Teyrnged i’r Athro Geraint H. Jenkins am ei gyfraniad oes at addysg cyfrwng Cymraeg

Teulu’r Athro Geraint Jenkins yn derbyn dystysgrif er cof amdano
28 Mawrth 2025
Mae'r hanesydd Cymreig amlwg, y diweddar Athro Geraint H. Jenkins, wedi cael ei anrhydeddu gan y Coleg Cymraeg yn ei gynulliad blynyddol yn Aberystwyth.
Yn gyn-aelod o staff a phennaeth adran hir ei wasanaeth, bu'r Athro Jenkins yn dysgu yn Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth am 25 mlynedd rhwng 1968 a 1993. Roedd yn enwog am ei gefnogaeth a'i gyfraniad amhrisiadwy i addysg brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yr wythnos hon, rhoes y Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg, deyrnged i’r Athro Jenkins, gan ddweud:
“Roedd Geraint yn un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Buodd yn gyn-bennaeth ac yn arweinydd ysbrydoledig yr adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
“Roedd yn frwd iawn ei gefnogaeth i addysg prifysgol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, yn awdur nifer o gyfrolau, yn olygydd y gyfres ddylanwadol Cof Cenedl, ac yn un a roddai pwys mawr ar annog a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
“Mae’n gadael bwlch mawr ym mywyd deallusol Cymru.”
Yr Athro Geraint H. Jenkins
Hefyd cafodd yr Athro Emeritws Eleri Pryse o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth gymrodoriaeth er anrhydedd am ei blaengaredd academaidd yn ogystal â’i chyfraniad at ddysgu Ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1989.
Meddai:
“Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr anrhydedd hon gan y Coleg Cymraeg - gwahoddiad annisgwyl iawn i mi. Buodd yn fraint a mwynhad i gydweithio gyda myfyrwyr a chyd-ddarlithwyr o brifysgolion ar draws Cymru a chyda staff y Coleg i ymestyn darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg i’r gwyddorau.
“Rhaid yw cydnabod rôl a chefnogaeth hanfodol y Coleg Cymraeg i dwf gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg.”
Yr Athro Emeritws Eleri Pryse yn derbyn ei thystysgrif am gyfraniad oes i addysg cyfrwng Cymraeg
Yn rhan o’r noson, cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn dathlu ugain mlynedd ers sefydlu’r cynllun.
Un o'r rhai a dderbyniodd ei dystysgrif oedd Dr Cennydd Jones, a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar yn ymchwilio i gronfeydd dŵr amgylcheddol TB mewn gwartheg (Mycobacterium bovis) ar ffermydd Cymru, ac mae bellach yn Ddarlithydd mewn Rheoli Glaswelltir Amaethyddol yn y Brifysgol.
Dywedodd Dr Cennydd Jones:
“Roedd derbyn y dystysgrif o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ben-llanw ar fy ngradd doethur. Braf oedd derbyn yr anrhydedd ar noson lle roedd y Coleg Cymraeg yn dathlu 20 mlynedd ers i'r cynllun ysgoloriaethau PhD cyfrwng Cymraeg gael eu rhoi.”
Dr Cennydd Jones
Gwnaed David Jones OBE, a fagwyd yng Nghiliau Aeron yng Ngheredigion ac sy'n gyn Brif Weithredwr Coleg Cambria, yn Gymrawd er Anrhydedd yn ogystal.