Lansio cynllun i ddiogelu rhewlifoedd sy’n dadmer: digwyddiad y Cenhedloedd Unedig

Ymchwilydd Prifysgol Aberystwyth Dr Arwyn Edwards yn Svalbard Credyd: Dr Iain Rudkin, British Antarctic Survey
19 Mawrth 2025
Bydd cynllun newydd i arafu dadmer rhewlifoedd y byd a diogelu’r bywyd y tu mewn iddynt yn cael ei lansio mewn digwyddiad gan y Cenhedloedd Unedig yr wythnos hon.
Mae rhew mewn 200,000 o rewlifoedd y byd yn storio 70% o ddŵr croyw’r Ddaear ac mae’n hanfodol ar gyfer bwyd a chyflenwad dŵr biliynau o bobl.
Yn 2023, collodd rhewlifoedd ddŵr oedd tua phum gwaith cyfaint y Môr Marw.
Yn ôl gwyddonwyr, hyd yn oed gyda’r nod mwyaf uchelgeisiol o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C, bydd hyd at hanner rhewlifoedd y byd yn diflannu erbyn diwedd y ganrif.
Mae Venezuela a Slofenia eisoes y ddwy wlad gyntaf i golli eu rhewlifoedd yn llwyr yn yr oes fodern.
Mae’r cynllun newydd, o’r enw ‘Rhaglen Stiwardiaeth Rhewlif’, yn cynnig profi ffyrdd o ddiogelu’r rhewlifoedd, gan gynnwys dyfeisio deunyddiau newydd a gwella dulliau presennol fel geotecstilau er mwyn cynyddu adlewyrchedd rhewlifoedd.
Wedi’i arwain gan gynghrair ryngwladol o 37 o wyddonwyr, byddai’r prosiect 10 mlynedd hefyd yn sefydlu ‘Banc Bio Cryomicrobiome Rhyngwladol’ i warchod y bywyd microbaidd unigryw a geir ar rewlifoedd heddiw.
Mae’r cynllun yn glir na ddylid ei weld fel dewis arall yn lle camau i leihau allyriadau carbon y byd ond y gallai gyd-fynd â nhw.
Bydd y rhaglen yn cael ei lansio yn nigwyddiad Diwrnod Rhewlifoedd y Byd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis yn ddiweddarach yr wythnos hon - mae'r sefydliad wedi datgan 2025 yn Flwyddyn Ryngwladol Cadw Rhewlifoedd.
Ymhlith y grŵp o wyddonwyr o 13 gwlad sydd wedi llunio’r cynigion mae Dr Arwyn Edwards o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o sefydlu banc bio i ddiogelu microbau’r rhewlifoedd. Dywedodd:
“Mae rhewlifoedd mynydd yn hanfodol bwysig ar gyfer yr hinsawdd, cylchoedd dŵr, bioamrywiaeth a phobl. O’r Alpau i’r Andes, nhw yw tarddiad rhai o afonydd mwyaf y Ddaear –ac maen nhw’n cyflenwi dŵr ffres ac yn darparu bwyd i filiynau o bobl. Mae mwy nag un rhan o bump o boblogaeth y byd yn dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw’n gartref i organebau unigryw.
“Er ei bod yn amlwg mai lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer trwy ddatgarboneiddio systematig yw’r unig ffordd o ddiogelu rhewlifoedd yn y tymor hir, mae ein cynllun yn cynnig mesurau cyflenwol a allai gadw mwy o rewlifoedd a’r bywyd y tu mewn iddyn nhw nes at eu cyflwr presennol nag a fyddai’n bosibl fel arall.”
Byddai'r rhaglen hefyd yn cynnwys defnyddio rhwydwaith o systemau rhybuddio cynnar newydd wedi'u galluogi gan AI. Byddai’r rhain yn ceisio amddiffyn pobl a lleoedd yn rhai o fynyddoedd mwyaf peryglus y byd rhag peryglon fel llifogydd a thirlithriadau.
Ychwanegodd Dr Edwards: “Gall crebachu cyflym mewn rhewlifoedd achosi trychinebau ofnadwy: llifogydd, rhewlifoedd yn dymchwel a thirlithriadau. Gall y trychinebau hyn ddileu pentrefi cyfan, dinistrio seilwaith ynni hanfodol a ffyrdd, ac erydu pridd amaethyddol. Mae bywoliaeth sawl degau o filiynau o bobl ledled y byd mewn perygl.
“Y cynigion hyn yw ein cyfle gorau olaf i ddwyn ynghyd yr arbenigedd byd-eang sydd ei angen i ddiogelu amgylcheddau rhewlifol yn lleol, i liniaru effeithiau crebachu cyflym rhewlifoedd ar boblogaethau dynol, ac atal colli’r fioamrywiaeth dan glo.”
Ychwanegodd yr Athro Tom Ian Battin o Sefydliad Technoleg Ffederal y Swistir yn Lausanne:
“Mae’r Rhaglen Stiwardiaeth Rhewlif yn ymateb anhygoel i her ryfeddol. Bydd cynghrair ryngwladol ac amlddisgyblaethol o wyddonwyr a rhanddeiliaid yn mynd i’r afael â rhai o broblemau amgylcheddol mwyaf enbyd y Ddaear, y rhewlifoedd mynydd yn dadmer yn gyflym a’r geoberyglon cysylltiedig a cholli bioamrywiaeth.”