Buddion Gweithwyr

Yn Aberystwyth, rydyn ni’n gymuned sy'n arloesi, yn ysbrydoli ac yn cefnogi.

Ers 1872, rydym wedi meithrin enw da ledled y byd am ragoriaeth ein haddysgu a'n hymchwil blaengar. Heddiw, ein cenadwri yw darparu addysg ac ymchwil sy'n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. 

Os hoffech chi fod yn rhan o gymuned sy’n rhagori yn academaidd ac yn arloesi trwy ymchwil, yna fe hoffem glywed oddi wrthych.

Yr hyn sydd gennym i’w gynnig

Gwyddom fod ein llwyddiant yn dibynnu ar ymrwymiad, egni a brwdfrydedd ein cymuned staff.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu amodau a pholisïau gwaith rhagorol i'n staff, sydd â manteision yn amrywio o hawl absenoldeb hael i gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o amrywiol gefndiroedd.

Cynlluniwyd ein pecyn budd-daliadau i roi cefnogaeth a chymhellion sy'n addas i wahanol gamau gyrfa ac amgylchiadau bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Gweithio hyblyg

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg sy'n addas i'ch ffordd o fyw. Gallwch drafod â'ch rheolwr llinell i weld beth sy'n gweithio orau. 

Cyflog cystadleuol

Rydym eisiau denu a chadw staff dawnus a medrus iawn. Rydym wedi ymrwymo i cyfle cyfartal yng nghyswllt tâl, cyflog a dilyniant gyrfa i'r holl staff, o fewn i fframwaith sy'n deg, yn dryloyw, a chyson.

Ymrwymwn i gynnig cyflogau cystadleuol. Rydym yn hysbysebu'r graddau cyflog yn ein holl ddisgrifiadau swydd. Mae staff sy'n dechrau ar bwynt cyntaf y raddfa gyflog yn elwa o gynyddrannau blynyddol. 

Hawliau absenoldeb hael

Rydym yn cynnig hawliau absenoldeb hael i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, mae'r rhain yn cynnwys 27 diwrnod o wyliau blynyddol, Gwyliau Banc Prydain, a phedwar diwrnod pan fydd y brifysgol ar gau. 

Cynllun cydnabod a gwobrwyo staff

Trwy ein cynllun gwobrwyo a chydnabod gwasanaethau academaidd a phroffesiynol rydym yn cydnabod a gwobrwyo’r rhai sy'n llwyddiannus yn eu swyddi.

Pensiynau

Rydym yn cynnig cynlluniau pensiwn hael gyda chyfraniadau cyflogwyr (10% ar gyfer AUPP) a (21.6% ar gyfer USS).

Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn un o 100 cyflogwr uchaf Stonewall. Mae gennym sawl dull o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u dwyn i’r brif ffrwd ar draws yr holl weithgareddau.

Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu a chynnig cyfleoedd dysgu a datblygu safonol i staff yr adrannau academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol. 

Cymorth Iechyd a Lles

Mae gennym nifer o wasanaethau iechyd a lles i staff, sy'n eu cynorthwyo i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â ffordd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles. Mae ein gwasanaethau'n cynnwys Rhaglen Gymorth i Staff (EAP), gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol, profion llygaid am ddim, yn ogystal â gostyngiad i staff ym mhris aelodaeth Canolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Cyfnod Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu

Fel cyflogwr mae ein polisïau absenoldeb i rieni yn sicrhau ein bod yn eich cefnogi ar yr adeg bwysig hon yn eich bywyd. Rydym yn rhoi cyfnod a thâl hael ar gyfer mamolaeth. Rydym hefyd yn cynnig pythefnos o wyliau (yr wythnos gyntaf ar gyflog llawn a'r ail wythnos yn gyflog statudol*) ar gyfer absenoldeb tadolaethYn olaf, rydym yn cynnig cyfnod a thâl absenoldeb da i staff sy’n mabwysiadu.

*yn amodol ar gymhwysedd.

Gostyngiadau mewn prisiau i staff

Bydd yr holl staff yn elwa o ostyngiad ym mhris aelodaeth Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. Rydym hefyd yn cynnig gostyngiadau ar draws yr holl leoliadau lletygarwch, arlwyo a manwerthu ar y campws, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau.

Cyfle i ddysgu'r neu gwella'r Gymraeg am ddim

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rydym yn brifysgol ddwyieithog ac yn rhoi cyfle i'r holl staff ddysgu Cymraeg am ddim. Darllenwch fwy am y Gymraeg a Phrifysgol Aberystwyth yma.

Cynllun seiclo i'r gwaith

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno cynllun seiclo i’r gwaith mewn cydweithrediad â  Cyclescheme. Trwy’r cynllun gallwch brydlesu beic drwy’r Brifysgol am gyfnod o 12 mis neu 18 mis (cyfanswm gwerth y beic a’r cyfarpar diogelwch yw £3,500). Yna, ar ddiwedd y cyfnod llogi, cewch ddewis prynu’r beic pe dymunech. Byddai’r gost fel rheol yn 5% o’r gost wreiddiol.

Symud i Aberystwyth

Rydym yn cynorthwyo staff sy’n penderfynu symud i Aberystwyth. Cynigir bwrsariaeth adleoli gwerth hyd at £2,000 i staff. 

Cynllun Aberth Cyflog Cerbydau Trydan

Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno Cynllun Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan i staff cymwys. Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu gan Octopus Electric Vehicle. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun yn gweithio ac yn elwa , gweler isod:

Octopus Driver Handbook (saesneg yn unig)

Cwestiynau Cyffredin Cerbydau Trydan Ychwanegol

Gwybodaeth am gymhwysedd CThEM

Dyma'r ddolen i'r siop Octopus Electric Vehicles (octopusev.com)

Cod y prifysgol - ABE17079