Trefn Penodi Athrawon Emeritws

  1. Gall y Brifysgol, fel y gwêl yn dda, gyflwyno teitl Emeritws y Brifysgol i staff academaidd pan fyddant
    yn ymddeol o Brifysgol Aberystwyth.
  2. At ddibenion yr Ordinhad hwn, ystyr 'ymddeol' yw'r adeg pan fydd aelodau o'r staff yn ymddiswyddo
    o'u cyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dechrau derbyn incwm o gynllun pensiwn
    galwedigaethol eu cyflogwr diwethaf neu eu prif gyflogwr.
  3. Defnyddir teitl Emeritws i roi cydnabyddiaeth a bri i gyn-aelodau o'r staff academaidd a wnaeth
    gyfraniad eithriadol a pharhaus i academia ac a fyddai efallai'n awyddus i ddal i wneud cyfraniad i
    waith academaidd y sefydliad. Cyfraniad pro bono fyddai hwnnw, heb unrhyw dâl amdano.
  4. Gall teitl Emeritws gael ei gyflwyno gan yr Is-Ganghellor i staff academaidd pan fyddant yn ymddeol.
    Bydd enwau'r sawl sydd wedi cael teitl Emeritws yn cael eu rhoi er gwybodaeth i'r Pwyllgor
    Llywodraethu a Chydymffurfio.
  5. Ymhen tri mis o'u dyddiad 'ymddeol' arfaethedig, bydd y sawl sy'n awyddus i gael eu hystyried am
    deitl Emeritws yn cyflwyno cais i'r adran Adnoddau Dynol a fydd, ar ôl gofyn i'r Gyfadran berthnasol
    roi ei sylwadau ar bob cais, yn cyflwyno'r holl geisiadau i gael eu hystyried gan yr Is-Ganghellor. Gall
    Cyfadran hefyd gynnig unigolion i'w hystyried drwy ddilyn yr un drefn. Mae'n rhaid i bob cais egluro
    sut mae'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf a roddir ym mhwynt 3.
  6. Bydd pob cyflwyniad i'w ystyried hefyd yn cynnwys Curriculum Vitae ar yr aelod o staff academaidd
    dan sylw yn ogystal â datganiad clir am yr hyn a ddisgwylir gan yr unigolyn o ran yr hyn y bydd yn ei
    gyfrannu at waith y Gyfadran a/neu'r Brifysgol yn y dyfodol.
  7. Bydd unrhyw unigolion y cyflwynir teitl Emeritws iddynt ac sydd wedi hynny yn derbyn cyflogaeth o
    sylwedd mewn sefydliad academaidd arall yn ildio'r hawl i'r teitl Emeritws. Bydd unigolion sy'n cael
    eu hailgyflogi ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl iddynt ymddeol yn ildio'r hawl i'r teitl Emeritws dros
    dro nes y daw eu cyflogaeth yn y Brifysgol i ben, ac ar yr adeg honno fe ellir ailymgeisio am y teitl.