Ymchwil newydd yn nodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy’n dylanwadu fwyaf ar broffidioldeb da byw

25 Mawrth 2025

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi nodi set syml ond hynod effeithiol o fetrigau y gellid eu defnyddio i helpu i wella perfformiad ariannol ffermydd da byw.

Gall casglu data a meincnodi yn rheolaidd helpu ffermwyr i wella perfformiad eu busnes, ac mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn fesurau pwysig a all gynorthwyo yn hyn o beth. 

Hyd yma, fodd bynnag, nid oedd yn glir pa Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n effeithio'n benodol ar berfformiad ariannol mentrau cig eidion a defaid.

Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gywain data ar berfformiad da byw o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio.

Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn darparu gwybodaeth am berfformiad ariannol, ffisegol ac amgylcheddol busnesau ffermio. Cesglir y data gan Promar yn Lloegr a Phrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.

Gan edrych ar oddeutu 500 o ffermydd lloi sugno eidion a defaid ledled Cymru a Lloegr, edrychodd yr ymchwilwyr ar ddangosyddion sy'n mesur costau, marwolaethau, cynhyrchiant ac arwynebedd porthiant fesul uned da byw.

Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth fod yna gysylltiad arwyddocaol rhwng sawl Dangosydd Perfformiad Allweddol ac elw gros y pen ym mhob math o fenter, yn enwedig ar gyfer mesur cynhyrchiant da byw.

Gwelwyd cysylltiad cadarnhaol lle roedd cynnydd mewn lloi fesul buwch fesul blwyddyn a chynnydd mewn ŵyn fesul stoc bridio yn cynyddu elw gros y pen.  Roedd gan ddwysfwyd y pen gysylltiad negyddol ym mhob math o fenter, sy'n golygu bod elw gros y pen yn gostwng wrth i’r mewnbynnau gynyddu.

Meddai Nia Lloyd, darlithydd mewn Busnes Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae ffermydd lloi sugno eidion a defaid wedi wynebu ac yn parhau i wynebu llawer o heriau allanol. Serch hynny, gallai newidiadau mewn dulliau rheoli busnes, yn enwedig rheoli da byw, roi'r cyfle i ffermwyr wella eu heffeithlonrwydd a'u proffidioldeb.

"Mae ein hastudiaeth wedi dangos cysylltiadau arwyddocaol rhwng elw gros a Dangosyddion Perfformiad Allweddol penodol ar lefel systemau. Gallai'r set syml ond hynod effeithiol hon o fetrigau ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr da byw i wneud newidiadau gwybodus i’r ffordd maent yn rheoli eu busnes ac i wella ei berfformiad ariannol a'i wydnwch."

Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i ddangos dylanwad Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â chynhyrchu da byw ar berfformiad ariannol ffermydd eidion a defaid yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n tanlinellu pwysigrwydd casglu data a meincnodi rheolaidd.