloesol sy’n hyrwyddo rôl menywod mewn technoleg wedi cael ei chydnabod ar rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin.
Darllen erthyglPrifysgol Aberystwyth yn llongyfarch cyn Is-Ganghellor ar dderbyn y CBE
Mae Canghellor ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch cyn Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Elizabeth Treasure, ar dderbyn y CBE yn Anrhydeddau Penblwydd y Brenin.
Darllen erthyglProsiect ymchwil i drais a cham-drin domestig yn rhyddhau adnodd newydd yn Iaith Arwyddion Prydain
Mae Prosiect Dewis Choice yn nodi Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn (15 Mehefin) trwy ryddhau fersiwn yn Iaith Arwyddion Prydain o'i animeiddiad trawiadol sy'n tynnu sylw at yr heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu lle y mae camdriniaeth yn digwydd ar yr aelwyd.
Darllen erthyglA yw cellweiriau ymosodol yn broblem i gyplau hyn? Dechrau ymchwil newydd
O jociau ‘cnoc cnoc’ i gellweirio am y fam-yng-nghyfraith, mae ymchwilwyr yn ystyried sut y gall digrifwch effeithio ar berthnasau cyplau hŷn.
Darllen erthyglDirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi ei fwriad i roi’r gorau i’w rôl
Mae Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei fwriad i roi’r gorau i’w rôl ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.
Darllen erthyglDraig anwes i ymddangos am y tro cyntaf yn LabTraeth
Bydd draig anwes robotig newydd yn gwneud ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn nigwyddiad LabTraeth Prifysgol Aberystwyth a gynhelir yn y Bandstand yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 15 Mehefin.
Darllen erthyglRhyfel Wcráin: pam fod gwledydd canol Asia am symud i ffwrdd o reolaeth Rwsia
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Ana Mahon o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae cenhedloedd canol Asia yn troedio llinell denau rhwng mynd ar ôl mwy o annibyniaeth oddi wrth Rwsia a pheidio ag amharu ar y cydbwysedd grym yn rhanbarthol.
Darllen erthyglMae llygredd gwrthfiotig yn gwneud malwod yn anghofus trwy newid microbiom eu perfedd.
Mae gwrthfiotigau'n rhwystro malwod rhag ffurfio atgofion newydd trwy darfu ar ficrobiom eu perfedd - y gymuned o facteria llesol a geir yn eu perfedd.
Darllen erthygl