Ymgynghoriad ar ffordd newydd o raddio cig eidion

Dr Pip Nicholas-Davies

Dr Pip Nicholas-Davies

12 Chwefror 2021

Gallai gwerthuso cig eidion mewn ffordd newydd olygu bod cwsmeriaid yn fwy bodlon gyda’u prydiau bwyd, yn ôl ymchwilwyr.

Byddai system graddio newydd ar gyfer y cig yn adeiladu ar gryfderau presennol ffermio yng Nghymru, a gallai gwarantu profiad bwyta cyson i gwsmeriaid.

Cafodd dull newydd o werthuso cig eidion ei grybwyll i’r sectorau bwyd ac amaethu yn ystod gweminarau a drefnwyd gan brosiect BeefQ a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae gofyn i’r rheini yn y gadwyn cyflenwi cig eidion gymryd rhan mewn ymgynghoriad er mwyn dweud eu dweud ar y cynnig.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Beef Q, Dr Pip Nicholas-Davies:

“Rydym yn edrych ar ffyrdd o sicrhau profiad bwyta cyson i gwsmeriaid. Wedi’r cwbl, bydd cwsmer yn prynu cynnyrch drosodd a thro os yw’n cwrdd â’u disgwyliadau. Mae cig eidion o Gymru yn enwog am ei ansawdd gan gynnwys ei darddiad, systemau cynhyrchu, safonau lles ac ôl-droed carbon. Fodd bynnag, yn gyffredinol ac o dro i dro, gall cig eidion amrywio o ran ei nodweddion ansawdd megis pa mor frau yw’r cig, faint o sudd sydd ynddo a’i flas.

“Cafodd paneli blasu gan gwsmeriaid eu cynnal a datgelon nhw fod pobl yn fodlon talu dwbl y pris am gynnyrch o’r ansawdd uchaf. Fe roddodd y wybodaeth gan y panel blasu gyfle i ni ddatblygu model ar gyfer darogan ansawdd bwyta cig eidion. Mae gan y model y potensial o arwain at warantu safon ansawdd bwyta ac i gynyddu hyder cwsmeriaid mewn cig eidion.”

Gallai’r dull newydd ddod ag ansawdd gwell a mwy o gynnyrch a fyddai o fudd i gynhyrchwyr.

Dywedodd Deanna Leve, Gweithredwr Marchnad Allforio Hybu Cig Cymru:

“Rydym yn gwybod yn barod bod cig eidion yn cael ei gynhyrchu i safon eithriadol o uchel yng Nghymru. Mae’r arferion o ffermio cynaliadwy, hwsmonaeth anifeiliaid a rheolaeth tir pori arbennig o dda i’w diolch am hynny.  Fodd bynnag, dyw’r cyfuniad hwn ddim yn gwarantu profiad bwyta cyson i gwsmeriaid bob amser.

“Mae gan ffermwyr rôl allweddol wrth osod y gwerth posib i ansawdd bwyta cig. Caiff yr uchafswm posib o ran faint sy’n cael ei gynhyrchu ac ansawdd bwyta cig ei osod o’r dechrau, felly mae popeth - o ddetholiad genetig, maeth cyn geni ac ôl geni yn y fuwch, stocmonaeth dda, y safonau iechyd uchaf a thrin â’r cig heb straen - yn ddylanwad ar y cynnyrch gorffenedig.”

Arferai Deanne weithio fel gwerthuswr yn Safonau Cig Awstralia (MSA). Ychwanegodd: “Mae system ansawdd bwyta wedi bod yn ei lle ers 20 mlynedd yn Awstralia ac mae bellach yn cael ei hystyried fel arf marchnata allweddol. Mae’n anodd gwerthu cynnyrch nad yw wedi cael ei raddio i’r sector gwasanaethau bwyd gan fod pobl yn gallu gweld budd cynnyrch sydd ag ansawdd wedi ei warantu.”

Dywedodd Dr Pip Nicholas Davies o Brifysgol Aberystwyth: “Canfod a yw’r system hon yn rhywbeth mae’r diwydiant ei eisiau yw cam nesaf y prosiect BeefQ. Bydden ni’n annog unrhyw un sy’n gweithio yn y gadwyn cyflenwi cig eidion, yn ogystal â’r sectorau arlwyo a lletygarwch, i gwblhau’r arolwg. Bydd eu hymatebion yn cyfrannu at argymhellion ar ddichonoldeb y system, os a sut y gellid ei gyflawni a’r rhwystrau ymddangosiadol.”

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan BeefQ tan 31 Mawrth 2021:

http://www.beefq.wales/survey.html

Gellir gwylio’r gweminarau a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth drwy fynd i:

http://www.beefq.wales/events.html