GwaithAber

Ennill wrth ddysgu

GwaithAber yw eich cyfle i ennill incwm wrth astudio. Mae GwaithAber yn cynnig gwaith mewn amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol ac adrannau academaidd. Mae’r cynllun yn cynnig lleoliadau gwaith hyblyg sy'n eich rhoi mewn sefyllfa i drefnu’r gwaith i gyd-daro â’ch amserlen ddysgu.

Gwybodaeth i staff

Mae manteision GwaithAber yn cynnwys:

  • Sicrwydd o Gyflog Byw Gwirioneddol yn isafswm i bob swydd a hysbysebir – mae rhai yn talu’n uwch
  • Cyfleoedd yn ystod y tymor
  • Cyfleoedd am waith yn ystod y gwyliau
  • Datblygu sgiliau ymarferol yn deillio o brofiad gwaith mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys Cynnal a Chadw Cyfleusterau, Lletygarwch, Manwerthu a Masnachu, Marchnata, ac Adnoddau Dynol.

Mae nifer o swyddogaethau ar gael trwy gydol y flwyddyn. Cofrestrwch ar gynllun GwaithAber er mwyn gallu gweld pob cyfle sydd ar gael.

Pa fath o swyddi sydd ar gael?

Mae GwaithAber yn gyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth ddysgu. Ceir cyfleoedd gwaith mewn amryw o adrannau o Arlwyo, gwaith gweinyddol, swyddogaethau Llysgenhadon a mwy.

Os bydd gwaith ar gael yn ystod tymor y Brifysgol, efallai y byddwch yn dewis gweithio hyd at 15 awr yr wythnos, gyda’r posibilrwydd am ragor o oriau gwaith yn ystod y gwyliau.  Bydd y cyflog yn ddibynnol ar y swydd.  Gall lleoliad y gwaith fod ar unrhyw un o gampysau’r  Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg. Gallwch ddewis derbyn gwaith sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.

Cofrestru ar gyfer GwaithAber

I gofrestru ar gynllun GwaithAber, mae angen cwblhau'r camau canlynol:

Cam 1: Yn gyntaf, cyn gwneud cais am unrhyw swydd wag, bydd angen cofrestru ar y cynllun. Gwnewch yn sicr fod fod yr holl ffurflenni’n cael eu llenwi, ac yna gwasgwch 'cyflwyno'.

Cam 2: Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gofrestru, byddwch yn cael e-bost yn gofyn i chi gwblhau gwiriad Hawl i Weithio. Cewch eich gwahodd i ymweld â ni yn y swyddfa, ac fe ddwedwn wrthych beth i ddod gyda chi a’r amser ar gyfer cwblhau eich Gwiriad.

Cam 3: Ar ôl i ni gwblhau cam 2, fe gewch hawl mynediad trwy e-bost i GwaithAber. Ar ôl mewngofnodi byddwch yn gallu gweld pa swyddi sy’n cael eu hysbysebu ac yn gallu gwneud cais am unrhyw un ohonynt.

Cofrestrwch yma ar gyfer GwaithAber

Os nad ydych yn derbyn yr e-bost hwnnw o fewn awr neu ddwy, cysylltwch â hr@aber.ac.uk a gallwn wirio cynnydd eich cofrestriad.

*Unwaith y bydd y ddau gam wedi eu cwblhau, byddwn yn anelu at eich ychwanegu at GwaithAber o fewn wythnos.*

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn mae croeso i chi gysylltu: hr@aber.ac.uk

Mewngofnodi i GwaithAber

**Gallwch fewngofnodi i GwaithAber pan fydd y bydd y broses gofrestru wedi'i chwblhau (gweler uchod). **

Bydd angen i chi fod ar rwydwaith Prifysgol Aberystwyth hefyd er mwyn gweld y dudalen. Mae hyn yn golygu bod angen i chi naill ai fod ar y campws, neu ddefnyddio VPN y Brifysgol. Gweler yma am fwy o wybodaeth am y VPN:  

Mewngofnodi

Rhowch eich enw defnyddiwr myfyriwr (heb @aber.ac.uk ar y diwedd) a'ch cyfrinair PA arferol.

I staff sydd eisiau gwneud cais i hysbysebu ar GwaithAber

Os hoffech hysbysebu swydd ar GwaithAber cysylltwch â'ch Swyddogion/Gweinyddwyr Cyfadran. Bydd modd iddynt hwy eich helpu drwy'r broses.

Bydd angen templed hysbyseb wedi’i gwblhau’n llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn y bydd modd hysbysebu'r swydd. Gweler yma am y templed hysbyseb: 

Templed Hysbesbu GwaithAber