Cytundeb Partneriaeth yr Undebau Llafur

Partïon i’r Cytundeb

Prifysgol Aberystwyth, UCU, UNSAIN, UNITE.

Diben

Diben y Cytundeb hwn yw nodi'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â dull partneriaethol o ymdrin â chydberthynas y Brifysgol â’i gweithwyr. Mae'r Cytundeb hwn yn ategu – ond yn ail-gadarnhau ei hymrwymiad i ddwy ddogfen ar wahân:

  1. Cytundeb Cydnabyddiaeth ffurfiol sy'n nodi'r cydgyfrifoldebau am wybodaeth, ymgynghori, a thrafod
  2. Cytundeb Amser Cyfleusterau sy'n cydnabod yn ffurfiol pa mor bwysig ym marn y Brifysgol yw sicrhau bod y berthynas rhwng y rheolwyr a’r undebau yn gweithio’n effeithiol.

Nod

Prif nod y Cytundeb hwn yw bod pob un o’r partïon cydnabyddedig yn ymrwymo i ddull o weithio nad yw'n dibynnu'n llwyr ar ddulliau ffurfiol o roi gwybodaeth, ymgynghori a thrafod. Cydnabyddir y bydd angen dilyn prosesau ffurfiol mewn llawer o achosion ar ryw adeg mewn trafodaethau, ond yr allwedd i ymddygiad partneriaethol fydd ymrwymiad i rannu gwybodaeth yn gynnar a datrys problemau ar y cyd. 

Egwyddorion Allweddol

Amcan cyffredin yr holl bartïon yw sicrhau parhad gweithrediadau'r Brifysgol a'i chynaliadwyedd hir dymor. Cynlluniwyd hyn i sicrhau llwyddiant y gweithrediadau hynny er budd yr holl staff, y myfyrwyr, a rhanddeiliaid eraill. 

Gan reolwyr y Brifysgol mae’r awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol ynglŷn â gweithrediadau'r Brifysgol ond bydd yn cynnwys yr undebau llafur mewn trafodaethau ar y cyfnod cynharaf rhesymol. 

Bydd pob un o’r partïon yn hybu datblygiad diwylliant lle gellir trafod problemau a materion sydd o ddifrif yn effeithio ar les cyffredin y Brifysgol a'i gweithwyr, gan geisio’u datrys gyda gonestrwydd ac unplygrwydd. 

Bydd yr holl bartïon yn cadw at gyfrinachedd lle gofynnir am hynny at ddibenion trafodaethau cynnar effeithiol. 

Bydd yr holl bartïon yn gwneud ymdrech i osgoi dull cyfathrebu sy’n rhoi gwybodaeth "annisgwyl" a’r nod fydd cyfathrebu ar y cyd lle mae'n briodol.  

Bydd yr holl bartïon yn gyfrifol am sicrhau bod pob gohebiaeth a anfonir ganddynt at eu gweithwyr ac at aelodau yn ffeithiol gywir. 

Bydd yr holl bartïon yn cymryd camau cyfrifol i sicrhau bod pob aelod perthnasol o'u grwpiau cyfansoddol (yn bennaf cynrychiolwyr undeb sydd wedi cael hawl i amser cyfleusterau a rheolwyr y Brifysgol hyd at lefel Pennaeth Adran) yn deall egwyddorion partneriaeth, yn ymdrechu i’w mabwysiadu'n lleol, a lle bo angen yn rhoi hyfforddiant neu ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r ymddygiad disgwyliedig. 

Adolygiad

Caiff y cytundeb ei adolygu ar ôl 12 mis ar ôl ei fabwysiadu'n ffurfiol trwy'r JCNC, i farnu ei lwyddiant hyd yma ac ystyried unrhyw wersi ar gyfer gwelliannau pellach.