Gwobr Cyfraniad Unigol

Meini Prawf 

Y meini prawf i wneud cais am Wobr Cyfraniad Unigol - Graddau 1-9 

Y meini prawf i wneud cais am Wobr Cyfraniad Unigol - Graddau 1-9 

Wrth ystyried ceisiadau gan unigolion am wobr cyfraniad, bydd y panel gwobrwyo yn chwilio am dystiolaeth benodol o’r modd y mae'r cais yn bodloni'r meini prawf. Dyma’r meini prawf: 

  • Tystiolaeth amlwg o’r modd y mae gweithiwr wedi mynd uwchlaw’r hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu swydd yn gyson, gan ddangos rhagoriaeth a chyflawni mwy na gofynion y swydd.   

Ni ddylai'r datganiad fod yn hwy na hanner un ochr o ddalen A4. 

Y ceisiadau fydd yn ennill y sgoriau uchaf fydd y rhai hynny sy'n dangos yn fwyaf eglur pa mor eithriadol yw’r modd y mae’r gweithiwr wedi bodloni'r meini prawf.  

Meini prawf ychwanegol ar gyfer graddau 8-9 

 Ar gyfer graddau 8-9, bydd angen i ymgeiswyr hefyd roi: 

  • Tystiolaeth amlwg, wrth ystyried gwerthoedd y Brifysgol, o’r modd y mae’r gweithiwr wedi ymgorffori gwerthoedd y Brifysgol yn eu gwaith dros y 12 mis diwethaf, fel un o uwch arweinwyr y Brifysgol.   

Ni ddylai'r adran hon fod yn hwy na 500 gair.  

Y meini prawf i wneud cais am Wobr Cyfraniad Unigol - Gradd 10

Wrth ystyried ceisiadau ar gyfer staff Gradd 10 bydd y panel yn chwilio am dystiolaeth o’r modd y mae'r cais yn bodloni’r meini prawf, sef: 

  • Tystiolaeth amlwg o’r modd y mae’r gweithiwr wedi gwneud cyfraniad rhagorol parhaus ac wedi mynd uwchlaw i brif ofynion y swydd yn gyson, a/neu wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu swydd. 
  • Tystiolaeth amlwg o arweinyddiaeth gadarnhaol eithriadol (gall gynnwys arwain                         prosiectau, arweinyddiaeth academaidd yn ogystal â rheoli llinell uniongyrchol).                       
  • Tystiolaeth amlwg, wrth ystyried gwerthoedd y Brifysgol, o’r modd y mae’r gweithiwr wedi ymgorffori gwerthoedd y Brifysgol yn eu gwaith dros y 12 mis diwethaf, fel un o uwch arweinwyr y Brifysgol. 

 

Y meini prawf i wneud cais am Wobr Cyfraniad Unigol - Timau

Gall rheolwyr llinell gyflwyno cais am wobr i dîm. Bydd y wobr i dimau yn cael ei hasesu gan ddefnyddio’r un meini prawf â’r wobr i unigolion a bydd y panel gwobrwyo yn chwilio am dystiolaeth benodol o’r modd y mae'r cais yn bodloni'r meini prawf.  Dyma’r meini prawf: 

  • Tystiolaeth amlwg o’r modd y mae eich tîm wedi mynd uwchlaw’r hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu swyddi yn gyson, gan ddangos rhagoriaeth a chyflawni mwy na gofynion eu swyddi.   

Ni ddylai'r datganiad fod yn hwy na hanner un ochr o ddalen A4. 

Y ceisiadau fydd yn ennill y sgoriau uchaf fydd y rhai hynny sy'n dangos yn fwyaf eglur pa mor eithriadol yw’r modd y mae’r gweithiwr wedi bodloni'r meini prawf.  

Cymhwysedd

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Mae'r holl staff academaidd a phroffesiynol a gyflogir ar raddfa dâl y Brifysgol (graddau 1-9) yn gymwys i wneud cais am wobr cyfraniad unigol.  

Mae'r holl staff academaidd a phroffesiynol sy'n cael eu cyflogi ar radd 10 ac nad ydynt ar uchafswm y raddfa gyflog yn gymwys i wneud cais am gynyddran symud ymlaen.  

Rydym yn annog rheolwyr llinell i gyflwyno ceisiadau ar gyfer aelodau o'u timau sydd wedi cyflawni y tu hwnt i’r disgwyliadau, neu sydd wedi bod yn nodedig o ran eu rhagoriaeth dros y 12 mis diwethaf. Derbynnir ceisiadau am wobrau ar gyfer timau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol fel grŵp. Yn wahanol i'r wobr cyfraniad unigol, mae gwerth penodol i’r wobr i dimau, sef £1000, a bydd yr arian hwnnw’n cael ei rannu’n gyfartal. Gall Gweithrediaeth y Brifysgol ddewis addasu'r gwerth hwn os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau gwobr o faint rhesymol.    

Rhaid ichi fod wedi cwblhau eich Cynllun Cyfraniad Effeithiol yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn bod yn gymwys am Wobr Cyfraniad Unigol.  

Y Broses 

Sut mae gwneud cais?

Dyma'r broses ar gyfer y wobr flynyddol: 

  • Dylid gwneud ceisiadau trwy borth y Gwobrau Cyfraniad Unigol ar MyAdmin. Os nad oes gennych fynediad i systemau cyfrifiadurol y Brifysgol, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais yn Word fan hyn, a’i chyflwyno ar ebost i dyrchafiadau-academaidd@aber.ac.uk 
  • Ffurflen gais 1 i 9 y gellir ei lawrlwytho
  • Ffurflen gais gradd 10 y gellir ei lawrlwytho
  • Ceisiadau ar gyfer gradd 1-7: gwnewch yn siŵr nad yw eich ymateb yn hwy nag un ochr dalen A4. 
  • Ceisiadau ar gyfer gradd 8-9: gwnewch yn siŵr nad yw eich ymateb i gwestiwn 1 yn hwy nag un ochr dalen A4, ac nad yw eich ymateb i gwestiwn 2 yn hwy na 500 gair.  
  • Ceisiadau ar gyfer gweithwyr gradd 10: sicrhewch nad yw eich ymatebion yn hwy na 500 gair ar gyfer pob adran.  
  • Bydd ceisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu hanfon at Bennaeth yr Adran (neu’r aelod perthnasol o’r Weithrediaeth os mai cais gan Bennaeth Adran ydyw). Gofynnir iddynt nodi a ydynt yn cefnogi'r cais a gwirio'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Bydd Penaethiaid Adran yn cael cyfle i roi tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'r cais os mynnant. Os nad yw’r Pennaeth Adran yn cefnogi’r cais, gofynnir iddynt gyfiawnhau eu hymateb. 
  • Yna bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r panel gwobrwyo er mwyn iddynt hwy ei ystyried.
  • Os oes unrhyw wybodaeth ar goll bydd y ffurflen yn cael ei dychwelyd at y sawl a’i cyflwynodd yn wreiddiol.
  • Mewn amgylchiadau eithriadol gall y panel ofyn am wybodaeth ychwanegol.
  • Gall y gweithiwr neu'r rheolwr llinell gyflwyno ceisiadau am wobr cyfraniad eto yn y blynyddoedd wedi hynny. 

Y Panel Gwobrwyo

  • Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan Rhodri Llwyd Morgan a’r Dirprwy Is-Ganghellor.
  • Bydd aelodaeth y panel yn cynnwys tua 5 aelod, i gynnwys cymysgedd o gynrychiolwyr Gwasanaethau Academaidd a Phroffesiynol a chynrychiolaeth Undebau Llafur (fel sylwedydd sy’n siarad). 
  • Bydd ceisiadau'n cael eu sgorio gan holl aelodau'r panel ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, a bydd sgôr cyfartalog yn cael ei gywain er mwyn canfod yr ymgeiswyr â’r sgoriau uchaf.   
  • Yr Adran Adnoddau Dynol fydd yn gyfrifol am fonitro niferoedd yr unigolion/rheolwyr llinell o’r cyfadrannau/adrannau gwasanaethau proffesiynol sy’n gwneud ceisiadau. 
  • Bydd canlyniad penderfyniadau'r panel yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig ynghyd ag unrhyw adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus. 

 

Rhaid i bob aelod o'r panel gael sesiwn hyfforddi fer ar 'Ragfarn Ddiarwybod' cyn sgorio'r ceisiadau, os nad ydynt wedi cael yr hyfforddiant hwnnw eisoes. Mae’r sesiwn ar gael ar Learn Upon neu ar dudalen y Cwrs Cydraddoldeb ac Amrywioldeb. 

Meini prawf

Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd ar y ffurflen gais, gydag aelodau'r panel yn asesu pob cais yn annibynnol yn unol â'r ystod o sgoriau isod:- 

Graddau 1-7 (sgorio yn erbyn 1 maen prawf gydag uchafswm o 10 pwynt ar gael. Y sgôr uchaf posibl yw 10 pwynt) 

Rhagorol 

10 pwynt 

Dim tystiolaeth 

0 pwynt 

Graddau 8-9 (sgorio yn erbyn 2 faen prawf gydag uchafswm o 10 pwynt ar gael ar gyfer pob un ohonynt. Y sgôr uchaf posibl yw 20 pwynt) 

Rhagorol 

10 pwynt 

Dim tystiolaeth 

0 pwynt 

Gradd 10 (sgorio yn erbyn 3 maen prawf gydag uchafswm o 10 pwynt ar gael ar gyfer pob un ohonynt. Y sgôr uchaf posibl yw 30 pwynt) 

Rhagorol 

10 pwynt 

Dim tystiolaeth 

0 pwynt 

Wedi’r asesiadau annibynnol, bydd aelodau'r panel yn cwrdd i gymedroli'r sgoriau, a byddant hefyd yn gwneud sylwadau ynghylch y rhesymau am y sgoriau a roddwyd ganddynt. Gellir defnyddio'r sylwadau hyn fel y prif adborth i ymgeiswyr. 

Wedi i’r asesiad gael ei gwblhau, bydd aelodau'r panel yn cytuno ar sgôr cyfartalog cyffredinol ar gyfer pob cais. Yna bydd y ceisiadau’n cael eu rhoi mewn trefn (o'r uchaf i'r isaf yn y tri chategori o ran graddau). Bydd y panel gwobrwyo yn mynd ati wedyn i ystyried faint o wobrau a roddir ar sail y gyllideb sydd ar gael, a byddant yn cyflwyno'r cynnig hwn i’r Weithrediaeth er mwyn iddo gael ei gymeradwyo. 

Sylwer - byddwn yn dyfarnu’r gwobrau ar gyfer ceisiadau eleni ar sail rhagoriaeth ac o fewn terfyn ariannol. Rydym yn cydnabod bod llawer o’n cydweithwyr wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed, ond proses gystadleuol fydd hon a dim ond y rhai mwyaf eithriadol fydd yn cael gwobr. 

Dyfarniad Cyfraniad Unigol – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw diben y cynllun Gwobrau Cyfraniad Unigol?

Mae'r cynllun Gwobrau Cyfraniad Unigol i  gydnabod cyfraniadau gweithwyr ar raddau 1-9. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall Rheolwyr Llinell enwebu aelodau eu tîm i gydnabod eu perfformiad a'u cyfraniad eithriadol i'r Brifysgol. 

Gellir gwneud ceisiadau unwaith y flwyddyn ac mae'n ofynnol i Reolwyr Llinell neu unigolion ddangos tystiolaeth o'u cyfraniad yn erbyn meini prawf penodol yn unol â'u gradd. 

Pam mae'r cynllun wedi newid ar gyfer graddau 1-9?

Diolch i adborth gan gydweithwyr, rydym wedi symleiddio'r broses eleni, ac rydym yn annog Rheolwyr Llinell i enwebu'r aelodau hynny o'u timau sy'n eithriadol. Cafodd cynnig ei drafod gyda’r Undebau Llafur ar gyfer eleni, a chytunwyd y byddai'n fwy teg symleiddio'r broses. Bydd y gwobrau ar ffurf un taliad bonws nad yw’n bensiynadwy.

Byddwn yn parhau i adolygu’r broses.

Pam mae gradd 10 yn cael eu gwobrwyo â chynyddiadau dilyniant yn hytrach na thaliadau unigol?

Nid yw gweithwyr gradd 10 yn cael unrhyw gynyddrannau yn awtomatig - yn wahanol i weithwyr ar raddfeydd cyflog graddau 1-9 - felly nid ydynt wedi cael unrhyw gyfle i symud ymlaen fesul cynyddran. O’r herwydd, cytunwyd gyda’r Undebau Llafur y bydd gweithwyr gradd 10 yn parhau i gael eu gwobrwyo â chynyddrannau, a elwir yn 'gynyddrannau symud ymlaen’

Pam mai dim ond tystiolaeth ategol o'r flwyddyn academaidd diwethaf y ceir ei chyflwyno?

Cafodd y cynllun Gwobrau Cyfraniad Unigol ei gynnal y llynedd, gyda gweithwyr yn cael eu cydnabod am y gwaith a wnaethant yn y ddwy flynedd cyn hynny. Mae arnom eisiau sicrhau eleni ein bod yn cydnabod y gwaith a wnaed ers i’r cynllun Gwobrau Cyfraniad Unigol gael ei gynnal ddiwethaf, gan sicrhau bod y dystiolaeth yn gyfoes ac yn berthnasol i lwyddiannau’r 12 mis diwethaf.

Pam mae'r meini prawf wedi newid?

Fe wnaethom adolygu canlyniadau cynllun Gwobrau Cyfraniad Unigol y llynedd, a'r adborth a gafwyd er mwyn gwneud cynllun eleni yn fwy cynhwysol ac hygyrch i gydweithwyr ar draws yr holl raddau.

Rydym wedi symleiddio'r cais i un cwestiwn ar gyfer graddau 1-7 gyda chwestiwn ychwanegol am arweinyddiaeth ar gyfer graddau 8 a 9.

Eleni rydym hefyd yn annog Rheolwyr Llinell i gyflwyno ceisiadau ar gyfer aelodau eu tîm y dylai eu cyfraniad, yn eu barn hwy, gael ei gydnabod. Gall unigolion enwebu eu hunain o hyd, ond byddem yn eich annog i wneud hynny mewn trafodaeth â'ch Rheolwr Llinell yn rhan o’r trafod ar y Cynllun Cyfraniad Effeithiol.

Pam fod yn rhaid i raddau 8 a 9 ddangos maen prawf ychwanegol o'i gymharu â graddau 1-7? Ac os felly, a yw hynny'n golygu bod gan raddau 8 a 9 fantais o sgoriau uwch sy'n rhoi rhai ar raddau is o dan anfantais?

Wedi inni adolygu'r meini prawf, roeddem yn teimlo, ar y lefel hon, y dylai unigolion ddangos rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth a/neu reolaeth, felly roedd cynnwys hyn fel maen prawf gofynnol yn galluogi i'r sgiliau hynny gael eu hadlewyrchu'n briodol fel rhai sy’n werthfawr i'r Brifysgol.

Nid yw hyn yn golygu bod gweithwyr graddau 8 a 9 yn cael mantais - sgoriau cyfartalog a geir ar gyfer pob gradd, er mwyn sicrhau na all unrhyw radd sgorio'n uwch nag un arall.

Mae'r canllawiau'n nodi y bydd y broses yn un gystadleuol - a oes terfyn ar nifer y gweithwyr a fydd yn cael Gwobr Cyfraniad Unigol fesul gradd?

Nac oes. Bydd terfyn o ran y gyllideb sydd ar gael, ond bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn erbyn yr un uchafswm sgôr posib. Rhoddir y  ceisiadau yn eu trefn gan ddibynnu ar eu sgôr, a’r ceisiadau â'r sgôr uchaf fydd yn cael eu gwobrwyo.

Pa ran y mae rheolwyr llinell a phenaethiaid adran yn ei chwarae yn y broses?

Mae arnom eisiau annog rheolwyr llinell i gyflwyno ceisiadau ar gyfer yr aelodau hynny o staff sydd, yn eu barn hwy, wedi bod yn wirioneddol eithriadol. Gall rheolwyr llinell hefyd gyflwyno cais am wobr i dîm.

Rydym yn annog hyn gan y bydd rhai cydweithwyr yn ansicr ynghylch a yw eu cyflawniadau'n bodloni meini prawf y cynllun neu ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud cais, o bosibl, hyd yn oed pan fu eu gwaith yn rhagorol.

Pan fydd gweithiwr am ei enwebu ei hun, fel mewn unrhyw sefyllfa sy’n ymwneud â datblygiad, rydym yn disgwyl i reolwyr llinell drafod y cais yn adeiladol gyda'u staff a, lle bo'n briodol, eu cynorthwyo i gyfleu eu cyflawniadau ar y ffurflen gais.

Mae’r rhan y mae Penaethiaid Adran yn ei chwarae yn wahanol: eu swyddogaeth hwy yw gwirio bod y cais a'r dystiolaeth yn gywir. Gallant hefyd wneud sylwadau ar y cais ei hun yn rhan o’r broses honno

Pwy fydd ar y panel?

Bydd y panel yn cynnwys aelodau o’r Weithrediaeth, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol, yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol,  Mark Godsell, Cyfarwyddwr Cyllid dros dro, a Sharon Lilley, Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol.  Bydd aelod o’r Undebau Llafur hefyd yn rhan o’r panel eleni fel sylwedydd sy’n cael siarad

Taliad

Talu Gwobr Cyfraniad Unigol – Graddau 1 – 9

Bydd y wobr am gyfraniad yn cael ei thalu mewn un taliad, nad yw’n bensiynadwy. Bydd eich cyflog blynyddol yn aros yr un fath. Os ydych yn cael eich cyflogi ar sail pro-rata, bydd y wobr am gyfraniad yn cael ei haddasu yn unol â'ch cyflog Cyfwerth ag Amser Llawn.

Nodyn: bydd maint y taliad yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng pwynt cyflog yr unigolyn ar y raddfa dâl ar 1 Awst 2022 a'r pwynt nesaf ar y raddfa dâl. Mae'n anarferol iawn rhoi gwobr sy’n werth dau bwynt ar y raddfa dâl, a byddai hyn yn cael ei ystyried gan y panel am berfformiad gwirioneddol eithriadol yn erbyn y meini prawf.            

Talu cynyddran symud ymlaen – Gradd 10

Mae'r rhain yn berthnasol i staff nad ydynt eto wedi cyrraedd uchafswm cyflog eu gradd. Bydd cynyddrannau symud ymlaen yn cael eu hadlewyrchu gan gynnydd yn y tâl misol; bydd hyn yn weithredol o 1 Awst 2023.