Adnodd mapio peryglon i helpu i ddiogelu Nepal rhag trychinebau naturiol

Yr Athro Neil Glasser a Dr Morgan Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth
06 Mawrth 2025
Gallai adnodd ar-lein newydd helpu i ddiogelu cymunedau yn Nepal rhag peryglon naturiol fel daeargrynfeydd, llifogydd a thirlithriadau.
Mae daearyddiaeth a hinsawdd unigryw Nepal yn golygu ei bod yn fwy agored i drychinebau naturiol na'r rhan fwyaf o wledydd.
Mae'r rhain yn cynnwys cyfnodau monsŵn trwm, gweithgaredd platiau tectonig, lleoliadau anghysbell a thiroedd serth yn yr Himalayas.
Nawr am y tro cyntaf, mae’r peryglon naturiol sy’n wynebu’r wlad wedi’u mapio’n fanwl gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a’u dwyn ynghyd mewn adnodd ar-lein newydd sy’n mapio ystod o beryglon.
Mae 'MiMapper' yn adnodd mapio rhad ac am ddim, rhyngweithiol a hawdd ei ddefnyddio sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer tirwedd gymhleth Nepal.
Ar gael ar blatfform Google Earth Engine (GEE), mae MiMapper yn integreiddio cyfres gynhwysfawr o setiau data geo-ofodol ar gyfer asesu a delweddu peryglon naturiol, gan gynnwys tirlithriadau, llifogydd a daeargrynfeydd.
Cafodd ei ddylunio, ei gynhyrchu a’i ddatblygu gan Cat Price, Dr Morgan Jones, yr Athro Neil Glasser a’r Athro John Reynolds o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd: “Mae daearyddiaeth a hinsawdd unigryw Nepal yn ei gwneud yn arbennig o agored i beryglon naturiol. Mae tir serth yng ngogledd y wlad, platiau tectoneg gweithredol, hinsawdd monsŵn a llynnoedd rhewlifol i gyd yn cyfuno i gynyddu'r risg i gymunedau ac isadeiledd o beryglon naturiol megis daeargrynfeydd, llifogydd, tirlithriadau a llifogydd llynnoedd rhewlifol, y cyfeirir atynt yn aml fel GLOFs.
“Bydd yr adnodd newydd hwn yn galluogi cynllunwyr i wneud asesiad cychwynnol o sut y gallai peryglon lluosog ryngweithio mewn un lleoliad a’n gobaith yw y bydd yn dyfnhau gwybodaeth rhanddeiliaid o’r ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl a’u galluogi i gymryd camau lliniaru. Byddai hyn yn cefnogi parodrwydd effeithiol o ran trychinebau ac ymdrechion i adeiladu gwytnwch mewn gwlad sydd mor agored i drychinebau naturiol.”
Cyn cwblhau’r adnodd mapio’n derfynol, fe deithiodd gwyddonwyr o Aberystwyth i Nepal ym mis Tachwedd 2024 i gynnal gweithdy lle cafodd y feddalwedd ei phrofi gyda swyddogion cynllunio lleol, swyddogion rheoli trychinebau ac ymchwilwyr.
Dywedodd Dr Morgan Jones, darlithydd yn y Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn Aberystwyth: “Mae MiMapper wedi’i ddylunio gyda defnyddwyr technegol ac annhechnegol mewn golwg a defnyddiwyd adborth o’n gweithdai yn Nepal i brofi a mireinio ei ddefnyddioldeb. Dyma’r tro cyntaf i offeryn mapio aml-beryglon gael ei ddatblygu ar gyfer y wlad gyfan ac mae’n cynnig mynediad hwylus i ddata am beryglon a broseswyd ymlaen llaw yn ogystal ag adnoddau gweledol i ddadansoddi risgiau amgylcheddol ar gyfer cymunedau a seilwaith.
“Gall cynllunwyr trefol, swyddogion rheoli trychinebau ac ymchwilwyr ddefnyddio’r feddalwedd, a bydd yn rhoi gwybodaeth gychwynnol iddyn nhw ar leihau neu atal effeithiau peryglon naturiol yn Nepal, a thrwy hynny helpu i ddiogelu’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.”
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Medr bellach), gyda chefnogaeth gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU, fel rhan o raglen i gefnogi gweithgareddau cymorth datblygu swyddogol o fewn prifysgolion Cymru.
Mae MiMapper ar gael am ddim ar Google Earth Engine ac mae fideo byr yn egluro sut i’w ddefnyddio ar gael ar wefan
Prifysgol Aberystwyth: aber.ac.uk/cy/mimapper