Prosiect ceirch iach yn denu grant mawr

Un o gaeau IBERS lle mae ceirch yn cael eu tyfu at ddibenion ymchwil.

Un o gaeau IBERS lle mae ceirch yn cael eu tyfu at ddibenion ymchwil.

17 Chwefror 2021

Mae prosiect ymchwil i hyrwyddo datblygiad ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru ac Iwerddon wedi derbyn grant Ewropeaidd sylweddol.

Bydd y prosiect 'Ceirch Iach' yn elwa o €2.18 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraethau Cymru ac Iwerddon fel rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn, mae'r prosiect yn dwyn ynghyd wyddonwyr o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, ac Awdurdod Amaethyddiaeth a Datblygu Bwyd Iwerddon, Teagasc. 

Mae ymchwil yn IBERS yn Aberystwyth eisoes wedi arwain at ddatblygu mathau gwell o geirch a all helpu i leihau clefyd y galon drwy ostwng lefelau colesterol.

Ymhlith y mathau o geirch sydd wedi’u bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth mae Mascani, sy’n ffefryn gan felinwyr ac sy'n cyfrif am dros 80% o farchnad ceirch gaeaf y Deyrnas Unedig.

Oherwydd eu lefelau uwch o brotein ac olew, mae gan geirch werth maethol uchel iawn ac maen nhw’n gallu cael eu defnyddio yn lle mewnforio soia.  

Mae gweithgynhyrchwyr bwyd yn ehangu eu detholiad o gynnyrch ceirch yn gyflym - o'r uwd a'r ceirch traddodiadol i fariau grawnfwyd, bara a diodydd.

Gyda'r galw am geirch yn cynyddu wrth i ddefnyddwyr chwilio am fwydydd iachach a dewisiadau amgen sy'n seiliedig ar blanhigion, bydd y prosiect diweddaraf hwn yn ceisio datblygu mathau newyddo geirch sy’n gallu gwrthsefyll eithafion yr hinsawdd yn ogystal â chynhyrchion a gweithdrefnau arloesol gyda phartneriaid diwydiannol.

Bydd ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda chymunedau amaethyddol a rhanddeiliaid i hyrwyddo manteision iechyd, economaidd ac amgylcheddol tyfu ceirch – cnwd sy'n ddelfrydol ar gyfer hinsawdd y ddwy wlad.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rwy'n falch iawn o weld bod y prosiect 'Ceirch Iach' wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru.

"Mae parhau’r cydweithio rhwng prifysgolion yn Iwerddon a Chymru yn nodi nid yn unig ein hymrwymiad parhaus i annog cysylltiadau ymchwil cydweithredol fel hyn, ond hefyd i hyrwyddo arloesedd a chydweithio hollbwysig yn ein sector bwyd. Mae mentrau fel y rhain yn hanfodol i'n heconomi ac rydym yn falch o barhau i'w cefnogi.

"Dylid llongyfarch pawb sy'n ymwneud â'r prosiect ar eu llwyddiant, ac edrychwn ymlaen at hyrwyddo llwyddiant cynlluniau tebyg."

Dywedodd Gweinidog Iwerddon dros Wariant a Diwygio Cyhoeddus, Michael McGrath, T.D. "Hoffwn longyfarch pawb sy'n ymwneud â'r prosiect Ceirch Iach ar eu cais llwyddiannus am gyllid i gefnogi eu hymchwil werthfawr. Mae'r prosiect hwn yn nodi cydweithio llwyddiannus pellach rhwng sefydliadau Iwerddon a Chymru a gefnogir gan raglen drawsffiniol Iwerddon Cymru yr UE.

"Bydd y grant hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu opsiynau arloesol ar gyfer defnyddio ceirch, sy'n ffynhonnell fwyd iach, sy'n gwrthsefyll yr hinsawdd ac sy’n cael ei dyfu’n  lleol yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe ac Awdurdod Amaethyddiaeth a Datblygu Bwyd Iwerddon, Teagasc.

"Mae cydweithredu gan sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon ar raglenni'r UE wedi bod yn rym cadarnhaol o ran cryfhau'r berthynas agos rhyngom, a hyrwyddo ymgysylltu parhaus a chynyddol ar draws Môr Iwerddon. Dymunaf bob llwyddiant i'r prosiect hwn ac edrychaf ymlaen at barhau i ddatblygu prosiectau cydweithio tebyg".

Dywedodd yr Athro John Doonan, sy’n arwain yr ymchwil o fewn IBERS: "Bydd y grant hwn gan yr UE yn ein galluogi i adeiladu ar yr ymchwil helaeth a wnaed eisoes yn IBERS. Mae ceirch yn tyfu'n dda iawn yng Nghymru ac Iwerddon a bydd cynnyrch newydd yn rhoi'r cyfle i gynyddu cynhyrchiant ac ychwanegu gwerth at gnwd traddodiadol. Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar ddwy ochr Môr Iwerddon i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o botensial y cnwd hwn." 

Ychwanegodd Dr Catherine Howarth, pennaeth bridio ceirch ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Yn ogystal ag archwilio mathau cyfoes o geirch, bydd y prosiect hwn yn archwilio hyblygrwydd hinsawdd a chyfansoddiad y grawn mewn mathau o geirch treftadaeth o bob rhan o Gymru ac Iwerddon. Er mwyn cynyddu gwydnwch a gwerth systemau tyfu cnydau i gymunedau gwledig, mae angen i ni wella bioamrywiaeth ym myd amaeth."

Dywedodd yr Athro Fiona Doohan, o Goleg Prifysgol Dulyn sy'n arwain y prosiect: "Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, mae ceirch yn rhan bwysig iawn o amaethyddiaeth Cymru ac Iwerddon ac mae yna ymwybyddiaeth o'r newydd o'u manteision iechyd a photensial strategaethau fferm-i-fforc i ddarparu cynhyrchion ceirch arloesol, iach a llawn maeth. Mae'r prosiect hwn a ariennir gan yr UE yn amserol iawn gan y bydd yn adeiladu ar ymchwil ceirch yn Iwerddon a Chymru i helpu diwydiannau yn y rhanbarthau hyn i fanteisio ar y galw cynyddol am gynhyrchion ceirch a gynhyrchir yn gynaliadwy."

Dywedodd Dr Ewen Mullins, Pennaeth Ymchwil Cnydau Teagasc: "Mae prosiectau fel Ceirch Iach yn darparu llwyfan ymchwil allweddol i fynd i'r afael ag anghenion rhanddeiliaid yn y sector. Bydd Ceirch Iach, ar y cyd â phrosiectau sy’n parhau, yn darparu datrysiadau a arweinir gan ymchwil i heriau'r presennol a'r dyfodol. Bydd hyn yn cefnogi ehangu'r farchnad geirch, gan ddod â gwerth ychwanegol i gynhyrchwyr a phawb sy’n rhan o’r gadwyn werth."

Caiff llwyfan digidol ei greu yn rhan o'r prosiect er mwyn rhannu gwybodaeth gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.

Bydd ArloesiAber, sydd wedi'i leoli ochr yn ochr ag IBERS ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, hefyd yn ymgysylltu â busnesau ac yn cynnig adnoddau i gefnogi ymrwymiad masnachol.