System arloesol o synwyryddion ‘gwrando’ i fonitro toddi ar len iâ’r Ynys Las

Dr Samuel Doyle (ar y chwith) yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar seismomedr ar Len Iâ yr Ynys Las.

Dr Samuel Doyle (ar y chwith) yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar seismomedr ar Len Iâ yr Ynys Las.

21 Mawrth 2025

Mae gwyddonwyr yn datblygu system rhybudd cynnar i fonitro'n fanwl pa mor gyflym y mae llen iâ'r Ynys Las yn toddi a helpu i ddarogan pwyntiau tyngedfennol posibl yn yr hinsawdd.

Am y tro cyntaf, bydd rhwydwaith cynhwysfawr o synwyryddion seismig yn cael ei gosod ar yr Ynys Las i ‘wrando’ ar ddirgryniadau a achosir gan ddŵr yn llifo.

Bydd y system yn caniatáu i wyddonwyr fonitro’n barhaus y dŵr tawdd a ddaw o  rewlifoedd mawr a hynny bron mewn amser real.

Mae mesuriadau a ddarperir ar hyn o bryd gan systemau monitro confensiynol yn dueddol o fod yn ysbeidiol yn ogystal â drud, tra bod yr offerynnau seismig newydd yn isel eu cost, yn llai tebygol o gael eu difrodi ac yn haws eu defnyddio.

Mae dŵr tawdd sy’n rhedeg oddi ar len iâ'r Ynys Las yn gyfrannwr sylweddol a chynyddol at lefelau’r môr yn codi.

Mae hefyd yn effeithio ar lif iâ trwy reoli pa mor rhwydd y mae'r iâ yn llithro ac, unwaith y mae'n mynd i mewn i'r cefnfor, gall effeithio ar gerhyntau ac ecosystemau morol.

Caiff prosiect ‘Monitro Dŵr Ffo o’r Ynys Las o Seismoleg Goddefol’ (GRuMPS) ei arwain gan Brifysgol Sheffield ac mae’n dwyn ynghyd tîm o rewlifegwyr rhyngwladol gan gynnwys Dr Samuel Doyle, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Doyle, sydd wedi gwneud ymchwil helaeth ar Len Iâ yr Ynys Las:

“Rwy’n edrych ymlaen at osod y cyntaf o nifer o seismomedrau a fydd yn cael eu defnyddio yn ein hymdrechion i wella’r gwaith o fonitro dŵr ffo rhewlifoedd yr Ynys Las. Mae’r mesuriadau hyn yn hollbwysig os ydym am ragweld ymateb cerhyntau’r cefnfor i’r swm cynyddol o ddŵr croyw sy’n dod o Len Iâ’r Ynys Las.”

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Stephen Livingstone o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Sheffield: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y cyllid hwn ac yn edrych ymlaen at ddechrau’r prosiect. Bydd ein harsylwadau yn darparu mewnbynnau hanfodol ar gyfer modelau hinsawdd, llenni iâ a chefnforoedd a ddefnyddir i efelychu pwyntiau tyngedfennol hinsawdd.”

Mae prosiect GRuMPS yn rhan o becyn cyllid gwerth £81m gan yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Uwch (ARIA) o'r enw Rhagweld Pwyntiau Tyngedfennol, sydd â'r nod o wella ein hymateb i newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu system rhybudd cynnar ar gyfer pwyntiau tyngedfennol.

Mae pwynt tyngedfennol yn yr hinsawdd yn drothwy lle mae rhai ecosystemau neu brosesau planedol yn dechrau symud o un cyflwr sefydlog i’r llall, gan sbarduno newidiadau dramatig sy’n aml yn hunan-atgyfnerthol yn y system hinsawdd. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys dŵr ffo tawdd sy’n effeithio ar brif system cerrynt cefnforol Cefnfor yr Iwerydd, a allai yn ei dro oeri Gogledd Ewrop yn sylweddol.