Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i chofrestru i ddarparu hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn Lwfans Myfyrwyr Anabl
Y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n darparu’r hyfforddiant hwn ar ran Prifysgol Aberystwyth.
Os dyfarnwyd hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol i chi yn rhan o’ch Lwfans Myfyrwyr Anabl a bod Prifysgol Aberystwyth wedi’i henwebu fel darparwr eich hyfforddiant cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (Sut mae gwneud hynny?) i drefnu eich hyfforddiant.
Byddwn angen copi o’ch llythyr DSA2.
Fel rheol cynhelir yr hyfforddiant yn Llyfrgell Hugh Owen ar offer y myfyrwyr eu hunain.
Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol - Costau
Hyfforddiant | Costau | |
Am bob sesiwn 1 awr o hyfforddiant | £50 yr awr | Wedi'i dalu gan Gyllid Myfyrwyr fel rhan o lwfans myfyrwyr anabl |