Prifysgol Aberystwyth yn adnewyddu partneriaeth gyda Mentera

Colin Nosworthy Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth ctn1@aber.ac.uk / +44 7496 914301
25 Mawrth 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi adnewyddu ei phartneriaeth gyda Mentera, prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru.
Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda Mentera ers 2015 i ddarparu modiwlau ôl-radd, wedi’u hachredu ar lefel 7 ar gyfer y rhieni sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sy'n dymuno cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau.
Mae’r modiwlau’n rhoi cyfle i ennill tystysgrif ôl-raddedig mewn Arwain Newid.
Dywedodd Yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad MyfyrwyrPrifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth lwyddiannus gyda Mentera. Mae’r cydweithio sydd rhwng ein Hysgol Fusnes a Mentera bellach yn ei degfed flwyddyn ac yn parhau i gyfoethogi gyrfaoedd rheini sy’n ymgymryd â’r modiwlau hyn. Diolch i’r modiwlau a’r cymhwyster sy’n dilyn, mae gan bobl y cyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain, cymell a mentora ymhellach o fewn eu swyddi a’u rhoi ar waith ar unwaith.”
Ychwanegodd Dr Wyn Morris, darlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth:
“Rydym wrth ein boddau ein bod yn adeiladu ar y berthynas ragorol sydd rhyngom ni a Mentera. Mae’r rhaglenni yn agored i unigolion a busnesau fel ei gilydd ac yn golygu ein bod ni’n gallu ymgysylltu â busnesau a diwallu eu hanghenion hyfforddi gyda chymhwyster ffurfiol. Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl waith ar y bartneriaeth wych a ffrwythlon hon.”
Dywedodd Llŷr Roberts Prif Weithredwr Mentera:
“Mae Mentera yn falch iawn o adnewyddu’r cydweithrediad llwyddiannus hwn gyda Phrifysgol Aberystwyth. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n helpu unigolion a busnesau i dyfu a ffynnu.”
Mae ymhell dros gant o unigolion wedi elwa o’r bartneriaeth hyd at heddiw, gan ddysgu sgiliau proffesiynol mewn meysydd megis Hwyluso ar gyfer Arwain Sefydliad, Hyfforddi a Mentora ar gyfer Arweinwyr ac Arwain Newid.