Artist yn rhoi llais i gorsydd mawn 

Miranda Whall

Miranda Whall

24 Mawrth 2025

Bydd prosiect arloesol yn rhoi llais unigryw i gorsydd mawn wrth geisio cyfleu data gwyddonol trwy gelf.

Arweinir y prosiect 'When Peat Speaks' gan ddarlithydd Celf Prifysgol Aberystwyth, Miranda Whall.

Bydd yn tynnu sylw at arwyddocâd amgylcheddol corsydd mawn, eu natur fregus, a'u rôl hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd.

Bydd y prosiect yn defnyddio data gwyddonol a gasglwyd gan wyddonwyr Prifysgol Aberystwyth o 32 llain o fawndir yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir y Brifysgol, Pwllpeiran ym Mynyddoedd Cambria.  

Bydd y prosiect yn cyfleu'r data gwyddonol drwy gelf weledol – lluniadu a cherflunio estynedig a fydd yn ffurfio cyfres o sgorau cerddorol, dau weithdy creadigol gyda phobl ifanc, a ffilm ddogfen.

Bydd yn cyrraedd ei uchafbwynt ym mis Mai 2026 gyda pherfformiad ymdrochol amlgyfrwng gan ensemble rhyngwladol. Bydd 'When Peat Speaks:  A Boggy Ensemble', yn cael ei lwyfannu ar y fawnog yn y cyfnos. Bydd y gwaith yn edrych ar bwysigrwydd ecolegol a diwylliannol y mawndir trwy gelf perfformio, cerddoriaeth/byrfyfyrio sonig, a dawns Butoh.

Meddai Miranda Whall:

"Rwy'n gyffrous iawn am y prosiect hwn, sef cam nesaf fy ngwaith i drosi ffenomenau naturiol yn ffurfiau celf creadigol.  Drwy weithio yn y croestoriad rhwng celf a gwyddoniaeth, rwy'n gobeithio dangos y rôl sydd gan y celfyddydau i weithredu ar ran yr hinsawdd, a chyfrannu at y sgwrs ynghylch gwaredu nwyon tŷ gwydr.

"Mawn yw'r arwr di-glod yn stori’r argyfwng hinsawdd.  Yn ogystal â bod yn hanfodol i ddal carbon, mae ei haenau yn ymgorffori storïau a chyfrinachau sydd heb eu hadrodd, wedi eu diogeli dros filenia, a bydd y prosiect hwn yn datgelu ac yn dathlu'r agweddau unigryw hyn ar fawn."

Hefyd yn rhan o'r prosiect mae Mariecia Fraser, Athro Ecosystemau Amaethyddol yr Ucheldir yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a nifer o gydweithwyr artistig.  Mae wedi cael cefnogaeth gan CO2RE, canolfan ymchwil genedlaethol y DU ar Waredu Nwyon Tŷ Gwydr a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).