Gosod y lechen olaf ar dyredau De Seddon

Nodi gosod y llechen olaf ar dyredau De Seddon yr Hen Goleg, 5 Mawrth 2025. O'r chwith i'r dde; Jon Greenough (Greenough & Sons); Neil Cains (Andrew Scott Ltd); Matthew Dyer (Austin Smith Lord), Jim O’Rourke (Prifysgol Aberystwyth) a Calum Duncan (Andrew Scott) yn sefyll wrth y ffinial newydd ar brif dyred De Seddon, yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth. Hawlfraint Andrew Scott Ltd
07 Mawrth 2025
Mae’r gwaith o adnewyddu’r tyredau nodedig ar ben deheuol yr Hen Goleg bron wedi ei gwblhau wrth i waith ar y prosiect uchelgeisiol i roi bywyd newydd i’r adeilad rhestredig gradd 1 gymryd cam sylweddol ymlaen.
Cafodd yr olaf o lechi gwyrdd y tyredau ei hoelio yn ei lle gan yr arbenigwyr toi o ogledd Cymru Greenough & Sons yr wythnos hon, wrth i brif gontractwr y prosiect Andrew Scott Cyf nodi cynnydd ar y rhan hon o Dde Seddon.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol yn y 1860au fel ystafelloedd te, bu’r pensaer o Lundain J P Seddon yn goruchwylio’r gwaith o’i ddatblygu’n floc gwyddoniaeth fel rhan o’r gwaith o ailddatblygu’r Hen Goleg yn dilyn tân mawr 1885.
Yn ei ffurf ddiweddaraf, bydd De Seddon yn gartref i ganolfan fusnes a menter a mannau astudio i fyfyrwyr.
Tra bod yr adeilad yn cael ei drawsnewid, mae llawer o'i nodweddion hanesyddol wedi'u cadw, gan gynnwys yr hyn sy'n weddill o'r system awyru a osodwyd yn y labordai gwyddoniaeth dros 130 o flynyddoedd yn ôl.
Yn unol â’i dreftadaeth bensaernïol, mae llechi newydd ar do’r adeilad yn cyd-fynd â’r llechi glas gwreiddiol a gynhyrchwyd gan Chwarel Lechi’r Penrhyn yng ngogledd Cymru.
Mae 3000 o lechi sydd ychydig yn drymach wedi’u gosod ar y rhan o’r adeilad sy’n wynebu’r môr er mwyn gallu gwrthsefyll y tywydd yn well, tra bod 3000 o lechi gwreiddiol y to wedi’u cadw a’u hailddefnyddio yr ochr arall.
Byddai'r llechi gwyrdd gwreiddiol ar gyfer y tri thyred wedi cael eu cloddio yn Nyffryn Nantlle, gogledd Cymru. Gan nad yw'r rhain ar gael bellach, cafwyd lechi sy’n cyfateb o Vermont yn yr Unol Daleithiau.
Drwy ddefnyddio technegau traddodiadol, torrwyd pob llechen yn unigol i faint wrth i bob rhes dynhau wrth fynd i fyny'r tyredau.
Yn anffodus, roedd y ffinial fu’n sefyll ar y prif dyred ers y 1880au wedi rhydu tu hwnt i'w atgyweirio.
Gan ddefnyddio delweddau hanesyddol a'r hyn oedd yn weddill o'r gwreiddiol, mae copi newydd sydd yr union yr un fath bellach yn ei le.
Cafodd y ffinial newydd, sy’n 2.3 metr o hyd ac yn pwyso 30 cilogram, ac wedi ei gwneud o goed, haearn bwrw a haearn gyr, ei chynhyrchu gan Acorn Restorations Ltd o Rymni.
Mae dwy ffinial newydd o haearn bwrw a phlwm hefyd yn eu lle ar y tyredau llai.
Mae’r landeri haearn bwrw gwreiddiol ar De Seddon hefyd wedi’u glanhau a’u hamddiffyn rhag yr elfennau gan orchudd morol goddefgar arbennig.
A gosodwyd landeri newydd eu bwrw a wnaed gan ddefnyddio mowldiau o’r landeri gwreiddiol.
Gyda’r lechen olaf yn ei lle, bydd sêl blwm yn cael ei gosod o amgylch gwaelod y ffinialau cyn i’r gwaith o ostwng y sgaffaldiau ddechrau.
Dywedodd Jon Greenough o Greenough & Sons Roofing Contractors Ltd:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar brosiect mor fawreddog ac adeilad sydd mor arwyddocaol yn hanesyddol. Mae gweithio mor agos at y môr lle mae’r tîm yn aml yn agored i’r gwyntoedd cryfion o Fae Ceredigion wedi gwneud y gwaith hwn yn arbennig o heriol, ond mae gweld y tyredau wedi’u cwblhau yn rhoi ymdeimlad aruthrol o gyflawniad i bawb. Braf hefyd yw gweld cenhedlaeth newydd o dowyr ifanc yn dysgu eu crefft ar adeilad hanesyddol sydd angen y fath sylw at fanylder ac yn gyfle i werthfawrogi crefft y cenedlaethau a fu’n gweithio ar yr Hen Goleg.”
Dywedodd Shaun Davies, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg gydag Andrew Scott Cyf: “Mae cwblhau’r tyredau ar De Seddon yn gam mawr ymlaen. Mae cribau a dyffrynnoedd to helaeth yr Hen Goleg yn gwneud hon yn dasg hynod gymhleth sy'n gofyn am lawer o sylw at fanylder.”
Dywedodd Matthew Dyer, Pensaer Cadwraeth gydag Austin Smith Lord:
“Mae’r Hen Goleg yn adeilad hynod sydd wedi parhau i newid ar hyd y blynyddoedd. Adeilad unllawr oedd De Seddon yn wreiddiol gydag adran bren wedi'i hychwanegu'n ddiweddarach. Yna cafodd ei ailddatblygu i ddarparu darlithfeydd gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, labordai addysgu a labordai preifat ar gyfer Athrawon y Brifysgol. Nid yn unig y mae ein gwaith wedi datgelu elfennau sylweddol o’r adeilad gwreiddiol, rydym hefyd wedi dod o hyd i fwâu a oedd yn cysylltu â Thŷ’r Castell, a adeiladwyd yn y 1790au ac a ddymchwelwyd yn y 1890au i wneud lle i’r bloc gwyddoniaeth newydd.”
“Nid dyma’r tro cyntaf i do De Seddon gael ei ail-wneud; ymddengys iddo gael ei adnewyddu o leiaf unwaith o'r blaen. Yn anffodus, roedd y llechi ar y tyredau wedi’u gosod mewn bitwmen, gan eu gwneud yn amhosibl eu hailddefnyddio ac yn atal y to rhag ‘anadlu’. Trwy ddefnyddio’r dull ffelt ac estyll traddodiadol gyda bondio ychwanegol dros y ffrâm bren wreiddiol, rydym yn gobeithio datrys y problemau lleithder a effeithiodd ar y rhan hon o’r adeilad.”
Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous sy’n trawsnewid yr adeilad eiconig hwn yn adnodd newydd gwych ar gyfer yr 21ain ganrif ar gyfer y Brifysgol a'r gymuned ehangach. Bydd datgelu’r tyredau wedi eu cwblhau, wrth i’r sgaffaldiau ar yr rhan hon gael eu gostwng, yn gyfle i werthfawrogi’r gwaith hynod gywrain sy’n cael ei wneud ar do’r Hen Goleg gan dîm Greenough. At ei gilydd, mae tua 70,000 o lechi yn cael eu gosod gyda llaw, rhai newydd a rhai wedi’u hadfer; tasg enfawr a chymhleth.”
Bywyd Newydd i'r Hen Goleg
Mae’r Hen Goleg, cartref eiconig Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys.
Bydd prosiect yr Hen Goleg yn darparu canolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio a sinema flaengar.
Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.
Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.
Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn 2026.