Gweithio i Brifysgol Aberystwyth

Business and Management lecture.

Yn Aberystwyth rydym yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo amrywioldeb a chyfle cyfartal.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn dweud bod “cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth graidd amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae urddas, parch a chydweithredu yn rhan hanfodol o’n holl weithgareddau, ynghyd â chefnogi cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial i’r eithaf".

Teimlwn hefyd bod arweinyddiaeth ac ymrwymiad effeithiol ar bob lefel ac ym mhob agwedd ar weithgareddau'r Brifysgol, yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein gwaith. Ein nod yw cefnogi anghenion grwpiau gwahanol mewn diwylliant gwaith lle caiff parch a dealltwriaeth eu meithrin a lle caiff amrywioldeb y gymuned ei werthfawrogi'n gadarnhaol. Mae tudalennau Cefnogaeth i Staff Adnoddau Dynol yn ceisio hyrwyddo ein hamgylchedd cadarnhaol ac yn rhoi cymorth i'n staff i alluogi i bawb wneud yn fawr o'u potensial er budd yr unigolyn a'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o rwydweithiau a hyrwyddwyr staff.

Isod cewch wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn cefnogi staff, gan gynnwys gwybodaeth benodol i staff academaidd, a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol.

Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth mae croeso i chi gysylltu ag Adnoddau Dynol ar hr@aber.ac.uk neu ffoniwch ni ar (01970) 628555.

 

Tudalennau Cefnogaeth i Staff

Newyddion