Herio stori draddodiadol Y Wladfa

Caiff llyfr newydd Dr Lucy Taylor o Brifysgol Aberystwyth - Global Politics of Welsh Patagonia (Gwasg Prifysgol Cymru, 2025) - ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am 7yh ar nos Fercher 2 Ebrill.
27 Mawrth 2025
Caiff stori ramantus y Cymry a ymgartrefodd ym Mhatagonia dros ganrif yn ôl ei herio mewn llyfr newydd, gan ddatgelu ochr dywyllach i hanes sefydlu’r Wladfa.
Mae Global Politics of Welsh Patagonia, gan yr academydd Dr Lucy Taylor o Brifysgol Aberystwyth, yn tynnu ar ffynonellau archifol yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg i gwestiynu’r myth bod y berthynas rhwng y Cymry a’r bobl Frodorol yn seiliedig ar gyfeillgarwch a harmoni yn unig.
Mae’r gyfrol yn rhoi llwyfan i leisiau pobl y Tehuelche a Mapuche, ac yn amlygu adroddiadau llai cyfarwydd am rôl y setlwyr Cymreig ym mhrosiect adeiladu cenedl yr Ariannin yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dywed Dr Taylor, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy'n arbenigo mewn astudiaethau America Ladin, mai nod y llyfr yw cyflwyno’r hanes yn fwy cyflawn a dangos pa mor gymhleth gall y berthynas â gwladychwyr fod.
“Mae hanes sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 yn gyfarwydd i bawb yng Nghymru. Roedd yn fenter ddewr ac arwrol mewn nifer o ffyrdd, a ysgogwyd gan deimladau gwrth-wladychol gartref ond menter hefyd a welodd y Cymry yn dod yn asiantiaid dros wladychu,” meddai Dr Taylor.
“Mewn Cymru gyfoes sy’n ceisio hyrwyddo polisïau gwrth-hiliaeth, credaf fod yr amser wedi dod i ail-werthuso’n agored a gonest yr hyn y gellir ei ystyried yn ochr dywyllach i’r Wladfa ac ail-edrych ar y naratif confensiynol trwy lens datrefidigaethu.”
Mae’r llyfr yn datgan yn glir na ddefnyddiodd y Cymry drais corfforol yn ystod y broses ymsefydlu ac yn nodi bod eu polisi o ymgysylltiad heddychlon wedi’i ddathlu a’i ramantu’n aml, yn enwedig o’i gyferbynnu â’r defnydd o rym corfforol gan wladychwyr imperialaidd ‘Seisnig’ a Phrydeinig mewn rhannau eraill o’r byd.
“O ganlyniad, mae’r Wladfa nid yn unig wedi’i hystyried yn gyfreithlon ond mae wedi’i defnyddio fel ased, gan gyfrannu at strategaethau Cymreig ar gyfer gwrthsafiad diwylliannol ac adfywiad cymdeithasol gartref,” meddai Dr Taylor.
“Eto i gyd, does dim dwywaith bod Y Wladfa yn sylfaenol i brosiect adeiladu cenedl yr Ariannin ac, er efallai fod gan yr arloeswyr Cymreig ei hagenda ei hun, roedden nhw hefyd yn ffactor allweddol yn ymgyrch Llywodraeth yr Ariannin ar y pryd i feddiannu tiroedd brodorol, hawlio sofraniaeth a chyflwyno moderniaeth gyfalafol.
“Beth mae fy llyfr i yn ei wneud yw gwahodd darllenwyr i feddwl y tu hwnt i’r straeon confensiynol sydd mor gyfarwydd i ni i gyd, i wrando ar leisiau pobl frodorol o’r gorffennol ac i ystyried sefyllfa gymhleth Cymru fel cenedl oedd ar y naill law yn profi gwladychu gartref ac ar y llall yn gwladychu ym Mhatagonia.”
Gobaith Dr Taylor yw y bydd ei hymchwil yn gallu cyfrannu at y cwricwlwm hanes newydd yng Nghymru yn ogystal ag at drafodaethau ehangach ynghylch dad-drefedigaethu a gwrth-hiliaeth.
Caiff Global Politics of Welsh Patagonia (Gwasg Prifysgol Cymru, 2025) ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am 7yh ar nos Fercher 2 Ebrill pan fydd Dr Taylor yn sgwrsio â’r Athro Emeritws Paul O’Leary o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth. Mae tocynnau ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein ar gyfer y digwyddiad ond mae archebu lle yn hanfodol.