Amdanom Ni: Y Brifysgol

Llun awyr o brifysgol Aberystwyth gyda'r Llyfrgell Cendlaethol.

150 o ragoriaeth academaidd.

Fel y Coleg Prifysgol cyntaf yng Nghymru, mae gan Aberystwyth draddodiad hir a nodedig ym maes addysgu ac ymchwil, ac mae sefydlu’r brifysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn un o’r llwyddiannau mawr yn hanes cyflawni rhywbeth arloesol yn y Gymru fodern.