Gwyddonwyr i astudio pam fod rhewlif Everest yn cynhesu

Yr Athro Bryn Hubbard (ar y dde) yn ystod taith ymchwil glaenorol i Rewlif Khumbu ar Everest.
20 Mawrth 2025
Mae tîm o ymchwilwyr yn gwneud eu paratoadau olaf gogyfer â thaith i Everest yn Nepal y mis nesaf i ganfod pam fod yr iâ ar un o rewlifoedd mwyaf eiconig y mynydd mor agos at y pwynt toddi.
Byddan nhw’n teithio i’r Cwm Gorllewinol, lle maen nhw’n credu bod ymbelydredd dwys o’r haul yn toddi’r eira hyd yn oed pan fo tymheredd yr aer o dan y rhewbwynt.
Wrth i’r dŵr tawdd ail-rewi gall gynhesu’r eira o sawl gradd, gan greu iâ rhewlif sy’n llawer agosach at y pwynt toddi nag a sylweddolwyd yn flaenorol.
Os ydyn nhw'n iawn, gall hon fod yn broses sydd hefyd yn digwydd ar rewlifoedd eraill ar draws yr Himalaya, lle mae’r dŵr tawdd yn cynnal miliynau lawer o bobl islaw.
Bydd yr ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds yn gweithio dros chwe chilometr uwchlaw lefel y môr a hanner cilometr uwchlaw Gwersyll Cyntaf (base camp) Everest, gan ddrilio i mewn 'r rhewlif a defnyddio'r tyllau turio i gofnodi tymheredd yr iâ.
Fe fydd yn rhaid iddyn nhw groesi Rhaeadr Iâ Khumbu - sy'n cael ei ystyried yn un o'r rhannau mwyaf heriol ar hyd llwybr South Col i gopa Everest - tra bod eu hoffer yn cael ei gludo mewn hofrennydd.
Ar ôl cyrraedd y rhewlif, bydd y tîm yn gwersylla ar iâ lle mae’r tymheredd dros nos yn gostwng yn is na -10 °C.
Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd eu gwaith yn esgor ar ddealltwriaeth newydd o brosesau a newidiadau sy'n berthnasol i rewlifoedd mewn lleoliadau tebyg ledled y byd ac sy’n dangos i ba raddau y gall rhewlifoedd eraill o fewn yr Himalaya hefyd gynnwys rhew annisgwyl o gynnes.
Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
“Efallai y bydd yn syndod i lawer y gallai eira fod yn toddi mewn tymhereddau aer islaw’r rhewbwynt, yn uchel i fyny yng Nghwm Gorllewinol Everest, ond mae angen ymchwilio i’r tebygolrwydd yma a’i fesur. Bydd y mesuriadau tymheredd yma’n gwella modelau cyfrifiadurol a ddefnyddir i ragfynegi newidiadau yn y dyfodol ym maint y rhewlifoedd a’r cyflenwad dŵr – sy’n arbennig o bwysig yn yr ardal hon sydd â phoblogaeth fawr a lle mae dŵr yn brin.
“Ar gyfer y prosiect hwn, byddwn yn adeiladu ar arbenigedd Prifysgol Aberystwyth mewn drilio tyllau turio a datblygu synwyryddion i gofnodi tymheredd yr iâ yn ddyfnach yn y rhewlif ac ar uchderau uwch nas geisiwyd erioed o’r blaen. Gan na allwn ddibynnu ar bŵer moduron hylosgi ar yr uchderau hyn, rydyn ni’n bwriadu defnyddio ynni solar, batri a phropan i ddrilio tyllau turio rhai degau o fetrau i mewn i'r rhew.
“Rydyn ni hefyd yn bwriadu defnyddio lloerennau i anfon data yn ôl o’r Cwm Gorllewinol mewn amser go iawn, yn uniongyrchol i’n cyfrifiaduron yn y DG, gan leihau nifer y teithiau yn y dyfodol sydd eu hangen i lawrlwytho data a chynnal yr offer.”
Dywedodd yr Athro Duncan Quincey o Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol Leeds, sy’n arwain y tîm:
“Hon fydd y daith fwyaf heriol yn gorfforol ac yn logistaidd i mi fod yn rhan ohoni erioed, ac mae yna doreth o ffactorau anhysbys – rydyn ni’n poeni a fydd ein hoffer yn gweithio ar uchderau mor uchel, ac os bydd yn gweithio a fyddwn yn gallu casglu ac allforio ein data yn effeithiol.
“Er ein bod ni wedi gweithio yn ac o gwmpas y gwersyll cyntaf hanner dwsin o weithiau o’r blaen, dyma’r tro cyntaf i ni ddringo ymhellach i fyny’r rhewlif ac uwchlaw'r rhaeadr iâ. Mae hyn yn golygu ein bod yn archwilio tir newydd, a dim ond llond llaw o wyddonwyr sydd wedi cerdded y llwybr hwn o'n blaenau. Os llwyddwn i gasglu unrhyw ddata, dyma’n ddi-os fydd y data cyntaf o’u bath.”
Daw’r prosiect newydd yn sgil canfyddiadau blaenorol yr ymchwilwyr a ddangosodd fod tymheredd yr iâ yn rhannau isaf Rhewlif Khumbu yn gynhesach na'r disgwyl o ystyried tymheredd yr aer lleol.
Mae rhewlifoedd ym mynyddoedd uchaf y blaned yn ffynhonnell hynod bwysig o ddŵr, gyda miliynau o bobl - gan gynnwys llawer yn Nepal, Bhutan, India, Pacistan ac Afghanistan - yn dibynnu ar ddŵr sy’n rhedeg i lawr o’r Himalaya.
Byddai newidiadau yng nghyfradd dadmer rhewlifoedd yn bygwth y cyflenwad dŵr hwn, a ddefnyddir yn rheolaidd at ddibenion dyfrhau, glanweithdra ac ynni dŵr, yn enwedig ar odre’r mynyddoedd.
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig eisoes wedi dynodi 2025 yn Flwyddyn Ryngwladol Cadwraeth Rhewlifoedd i godi ymwybyddiaeth o rôl hanfodol rhewlifoedd, eira a rhew yn y system hinsawdd a chylchred dŵr, yn ogystal ag effeithiau pellgyrhaeddol toddi rhewlifol cyflym.
A heddiw mae UNESCO (Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig) yn paratoi i nodi Diwrnod Cyntaf y Byd ar gyfer Rhewlifau, sydd i’w nodi’n flynyddol ar 21 Mawrth.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac mae’n gydweithrediad rhwng academyddion o Brifysgol Leeds, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bergen (Norwy) a Phrifysgol Uppsala (Sweden).