Polisi Menopos

Cyflwyniad 
Beth ydyn ni'n ceisio'i gyflawni?
Diffiniadau a Symptomau
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau 
Dolenni allanol 
Atodiad A - Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol â staff;
Atodiad B - Templed ar gyfer Trafodaeth Gyfrinachol ag aelod o staff;
Atodiad C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos.

1. Cyflwyniad

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy'n gweithio yma, ac mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl staff y Brifysgol.

Mae’r polisi hwn yn amlinellu'r canllawiau ar gyfer cefnogi staff a chanddynt symptomau'r menopos yn eu gwaith. Nid yw'n gytundebol, ac nid yw'n rhan o'r telerau ac amodau cyflogaeth - fodd bynnag, os yw'r Brifysgol eisiau diwygio'r Polisi Menopos, ymgynghorir â staff ynghylch y newidiadau arfaethedig trwy gyfrwng yr Undebau Llafur cydnabyddedig.

Nid yw'r menpos bob amser yn gyfnod trosiannol rhwydd yn gorfforol nac yn emosiynol, ond o gael y gefnogaeth gywir gellir lleddfu rhywfaint ar y symptomau. Er na fydd rhai unigolion yn dioddef pob un o'r symptomau, ceir llawer o symptomau na ddeëllir yn aml eu bod yn rhan o broses y menopos. Oherwydd hynny, mae'r gefnogaeth i gyd-weithwyr sy'n wynebu'r cyfnod hwn yn aml yn dameidiog neu'n gwbl absennol.

Yn rhy aml bydd y menopos a materion iechyd eraill sy'n berthnasol i fenywod yn cael eu labelu fel "trafferthion menywod". Cânt eu trin fel pethau sy'n destun embaras neu gywilydd neu y dylid eu cadw'n gyfrinachol ar y sail honno. Ond eto, oherwydd y newid yn oedran gweithlu'r DU, mae rhwng 75% ac 80% o fenywod sy'n mynd drwy gyfnod y menopos yn dal i weithio.  

Dengys ymchwil bod y rhan fwyaf o unigolion yn amharod i drafod problemau iechyd sy'n ymwneud â'r menopos â'u rheolwr llinell.  Maent yn amharod hefyd i ofyn am y gefnogaeth neu'r addasiadau rhesymol a allai fod o gymorth iddynt. Diben y polisi hwn felly yw darparu fframwaith cefnogol y gall unigolion ei ddefnyddio i ymwneud â'r Brifysgol er mwyn cael cefnogaeth briodol ac amserol pan fydd ei hangen.

Er bod y polisi hwn yn defnyddio'r term 'menywod' i siarad am bobl a allai brofi menopos, gwyddom y gall effeithio ar gydweithwyr traws neu anneuaidd sydd ddim yn nodi fel menywod yn yr un modd. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ar ddynion a menywod hefyd tra bo'u partner yn y menopos. Byddwn yn cefnogi pob cydweithwyr sy'n profi'r menopos. Mae pawb yn cael profiadau gwahanol ac ni ddylid gwneud ragdybiaethau; yn hytrach, dylid gwrando ar yr unigolyn a chefnogi eu hanghenion mewn modd sensitif.

2. Beth ydyn ni'n ceisio'i gyflawni?

Dyma amcanion y polisi hwn:

  • Creu diwylliant y mae cyd-weithwyr yn teimlo'n ddigon cyfforddus ynddo i allu trafod eu hanghenion o ran cefnogaeth â chyd-weithwyr cefnogol, llawn gwybodaeth;
  • Sicrhau bod pawb yn deall beth yw'r menopos, yn gallu cael sgyrsiau adeiladol yn hyderus, ac yn deall polisi ac arferion y Brifysgol yn glir, gyda chefnogaeth Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol;
  • Addysgu a hysbysu rheolwyr ynghylch symptomau posibl y menopos, a sut y gallant gefnogi menywod wrth eu gwaith;
  • Sicrhau bod menywod a chanddynt symptomau'r menopos yn teimlo'n ddigon hyderus i'w trafod, ac i ofyn am gefnogaeth ac unrhyw addasiadau rhesymol fel y gallant barhau i gyflawni eu gwaith yn llwyddiannus;
  • Rhoi hyder i unigolion sy'n wynebu problemau iechyd a lles sy'n gysylltiedig â'r menopos i reoli eu symptomau eu hunain trwy gael gafael ar gefnogaeth bwrpasol. Gall hynny'n cynnwys, lle bo'n briodol, rhoi gwybod i'w meddyg teulu am eu symptomau a chael cyngor a chefnogaeth feddygol.

3. Diffiniadau a Symptomau

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn diffinio'r menopos fel cam biolegol ym mywyd menyw pan fydd ei mislif yn dod i ben a hithau'n cyrraedd diwedd y cyfnod o'i hoes pan all atgenhedlu. Fel arfer, fe'i diffinnir fel cam sydd wedi digwydd pan nad yw menyw wedi cael mislif am ddeuddeg mis yn olynol (yn achos menywod sy'n cyrraedd cyfnod y menopos yn naturiol). Yr oed cyfartalog ar gyfer cyrraedd y menopos ymhlith menywod yw 51, ond gall fod yn llawer cynharach am amrywiol resymau.

Er na fydd pob unigolyn yn sylwi ar bob symptom, nac angen cymorth neu gefnogaeth, mae'r rhan fwyaf o unigolion yn profi rhai symptomau, a gallai rhai ohonynt gael eu disgrifio fel rhai difrifol.

Mae'r menopos yn cael effaith wahanol ar iechyd emosiynol a chorfforol pob menyw. Mae angen bod yn ymwybodol o'r anghenion sylfaenol er mwyn cefnogi menywod sy'n mynd trwy'r cyfnod trosiannol hwn. Gall y symptomau gynnwys:

  • Chwiwiau poeth
  • Crychguriadau
  • Blinder
  • Amhariadau ar gwsg
  • Chwysu yn ystod y nos
  • Llid ar y croen
  • Anniddigrwydd
  • Tarfu ar hwyliau
  • Methu canolbwyntio
  • Angen mynd i'r tŷ bach yn amlach
  • Mislif trymach ac/neu fwy afreolaidd
  • Cur pen
  • Gorbryder
  • Colli hyder

Cynhaliwyd arolwg yn 2010 o weithwyr benywaidd oedd yng nghyfnod y menopos gan Brifysgol Nottingham a Sefydliad Ymchwil Iechyd Galwedigaethol Prydain. Yn ôl yr arolwg hwn, y symptomau y mae bod yn y gwaith yn fwyaf tebygol o'u gwaethygu yw chwiwiau poeth, cur pen, blinder a diffyg egni. Ac yna, yn dilyn hynny'n agos, chwysu, pyliau o orbryder, poenau, croen a llygaid sych, ac anghofrwydd tymor byr.

4. Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Aelodau o staff

Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am:

  • Gymryd cyfrifoldeb personol dros edrych ar ôl eu hiechyd;
  • Bod yn agored ac yn onest mewn sgyrsiau gyda rheolwyr/AD ac Iechyd Galwedigaethol;
  • Siarad â'u rheolwr llinell/AD (trwy gyfrwng hrbp@aber.ac.uk) neu eu Hundeb pan fydd arnynt eisiau trafod y gefnogaeth sydd ar gael;
  • Cyfrannu at amgylchedd gwaith parchus a chynhyrchiol;
  • Bod yn barod i gynorthwyo a chefnogi eu cyd-weithwyr;
  • Deall unrhyw addasiadau angenrheidiol y mae eu cyd-weithwyr yn eu cael o ganlyniad i symptomau'r menopos.

Rheolwyr Llinell:

Mae pob rheolwr llinell yn gyfrifol am: 

  • Ymgyfarwyddo â'r Polisi a'r Canllawiau Menopos;
  • Bod yn barod i gael trafodaethau agored am y menopos, gan werthfawrogi natur bersonol y sgwrs, a thrin y drafodaeth mewn modd sensitif a phroffesiynol;
  • Defnyddio'r canllawiau yn Atodiadau A ac C, gan gyfeirio ac adolygu ynghyd, cyn cytuno â'r unigolyn sut orau y gellir eu cefnogi, ac unrhyw addasiadau sy'n ofynnol;
  • Cofnodi'r addasiadau y cytunwyd arnynt ar Atodiad B, ynghyd â'r camau gweithredu sydd i'w cyflwyno;
  • Ymatal rhag gwneud unrhyw ragdybiaethau; yn hytrach, gwrando ar anghenion yr unigolyn a'u trafod yn sensitif;
  • Sicrhau deialog barhaus a dyddiadau ar gyfer adolygiadau;
  • Sicrhau y cedwir at yr holl addasiadau y cytunwyd arnynt.

Os nad yw'r addasiadau'n llwyddiannus, neu os yw'r symptomau'n fwy trafferthus, gall y Rheolwr Llinell:

  • Drafod atgyfeiriad at y tîm Iechyd Galwedigaethol er mwyn cael cyngor pellach;
  • Ystyried cyngor Iechyd Galwedigaethol a rhoi unrhyw argymhellion ar waith, os ydynt yn ymarferol ac o fewn rheswm;
  • Diweddaru ac adolygu'r cynllun gweithredu yn rheolaidd.

Iechyd Galwedigaethol:

Dyma swyddogaeth Iechyd Galwedigaethol:

  • Cynnal asesiad cyfannol o unigolion i ganfod a yw'r menopos yn cyfrannu at symptomau/lles, a rhoi cyngor a chanllawiau yn unol â'r ymchwil ddiweddaraf;
  • Cyfeirio at ffynonellau priodol o gymorth a chyngor (gweler Atodiad C am ragor o wybodaeth);
  • Rhoi cymorth a chyngor i AD a Rheolwyr Llinell wrth bennu a chytuno ar addasiadau rhesymol, os oes gofyn amdanynt;
  • Monitro atgyfeiriadau yn sgil symptomau'r menopos, a chyfeirio at wasanaethau ychwanegol, os oes angen;
  • Adolygu'r Daflen Gyngor ar y Menopos (gweler Atodiad C), a'i diweddaru'n barhaus.

Adnoddau Dynol (AD):

Bydd AD yn: 

  • Bod ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad i staff sydd ddim yn teimlo'n gyfforddus yn trafod y materion hyn yn uniongyrchol â'u rheolwyr llinell;
  • Cynnig arweiniad i reolwyr ar sut i ddehongli'r Polisi a'r Canllawiau hyn;
  • Datblygu sesiynau briffio i staff;
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y polisi hwn;
  • Adolygu'r polisi a'r canllawiau gyda'r Undebau Llafur cydnabyddedig bob tair blynedd.

Cymorth i Weithwyr:

Bydd y gwasanaeth Cymorth i Weithwyr yn: 

  • Darparu mynediad i gwnsela 24/7 ar y ffôn a chwnsela wyneb yn wyneb i bob aelod o staff;
  • Darparu taflenni cyngor ar-lein (y gellir eu lawrlwytho) trwy gyfrwng eu gwefan (gweler y dolenni pellach yn Atodiad C).

5. Dolenni i bolisïau eraill

Mae'r polisi hwn yn gysylltiedig ag:

  • Urddas a Pharch yn y Gwaith;
  • Canllawiau ar weithio'n hyblyg;
  • Y Strategaeth Iechyd a Lles;
  • Y polisi a'r weithdrefn Rheoli Absenoldeb Salwch;
  • Y Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd.

6. Atodiadau  

  • Atodiad A - Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol â staff;
  • Atodiad B - Templed ar gyfer Trafodaeth Gyfrinachol ag aelod o staff;
  • Atodiad C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos.

7. Dolenni allanol

ATODIAD A- Canllawiau i Reolwyr ar drafodaethau cefnogol

Rydym yn cydnabod bod yr effaith y gall y menopos a'i symptomau ei chael ar bob unigolyn yn wahanol, ac felly nid yw'n ymarferol amlinellu set strwythuredig o ganllawiau penodol.

Os yw aelod o staff eisiau siarad am eu symptomau, trafod sut maent yn teimlo neu sôn am eu profiad o gefnogi partner trwy'r cyfnod trosiannol hwn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n:

  • Caniatáu digon o amser i gynnal y sgwrs;
  • Canfod ystafell addas er mwyn cynnal cyfrinachedd;
  • Eu hannog i siarad yn agored ac yn onest;
  • Awgrymu ffyrdd y gellir eu cefnogi (gweler y symptomau isod) - rhannwch y Daflen Gyngor ar y Menopos (Atodiad C);
  • Cytuno ar gamau gweithredu, a sut i'w cyflwyno (dylech ddefnyddio'r templed yn Atodiad B i gofnodi'r cyfarfod, fel bod pawb yn cytuno ar yr hyn a drafodwyd, a'r camau nesaf, cyn i'r cyfarfod ddod i ben). Sicrhewch fod y cofnod hwn yn cael ei gadw'n gyfrinachol, ac yn cael ei gadw'n ddiogel gydag AD;
  • Cytuno a ddylid rhoi gwybod i aelodau eraill o'r tîm, a phwy ddylai roi gwybod iddynt;
  • Sicrhau y caniateir amser penodedig ar gyfer cyfarfod dilynol. Peidio â dibynnu ar ymholiadau cyflym wrth ichi daro ar eich gilydd yn y coridor neu mewn mannau nad ydynt yn rhai cyfrinachol.

Cymorth â Symptomau 

Gall symptomau fod yn rhai corfforol a seicolegol, gan gynnwys y rhai a restrir isod, ymhlith eraill. Dylid ystyried cymorth ar gyfer menywod yn unol â'r manylion isod:

Chwiwiau Poeth

  • Gofyn am ddull o reoli'r tymheredd yn eu man gwaith, megis gwyntyll ar eu desg (gwyntyll desg â chysylltiad USB, os oes modd, er mwyn sicrhau ei fod yn ystyriol o'r amgylchedd) neu symud yn agos at ffenestr, neu oddi wrth darddiad gwres;
  • Mynediad rhwydd i ddŵr yfed;
  • Rhoi caniatâd i addasu gwisg benodedig, megis tynnu siaced;
  • Gallu cael mynediad i ystafell orffwys i gael egwyl os yw eu gwaith yn cynnwys cyfnodau hir o sefyll neu eistedd, neu fan tawel os ydynt angen ymdopi â chwiw boeth ddifrifol am gyfnod byr.

Mislif trwm/ysgafn

  • Bod â mynediad rhwydd i gyfleusterau ystafell ymolchi;
  • Cael gofyn am wisg ychwanegol;
  • Sicrhau bod nwyddau mislif ar gael mewn ystafelloedd ymolchi (fel y'u nodir ar fap y Brifysgol)/mannau allweddol ledled y Brifysgol, er mwyn gallu cael nwyddau gwarchod personol;
  • Sicrhau bod gofod storio ar gael er mwyn cadw set o ddillad i newid iddynt.

Cur pen

  • Gallu cael mynediad rhwydd i ddŵr yfed ffres;
  • Cynnig man tawel i weithio;
  • Cynnig clustffonau lleihau sŵn i'w gwisgo mewn swyddfeydd agored;
  • Cael amser rhydd i gymryd meddyginiaeth, os oes angen.

Anhawster Cysgu

  • Archwilio a allai trefniadau gweithio'n hyblyg dros dro fod yn addas, yn enwedig os yw'r unigolyn yn dioddef yn sgil diffyg cwsg.

Hwyliau Isel

  • Cytuno iddynt gael amser rhydd oddi wrth eraill, os oes angen, heb orfod gofyn am ganiatâd;
  • Canfod 'cyfaill' i'r cyd-weithiwr siarad â hi neu ag ef - y tu hwnt i'r man gwaith;
  • Canfod 'man i gael amser rhydd' y gall yr unigolyn fynd iddo i 'glirio'r pen';
  • Mae manylion darparwr Rhaglen Cymorth i Staff y Brifysgol ar gael ar wefan AD a gellir cael gafael arnynt yn uniongyrchol ar y ffôn ar 0800 174 319 neu https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/

Colli Hyder 

  • Sicrhau y ceir trafodaethau rheolaidd dan y Cynllun Cyfraniad Effeithiol, sy'n cynnwys y cymorth sydd ar gael i roi hwb i les emosiynol megis hyfforddiant gwytnwch ac ati;
  • Cael amser rheolaidd wedi'i neilltuo gyda'u rheolwr er mwyn trafod unrhyw faterion;
  • Cael cytundeb ynghylch amser wedi'i neilltuo ar gyfer dal i fyny â'r gwaith.

Methu Canolbwyntio

  • Trafod a oes unrhyw adegau o'r dydd pan fo'r gallu i ganolbwyntio yn well neu'n waeth, ac addasu patrwm/arferion gwaith yn unol â hynny, gan sicrhau cyflawni'r amcanion gwaith angenrheidiol, gwasanaeth i gwsmeriaid ac addasiadau rhesymol ar gyfer cyd-weithwyr;
  • Adolygu'r dyraniad tasgau a'r llwyth gwaith;
  • Darparu llyfrau ar gyfer rhestrau, byrddau gweithredu neu offer eraill sy'n cynorthwyo'r cof;
  • Cynnig man tawel i weithio;
  • Cynnig clustffonau lleihau sŵn i'w gwisgo mewn swyddfeydd agored;
  • Lleihau nifer yr ymyriadau;
  • Bod â chytundebau ar waith mewn swyddfa agored bod unigolyn yn cael 'amser wedi'i neilltuo', fel na cheir unrhyw darfu arnynt;
  • Cael cytundeb ynghylch amser wedi'i neilltuo ar gyfer dal i fyny â'r gwaith.

Gorbryder

  • Hyrwyddo gwasanaethau cwnsela a ddarperir gan ddarparwr Cymorth i Staff y Brifysgol ar 0800 174 319 neu https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/
  • Canfod 'cyfaill' i'r cyd-weithiwr siarad â hi neu ag ef - y tu hwnt i'r man gwaith;
  • Gallu cael amser i ffwrdd o'r gwaith i wneud technegau ymlacio;
  • Gwneud gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar megis ymarferion anadlu, neu fynd am dro.

Pyliau o Banig

  • Cytuno iddynt gael amser rhydd oddi wrth eraill, os oes angen, heb orfod gofyn am ganiatâd;
  • Canfod 'cyfaill' y tu hwnt i'r man gwaith;
  • Gallu cael amser i ffwrdd o'r gwaith i wneud technegau ymlacio;
  • Gwneud gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar megis ymarferion anadlu, neu fynd am dro.

Trafod a yw'r aelod o staff wedi ymweld â meddyg teulu. Gan ddibynnu ar y drafodaeth, mae'n bosibl mai dyma'r cam nesaf a awgrymir, yn enwedig os mai cwsg, pyliau o banig neu orbryder sy'n peri trafferth.

Os ydynt wedi ymweld â'u meddyg teulu, a'u bod yn cael cefnogaeth ganddynt, gall fod yn ddefnyddiol ar y cam hwn i wneud atgyfeiriad at y tîm Iechyd Galwedigaethol er mwyn rhoi cyngor penodol ynghylch y gweithle.

ATODIAD B - Sgwrs Gyfrinachol â Chyd-weithiwr

Manylion yr aelod o staff:

Enw

 

Teitl Swydd

 

Adran

 

Lleoliad

 

Yn bresennol yn y cyfarfod

 

Dyddiad y drafodaeth

 

 

Crynodeb o'r Drafodaeth:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Camau Gweithredu/Addasiadau y Cytunwyd Arnynt:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad y cyfarfod adolygu nesaf:.………...............................................................

Llofnodwyd (Aelod o staff): ................................................................................

Llofnodwyd (Rheolwr): .......................................................................................

 

 

ATODIAD C - Taflen Gyngor ynghylch y Menopos

Sut i siarad â'ch meddyg teulu am y menopos

Os ydych chi'n dioddef yn sgil symptomau'r menopos i'r graddau eu bod yn amharu ar eich mwynhad o fywyd, yna mae'n bryd siarad â'ch meddyg. Ond, weithiau, haws dweud na gwneud hynny.

Gwyddom oll pa mor anodd yw hi ar adegau i gael apwyntiad hyd yn oed, ac wedyn dim ond deg munud o hyd fydd hwnnw. A gall trafod symptomau fod yn anodd, ac yn waeth byth os ydych yn teimlo fel eich bod yn cael eich brysio neu na chawsoch amser i baratoi.  Felly, beth allwch chi ei wneud? Rydym wedi paratoi cynghorion defnyddiol a syml i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich apwyntiad.

Peidiwch ag oedi. Bydd menywod yn aml yn teimlo bod yn rhaid iddynt 'ddioddef' symptomau'r menopos fel rhan o fywyd, ond os ydynt yn effeithio arnoch mae yna bethau y gallwch eu gwneud ac mae cefnogaeth ar gael. Does dim angen ichi aros hyd nes bod y symptomau'n teimlo fel petaent yn annioddefol.

Darllenwch ganllawiau NICE. NICE yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a dyma'r canllawiau y bydd eich meddyg yn eu defnyddio i benderfynu pa fath o sgyrsiau i'w cael â chi a pha driniaethau i'w cynnig. Ceir canllawiau ar gyfer cleifion, a byddai'n ddefnyddiol ichi eu darllen cyn ichi weld eich meddyg teulu, fel eich bod yn gwybod beth y gallwch ei ddisgwyl.

Paratowch ar gyfer eich apwyntiad. Bydd yn rhwyddach i'ch meddyg teulu ddeall beth sy'n digwydd os rhowch yr holl wybodaeth iddynt. Efallai fod hynny'n swnio'n amlwg, ond ni fydd profion gwaed i nodi ar ba gam o gyfnod trosiannol y menopos yr ydych chi ar gael bob amser, neu efallai na fyddant yn gywir - gall eich hormonau amrywio o ddydd i ddydd yn ystod y cyfnod hwn. Felly, bydd eich meddyg yn ystyried beth i'w argymell ar eich cyfer ar sail eich symptomau.

Cadwch restr o'ch symptomau, cylch eich mislif, chwiwiau poeth, sut rydych chi'n teimlo ac unrhyw newidiadau yr ydych wedi sylwi arnynt. Gwnewch gofnod ohonynt, ac ewch â'r cofnod hwnnw i'ch apwyntiad. Bydd eich meddyg yn ddiolchgar amdano, ac mae'n fwy tebygol y gallwch, gyda'ch gilydd, ganfod yr ateb cywir a hynny'n gynt. Ac os ydych yn ffafrio unrhyw beth penodol o ran sut yr ydych yn rheoli eich symptomau, dywedwch hynny wrthynt hefyd - er enghraifft, os hoffech roi cynnig ar therapi adfer hormonau (HRT).

Gofynnwch i staff y dderbynfa â pha feddyg y gellir siarad orau am y menopos. Gallant eich cynorthwyo i ganfod y person gorau i siarad ag ef neu hi - efallai nad eich meddyg teulu arferol fydd y person hwnnw, ond yn hytrach rywun sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn y maes.

Gofynnwch am apwyntiad hwy. Os nad ydych yn meddwl y bydd eich apwyntiad arferol yn ddigon hir, ceisiwch drefnu apwyntiad dwbl, gan fod rhai meddygfeydd yn cynnig hyn.

Peidiwch ag ofni gofyn am ail farn. Os nad ydych yn teimlo eich bod wedi cael y cymorth y mae arnoch ei angen, gofynnwch am gael siarad â rhywun arall. Peidiwch â digalonni - chi sy'n gwybod sut yr ydych chi'n teimlo a sut y mae'n effeithio arnoch.

Ewch â'ch partner neu ffrind gyda chi. Mae'n bosibl iawn eich bod chi'n treulio eich bywyd yn cefnogi pobl eraill ac, yn ystod y menopos, mae'n bryd ichi ofyn iddynt hwy am gymorth. Bydd eich partner, neu ffrind, yn gwybod sut y mae'r symptomau'n effeithio arnoch. Gallent eich cefnogi yn yr apwyntiad, a gallant hefyd ddarganfod sut y gallant barhau i'ch cefnogi.

Mae yna rai pethau y dylai meddyg teulu ei wneud - a pheidio â'u gwneud - yn ystod eich apwyntiad.

Dylent:

  • Siarad â chi am eich ffordd o fyw, a sut i reoli'ch symptomau, yn ogystal â'ch iechyd yn y tymor hwy;
  • Cynnig cyngor ar therapi adfer hormonau ac opsiynau eraill anfeddygol;
  • Siarad â chi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd unrhyw driniaeth.

Ni ddylent:

  • Ddweud wrthych nad yw hyn yn ddim mwy na chyfnod o'ch bywyd. Ydyw, mae'r menopos yn gam naturiol, ond da chi, peidiwch â theimlo bod hynny'n golygu bod yn rhaid ichi ddygymod â phob symptom heb gymorth;
  • Dweud wrthych nad ydynt yn rhagnodi HRT. Eich lle chi yw dewis beth yr hoffech roi cynnig arno, ac iddynt hwy ddweud wrthych a allai fod yn addas ar eich cyfer chi, gan ddibynnu ar eich hanes meddygol;
  • Gorfodi unrhyw gyfyngiadau amser diangen, megis dweud mai dim ond unwaith y byddant yn rhagnodi hwn, neu am flwyddyn neu ddwy. Mae hon yn sgwrs barhaus, ac os bydd eich symptomau'n parhau bydd arnoch angen cymorth o hyd i'w rheoli.

Cofiwch fod eich meddyg teulu yno i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi, a dylech deimlo'n gyfforddus ac yn hyderus wrth drafod eich symptomau â hwy, yn ogystal ag unrhyw gymorth y mae arnoch ei angen. Peidiwch â meddwl bod yn rhaid ichi ymlafnio drwy'r menopos pan fo cymorth a chefnogaeth ar gael.

Gall yr holl staff fanteisio ar gwnsela trwy gysylltu â darparwr Rhaglen Cymorth i Staff y Brifysgol ar 0800 174 319 

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Awst 2020

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Awst 2023