Plant yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth yn Aberystwyth

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis, gyda disgyblion ysgol yn y ffair gwyddoniaeth
13 Mawrth 2025
Gwnaeth dros 1,500 o ddisgyblion gymryd ran mewn gweithgareddau ymarferol bywiog yn arddangosfa wyddoniaeth ryngweithiol flynyddol Prifysgol Aberystwyth.
Roedd Ffair Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a gynhaliwyd rhwng 11-13 Mawrth, yn seiliedig ar y thema 'Newid ac Addasu', a chroesawyd plant rhwng 8 a 12 oed o bob rhan o ganolbarth a gorllewin Cymru.
Cafodd y disgyblion gyfle i fod yn agos at fywyd morol rhyfedd a chyfareddol yn yr acwariwm, teithio trwy gysawd yr haul yn y planetariwm dros dro, defnyddio model afon gweithredol i ddysgu am brosesau afonydd, mynd i fyd parasitiaid, a dysgu sut y gall ystafell afluniedig greu rhith optegol sy'n plygu’r meddwl.
Wrth blymio'n ddyfnach i'r cefnfor ar garreg eu drws, dysgodd y disgyblion sut i helpu siarcod, dod yn dditectifs dolffiniaid, a darganfod sut y gallai gwymon chwarae rôl yn nyfodol plastig.
Dywedodd Elen Roach, Rheolwr Partneriaethau a Chyswllt ag Ysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rwy'n falch iawn o sut aeth popeth a'r profiad gwych a gafodd pawb yn ein digwyddiad Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Fe wnaeth disgyblion yr ysgolion lleol fwynhau’r ystod eang o arddangosfeydd deinamig a oedd yn mynd â nhw ar daith ymarferol a rhyngweithiol trwy ryfeddodau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae digwyddiadau estyn allan fel hyn yn gyfle gwych i sbarduno chwilfrydedd a dangos i ddisgyblion pa mor bwysig yw gwyddoniaeth ym mywydau pawb. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff a'r myfyrwyr am eu hamser a'u cefnogaeth. Hebddyn nhw, ni fyddai'r digwyddiad yn bosibl."
Mae myfyrwraig ôl-raddedig o Adran y Gwyddorau Bywyd, Lisa Bucknor, a oedd yn gweithio ar un o'r stondinau yn y ffair wyddoniaeth yn cofio ymweld pan oedd hi yn yr ysgol. Dywedodd:
“Dwi'n astudio gradd meistr mewn Bioamrywiaeth a Rheolaeth Cadwraeth yma yn Aberystwyth. Dwi'n lleol ac mae gen i atgofion melys o ddod i'r ffair wyddoniaeth gyda'r ysgol gynradd, ac ro'n i wrth fy modd! Dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig gwneud gwyddoniaeth yn hwyl ac yn addysgiadol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc fel yr ysbrydolodd fi!”
Adeiladwyd y stondinau rhyngweithiol gan staff yn adrannau Gwyddorau Bywyd, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Ffiseg a Seicoleg y Brifysgol a chynhaliwyd yr arddangosiadau a’r arbrofion gan fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig yn ogystal â staff academaidd.