Datblygu Sefydliadol a Dysgu

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

 

Hyfforddiant a argymhellir ar gyfer eich CCE

Cwblhewch y cyrsiau canlynol fel rhan o'ch hyfforddiant staff a argymhellir.

I weld dyddiadau cwblhau eich hyfforddiant:

  • Mewngofnodwch i ABW
  • Cliciwch ar Personél ar yr ochr
  • Cliciwch ar Cymhwysedd (nid Cymwyseddau sydd ar gael mewn mannau eraill)
  • Dewiswch Cymhwysedd Technegol yn y gwymplen Math Cymhwysedd

Gellir cynnal y cyrsiau mewn un eisteddiad neu fesul tipyn pan fydd yn gyfleus iddynt. Mae'n rhaid i'r cwisiau a gynhwysir yn y rhaglen gael eu cwblhau er mwyn i'r staff orffen yr hyfforddiant ac er mwyn iddo gael ei farcio fel un sydd wedi'i gwblhau/pasio.

Mae'r cyrsiau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Hyfforddiant a Datblygiad Arall

Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddi a datblygu eraill i staff yn rheolaidd - gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddiweddaraf a gwybodaeth bellach yma

Meithrin Gwydnwch a Rheoli Straen Personol

Nodau’r Cwrs:

  • Galluogi cyfranogwyr i ddeall pwysau a straen, a datblygu eu gwydnwch i reoli cyfnodau heriol mor effeithiol â phosibl

Amcanion y Cwrs:

  • Diffinio’r gwahaniaeth rhwng pwysau, straen a gwydnwch
  • Nodi rhai o’u dangosyddion straen eu hunain
  • Edrych ar ystod o dechnegau ar gyfer lleihau effeithiau negyddol straen

 

  • 05/12/23
  • Yn Saesneg yn unig
  • Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Rheoli eich Tîm

Nodau’r Cwrs: Rhoi’r sgiliau hanfodol i gynrychiolwyr allu arwain, trefnu a chymell i gael y perfformiad gorau o dîm drwy sicrhau’r ymdrech, ymrwymiad a chydweithio gorau gan aelodau’r tîm wrth gyflawni amcanion

 

  • Amcanion y Cwrs:
    • Nodi sgiliau a nodweddion arweinwyr tîm llwyddiannus
    • Deall y gwahanol ddulliau a strategaethau arwain gwahanol ar gyfer datblygu’r tîm
    • Deall sut i ddatblygu cryfderau eich tîm
    • Rheoli gwahanol bersonoliaethau ac annog cyd-barch ar gyfer gwaith tîm cytûn
    • Rheoli cyfarfodydd tîm a dirprwyo dyletswyddau’n effeithiol
    • Datrys gwrthdaro ac ymdrin ag amgylchiadau anodd yn gadarnhaol ac yn hyderus
    • Cynnal datblygiad parhaus sefydlog y tîm.

Dyddiad: 13/09/23 - Cymraeg

  • Saesneg
    • 16/01/24
    • 12/06/24

Amser: 09:30 - 16:30

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Anfonwch e-bost at Hyfforddi -Train <sharedmb23@aber.ac.uk>  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

 

Cynllunio ariannol ar gyfer eich ymddeoliad

Cynllunio ariannol ar gyfer eich ymddeoliad Gweithdai Lles Ariannol a Gweminarau

Mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gynllunio'ch cyllid ar gyfer ymddeoliad. Byddwn yn darparu trosolwg o'ch pensiynau galwedigaethol USS & L&G a'r newidiadau i'r cynlluniau hyn.

Byddwn yn eich helpu i ddeall y gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn a allai fod gennych a threthi perthnasol; rydym yn rhannu awgrymiadau cynllunio ar gyfer ymddeoliad a thu hwnt; ac edrych ar bwysigrwydd Ewyllysiau ac Atwrneiaeth. Edrychwn ar fuddsoddiadau a rôl risg wrth frwydro yn erbyn chwyddiant, a gwneud i'ch arian bara am eich oes.

Mae'r digwyddiad hwn fel arfer ar gyfer pobl sydd dros 55 oed.

Mae croeso i'ch partneriaid hefyd, gan fod gennych chi ddewisiadau pwysig o'ch blaen y byddwch am eu cynllunio gyda'ch gilydd.

Dyddiad: 19 Rhagfyr 2023

Amser: 10:00-13:00

Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad:

 

Sgiliau Mentora a Hyfforddi

Nodau’r Cwrs: Rhoi’r hyder, y sgiliau a’r cymwyseddau angenrheidiol i’r cyfranogwyr i ddechrau defnyddio technegau mentora yn eu rôl

  • Amcanion y Cwrs:
    • Egluro beth mae mentora yn ei olygu, a beth nad yw’n ei olygu
    • Disgrifio rhai o’r pethau sy’n sbarduno ymddygiad a sut y gellid eu defnyddio mewn hyfforddiant ac adborth
    • Paratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi a sesiynau adborth er mwyn cynyddu eu heffeithiolrwydd i’r eithaf
    • Cynnal sesiynau gan ddefnyddio rhai modelau penodol
    • Cyflwyno’r neges yn hyderus.

Dyddiadau: 31/01/24
Yn Saesneg yn unig ar-lein trwy Teams

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

 

Hyfforddiant Gwyliedyddion

Mae pobl yn profi casineb a gelyniaeth mewn llawer o ffyrdd gan gynnwys trwy aflonyddu, bwlio neu fychanu. Gall gael effaith ddinistriol, gan ddifa hyder, amharu ar berfformiad a pherthnasoedd yn y gwaith a gartref. Yn aml mae pobl yr effeithir arnynt yn dioddef yn dawel gan ofni na fyddai neb yn eu credu neu'n ofni achosi ffwdan neu dynnu sylw atynt eu hunain.

Nid yw casineb ac ymddygiad gelyniaethus yn ymddangos dros nos ond mae'n cronni, a gellir ei atal rhag cynyddu i lefelau niweidiol drwy dorri ar ei draws.

Os ydym am weithio mewn lleoedd cynhwysol, byw mewn cymdogaethau diogel, astudio mewn sefydliadau addysgol cefnogol, mae'n rhaid i ni i gyd gyfrannu at wneud i hyn ddigwydd.

Bydd hyfforddiant Stand by Me yn eich helpu i wneud hyn.

Mae Stand by Me yn mynd i’r afael â’r hyn sy'n rhwystro pobl rhag helpu eraill pan fyddant yn gweld ymddygiadau ac agweddau niweidiol mewn unrhyw amgylchedd.

  • Mae’n ddull arloesol o annog cynwysoldeb a herio rhagfarn. Dyma ei nodweddion unigryw:
    • Symud y baich a’r cyfrifoldeb a’r gweithredu oddi wrth y person yr effeithir arno i’r rhai sy'n bresennol ac a allai fod yn dystion (Gwyliedyddion)
    • Annog pawb i fod yn rhan o fynd i’r afael â rhagfarn, waeth pa mor fawr neu fach
    • Darparu ymyriadau sy'n cefnogi'r person yr effeithir arno yn ogystal â herio'r ymddygiad gwael
  • Drwy sicrhau bod pawb yn ymwybodol ac yn chwarae rhan, mae Stand by Me yn gosod y llwybr i normau cymdeithasol a diwylliant sefydliadol newydd.
  • Normau cymdeithasol yw’r rheolau ymddygiad di-eiriau yr ystyrir eu bod yn dderbyniol o fewn grŵp, sefydliad neu o fewn cymdeithas ehangach.
  • Maent yn cael eu pennu gan:
    • Yr hyn rydych chi'n feddwl y dylai eraill fod yn ei wneud
    • Yn hyn rydych chi'n ei gredu y mae eraill yn feddwl y dylech fod yn ei wneud
  • Cynhelir normau cymdeithasol gan ein disgwyliad o gymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth gan eraill. Felly, wrth i ymddygiadau niweidiol ddod yn fwy derbyniol a chael eu normaleiddio, daw'r ymddygiad hwn yn fwy cyson.
  • Mae angen inni ddangos mwy o wrthwynebiad er mwyn herio disgwyliadau a’u newid i normau nad ydynt yn niweidio.

 

Cynnwys craidd

Mae hyfforddiant gwyliedydd wedi’i ysbrydoli gan ddealltwriaeth ymddygiadol o'r gwyddorau cymdeithasol gyda chanlyniadau sydd wedi'u profi'n empiraidd fel eu bod yn fwy tebygol o annog pobl i wneud dewisiadau gwell er eu mwyn eu hunain ac er mwyn y gymdeithas.

Mae pedair elfen i'r hyfforddiant:

  • Edrych ar y sbectrwm o gasineb sy’n dangos y ffordd y gall arwyddion cynnar o dueddiadau negyddol gynyddu nes mynd yn agweddau ac ymddygiadau mwy niweidiol
  • Deall Effaith y Gwyliedydd a'r rhwystrau rhag gweithredu, sy'n ein hatal rhag helpu eraill
  • Astudiaethau achos o fywyd go iawn sy'n dod â'r cynnwys yn fyw trwy ystyried empathi a meddwl am ymyriadau posib
  • Rhannu ein fframwaith ymyrryd i bawb gael dod o hyd i rywbeth y gallant ei wneud er mwyn ymyrryd

Mae hon yn rhaglen 3 awr sy'n cynyddu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch hyder i fod yn gynghreiriad i'r rhai o'ch cwmpas pan fydd eraill yn wynebu rhagfarn neu wahaniaethu.

-              Gwella eich dealltwriaeth o'r gwahanol lefelau o gasineb

-              Gwella eich gwybodaeth am yr ystod o ymyriadau posib

-              Gwella eich hyder i ymyrryd mewn ffordd sy'n gyfforddus i chi

 

Dyddiadau:

Mewn person - 15/01/24 

  • Sesiwn 1 - 09:30-12:30
  • Sesiwn 2 - 13:30 - 16:30 - llawn

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

 

 

Sgiliau cyfathrebu

Sgiliau cyfathrebu

Nodau'r Cwrs: Helpu cynrychiolwyr i ddeall yr effaith y mae arddulliau cyfathrebu unigol yn ei chael ar bobl eraill a sut y gall gwella'r sgiliau hyn ei gwneud hi'n haws cyflawni'r canlyniadau dymunol

Amcanion y Cwrs:
Disgrifiwch sut rydym yn cyfathrebu
Egluro effaith arddull unigol
Adeiladu a chynnal perthynas
Datblygu sgiliau gwrando effeithiol
Defnyddio technegau holi i ddeall eraill
Ymateb i gyfathrebu di-eiriau
Cael ymatebion hyblyg i gadw rheolaeth
Cyfleu'r neges yn hyderus
https://premier-courses.co.uk/product/communication-skills/

Dyddiad:  - 18/04/24 - Trwy'r dydd - Saesneg yn unig - Ar-lein

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer

Trosolwg o'r Cwrs

Rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau i gynrychiolwyr allu darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid mewnol ac allanol.

 

Canlyniadau Dysgu

Meddu ar ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gyfystyr â gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol wrth ddelio â chwsmeriaid mewnol ac allanol
Adnabod rhai o'r peryglon a all effeithio'n andwyol ar gysylltiadau cwsmeriaid
Deall pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu rhagorol wrth ddelio â chwsmeriaid
Cydnabod rôl gwasanaeth cwsmeriaid fel llysgennad i sefydliad
Gwella lefelau hyder mewn rolau sy'n delio â chwsmeriaid

 

Dyddiad:

  • 06/02/2023 - yn Saesneg
  • Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Creadigrwydd ac Arloesi

Creadigrwydd ac Arloesi

  • https://premier-partnership.co.uk/products/creativity-and-innovation
  • Crynodeb o'r Cwrs
    • Datblygu dealltwriaeth o ddulliau i wella creadigrwydd ac i arloesi wrth ddatrys problemau sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
  • Canlyniadau Dysgu
    • Dangos dealltwriaeth o feddylfryd creadigol sy’n canolbwyntio ar arloesi
    • Dangos manteision datrys problemau yn greadigol a sut i ddatblygu’r meddylfryd cywir
    • Deall yr offer a'r dulliau gweithredu er mwyn datrys problemau yn greadigol
    • Dangos creadigrwydd a sgiliau datrys problemau yn effeithiol mewn sefyllfaoedd ymarferol

Dyddiad: I'w gadarnhau - Cysylltwch â ni os hoffech fod ar y rhestr aros.

Amser: 09:30 - 12:30

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Cymryd Cofnodion

Cymryd Cofnodion (Cwrs Hanner Diwrnod)

  • https://premier-partnership.co.uk/collections/core-skills/products/minute-taking-1
  • Trosolwg o'r Cwrs
    • Er mwyn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i gymryd cofnodion yn effeithlon yn ystod cyfarfodydd ac ysgrifennu cofnodion cyfarfod strwythuredig a chryno.
  • Canlyniadau Dysgu
    • Paratoi ar gyfer cyfarfod fel cymerwr cofnodion
    • Cymhwyso ystod o offer a dulliau i gofnodi cynnwys cyfarfod
    • Disgrifio pwysigrwydd gwrando gweithredol wrth gymryd cofnodion
    • Trosi nodiadau i gofnodion cynhwysfawr
    • Cyflwyno cofnodion mewn fformatau gwahanol
    • Disgrifio’r rolau sydd gan bobl mewn cyfarfodydd
    • Ysgrifennu cynllun gwella personol

Dyddiad: 19/09/23 - yn Saesneg 

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Ymdrin â Sgyrsiau Anodd

Ymdrin â Sgyrsiau Anodd

  • https://premier-partnership.co.uk/products/handling-difficult-customers-3-hours
  • Crynodeb o'r Cwrs
    • Nod y rhaglen hon yw rhoi cyflwyniad ynghylch pam y gallai pobl fod yn anodd, y gwahanol fathau o wrthdaro y gall hyn eu creu a sut i esmwytho sefyllfaoedd fel hyn.
  • Canlyniadau Dysgu
    • Disgrifio sut a pham y gallai pobl fod dan deimlad
    • Egluro sut y gall gwasanaeth gwael arwain at gwsmeriaid anodd
    • Disgrifio’r rhan y gall cyfathrebu ei chwarae i esmwytho sefyllfaoedd anodd
    • Amlinellu rhai o'r technegau y gellir eu defnyddio i adeiladu’r berthynas â chwsmeriaid
    • Dangos technegau gwrando y gellir eu defnyddio i reoli gwrthdaro neu i esmwytho sefyllfaoedd anodd
    • Datblygu cynllun gweithredu personol i reoli gwrthdaro
    • Yn Saesneg yn unig

Dyddiadau: 

  • 13/12/23
  • 12/06/24

 

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Effaith ac Effeithiolrwydd Personol

  • Nodau’r Cwrs: Datblygu hyder ac argyhoeddiad wrth ymdrin â phobl eraill yn y gwaith

 

  • Amcanion y Cwrs:
    • Disgrifio a dangos sut i greu effaith a meithrin hyder
    • Esbonio pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth wrth reoli eich effaith bersonol
    • Archwilio eich effaith ar bobl eraill ar hyn o bryd
    • Dangos gallu i gyfathrebu’n briodol gyda phobl eraill, gan gynnwys uwch reolwyr
    • Nodi’r hyn y gallai pobl eraill fod yn ei ddymuno ac yn ei ddisgwyl ganddynt
    • Esbonio pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb
    • Disgrifio buddion allweddol rhwydweithio a llunio cynllun rhwydweithio
    • Esbonio pwysigrwydd trefnu, blaenoriaethu a rheoli amser personol

Dyddiad:

08/05/24

Yn Saesneg

  • 20/02/24
  • 04/06/24

Amser: 09:30 - 16:30

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Perfformio mewn Cyfweliad

Perfformio mewn Cyfweliad

  • https://premier-partnership.co.uk/products/performing-at-interview
  • Crynodeb o'r Cwrs
    • Galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i fyfyrio’n wrthrychol ar eu perfformiad mewn cyfweliadau yn y gorffennol a chyflwyno newidiadau lle bo angen.
  • Canlyniadau Dysgu
    • Disgrifio’r tri phrif fath o gyfweliadau a ddefnyddir gan sefydliadau
    • Rhestru’r tasgau paratoi y mae angen eu hystyried cyn cael cyfweliad
    • Creu atebion ac enghreifftiau â strwythur pendant iddynt
    • Rheoli meddyliau ac iaith y corff er mwyn lleihau effaith unrhyw nerfau
    • Nodi’r 'camau nesaf' fesul unigolyn er mwyn bod yn fwy effeithiol mewn cyfweliad

Dyddiad: 08/05/24

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Amser: 09:30 - 11:30

Paratoi i Reoli

Paratoi at Reoli
Nod y cwrs hwn yw eich helpu i symud i rôl reoli.

Erbyn diwedd y gweithdy hwn bydd cynrychiolwyr yn gallu:

• Deall beth mae rheolaeth yn ei olygu
• Adnabod rôl a chyfrifoldebau allweddol Rheolwr
• Disgrifio sut beth yw rheolaeth dda a’r sgiliau, ymddygiadau, meddylfryd a chredoau y mae angen i staff a rheolwr gwaith effeithiol eu dangos i wneud y gorau o’u potensial nhw ac eraill.

 

Dyddiad:

14/05/24 - yn Saesneg yn unig

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Cyflwyniad i Reoli Prosiectau

Nodau'r Cwrs: Rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyfranogwyr i reoli prosiectau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Amcanion y Cwrs:

  • Deall y sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i arwain prosiect
  • Deall y Cylch Rheoli Prosiect a'r dogfennau cysylltiedig a fabwysiadwyd gan PA: Cymhwyso, Ymrwymiad, Cyflawni, Adolygu
  • Deall pwysigrwydd nodi rhanddeiliaid a theilwra cyfathrebiadau i weddu i'r gynulleidfa
  • Cydnabod, dogfennu a rheoli risgiau o fewn pob math o waith prosiect yn effeithiol
  • Strwythuro sut i drefnu gweithgareddau, monitro ac adrodd ar gynnydd yn ystod prosiect
  • Gwybod sut i gau prosiect, gan adolygu llwyddiant yn erbyn cynlluniau, cyllidebau a buddion
  • Gan ddefnyddio senario bywyd go iawn, byddwch yn gweithio mewn grwpiau i weithio drwy’r cylch rheoli prosiect ac yn cyflawni’r ymarferion canlynol:
    • Datblygu Ffurflen Cymeradwyo Prosiect
    • Cyfarfod cychwyn prosiect
    • Drafftio cynllun cyfathrebu, cofrestr risg, cynllun prosiect ac adroddiad cynnydd wythnosol
    • Cynnal adolygiad o wersi a ddysgwyd

Dyddiad: TBC

Amser: 09:30  - 13:00

 

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Dethol Recriwtio a Sgiliau Recriwtio

  • Nodau’r Cwrs: Nodi’r camau allweddol angenrheidiol i sefydlu proses recriwtio a dethol effeithiol sy’n cynorthwyo sefydliadau i ddethol y bobl gywir ar gyfer swyddi.
  • Amcanion y Cwrs:
    • Esbonio'r buddion busnes a geir drwy ddefnyddio proses recriwtio a dethol strwythuredig
    • Nodi’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu recriwtio a dethol
    • Disgrifio sut y gellir ysgrifennu manylebau swyddi i annog ymgeiswyr cryf
    • Nodi’r gwahanol ddulliau y gall sefydliad eu defnyddio ar gyfer y broses ymgeisio
    • Disgrifio sut y gall y rheini sy’n cyfweld baratoi’n effeithiol i gyfweld ymgeiswyr
    • Esbonio sut i helpu ymgeiswyr i berfformio’n effeithiol mewn cyfweliad

Dyddiad:  27/03/24

Yn Saesneg  - 13/02/24

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Rheoli Amser, Adnoddau a Blaenoriaethau

Rheoli Amser, Adnoddau a Blaenoriaethau

 

  • Crynodeb o'r Cwrs
    • Galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i ystyried sut maent yn treulio eu hamser, a pha mor effeithiol y maent yn defnyddio amser
    • Gwella eu sgiliau rheoli amser, blaenoriaethu eu llwyth gwaith a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt.

 

  • Canlyniadau Dysgu
    • Nodi’r egwyddorion allweddol sy’n sail i barchu eich amser chi eich hun ac amser pobl eraill
    • Defnyddio offer a thechnegau i hwyluso defnyddio amser yn effeithiol
    • Cymryd rhan mewn gweithgareddau i gadarnhau’r hyn a ddysgwyd
    • Creu cynllun gweithredu i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd personol
    • Archwilio sut y gall yr adnoddau sydd ar gael gynorthwyo a llesteirio gwaith blaenoriaethu, ac ystyried sut i oresgyn hynny
    • Archwilio sut i reoli amser ac adnoddau eraill mewn modd pendant
    • Yn Saesneg yn unig

Dyddiadau:

  • 22/11/23
  • 05/03/24
  • 26/06/24

Amser: 09:30 - 16:30

Anfonwch e-bost at Hyffoddi-Train  os hoffech fynychu unrhyw un o’r cyrsiau

Iechyd & Lles

Mae Care First yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau bob mis sydd am ddim i staff. Dilynwch y dolenni isod, neu am ragor o wybodaeth, ewch i’n prif dudalen wybodaeth yma: Dysgwch fwy am wasanaethau Gofal yn Gyntaf i staff  i gysylltu a RCS - 

 

Weekday

 

Daily Theme

 

Article

 

Webinar

 

Mobile Registration 

 

Monday

September 25th, 2023

Service Awareness

Care first Management and MHFA Support

‘Care first Management and MHFA Support’ TIME: 12pm-12.30pm

Link:  https://attendee.gotowebinar.com/register/2414865518178287195

This webinar provides an overview of the support available for managers and Mental Health First Aiders of organisations through the EAP.

 

Friday

September 29th, 2023

Mental and Physical Wellbeing

Sober October

‘Sober October’

TIME: 12pm – 12.30pm

LINK: https://attendee.gotowebinar.com/register/7912602877447297632

In line with International Go Sober for October, this webinar provides tips to help cope with the challenge and benefits of going sober for the month.

 


Beth sydd ymlaen y mis hwn
• Byddwch yn ymwybodol bod angen meddalwedd ‘GoToWebinar’ i ymuno â/gweld y gweminarau hyn ac efallai y bydd angen ei lawrlwytho
• Byddwch yn dawel eich meddwl bod gwybodaeth cofrestreion yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac nad yw eich sefydliad yn cael ei hysbysu am eich presenoldeb / diffyg presenoldeb i'r gweminarau hyn.

Mae'r holl gweminarau yn Saeneg yn unig

Aurora - Arweinyddiaeth i Fenywod

Mae Aurora yn fenter gan AU Ymlaen i ddatblygu arweinyddiaeth ymhlith menywod mewn Addysg Uwch.

Mae Aurora yn bartneriaeth unigryw sy'n dod ag arbenigwyr ym maes arwain a sefydliadau addysg uwch ynghyd i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn swyddi arwain yn y sector.

Dan arweiniad tîm o arbenigwyr arwain, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio pedwar maes allweddol sy'n gysylltiedig ag arwain yn llwyddiannus: Hunaniaeth, Effaith a Llais; Sgiliau Arwain Craidd; Gwleidyddiaeth a Dylanwad, ac Addasu Sgiliau Arwain.

Nod Aurora yw cefnogi menywod a'u sefydliadau i gyflawni eu potensial i arwain trwy gyfrwng gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, gweithgareddau ar y cyd i ddatrys problemau, a straeon i’ch cymell, gyda chefnogaeth menywod sy’n arwain ac yn ysbrydoli. Trwy gymryd rhan byddwch yn creu rhwydweithiau cryf o fenywod sydd ar ddechrau eu gyrfa ledled y sector er mwyn rhannu’r arfer gorau, dealltwriaeth a phrofiadau.

 

Sut i drefnu eich lle

Siaradwch â'ch Rheolwr Llinell am gymryd rhan yn rhaglen Aurora yn rhan o'ch CCE neu eich gwaith cynllunio datblygiad personol eich hun. Bydd angen i'r adran ariannu ffioedd cymryd rhan, a gall eich Rheolwr Llinell a Hyrwyddwr Aurora y Brifysgol eich helpu i ganfod mentor.

Cysylltwch â'n Hyrwyddwr Aurora, Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk, i gael manylion am sut i drefnu eich lle ac os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.

 

Dyddiadau 2023-24

Gallwch drefnu eich lle ar raglen Aurora 2023-24 yn awr! Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn bresennol ym mhob sesiwn, ac mae’r sesiynau’n cynnwys rhai ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae disgwyl i raglen Cymru a De-orllewin Lloegr ddechrau ddydd Gwener, 24 Tachwedd 2023

 

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol

Rydym yn byw mewn cymdeithas amlddiwylliannol iawn ac mae ein prifysgol yn croesawu ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth i lawer o fyfyrwyr a staff. Mae parhau â'n dysgu a'n dealltwriaeth o ddiwylliant a hunaniaeth yn hanfodol o fewn ein sefydliad.

Cyflwynir y Sesiynau Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol fel sesiynau hanner diwrnod ac maent yn defnyddio profiadau byw, gweithgareddau a thrafodaethau bywiog.

Dyma rai o’r meysydd a fydd yn cael sylw yn yr hyfforddiant:

  • Deall diwylliant a pham mae amrywiaeth ddiwylliannol yn bwysig
  • Normau diwylliannol (bwyd, arferion, cymdeithasau)
  • Ffydd/Crefydd
  • Iaith
  • Addasu i ddiwylliant newydd a rhai o'i heriau
  • Cefnogaeth/empathi
  • Ffurfio/Osgoi stereoteipiau a thuedd

 

Os hoffech gael y sesiwn hon ar gyfer eich timau ar draws y brifysgol, cysylltwch â @Sheree-Ann Jonas [shj27] (Staff)

Sylfaen mewn Cynllunio Ariannol Personol

Sylfaen mewn Cynllunio Ariannol Personol

09/11/23 - Ar lein - 12:00 - 13:30

Mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar eich helpu i ddeall a rheoli eich arian dyddiol. Rydym yn ymdrin â hanfodion cyllidebu; trethiant; benthyca; morgeisi; ac arbedion. Trwy ddeall y pethau sylfaenol gallwn ddysgu sut i ymdopi â sioc ariannol; deall sut y gallwn gynllunio'n ariannol ar gyfer ein dewisiadau bywyd; a helpu i adeiladu mwy o eglurder a diogelwch.

Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad:

Rhagymadrodd

  • Lles Ariannol
  • Cyllidebu Personol
  • Trethiant
  • Benthyg
  • Morgeisi
  • Cynilion
  • Adnoddau Ariannol
  • Trosolwg a gwerthusiad o'r cwrs

IFA Chadwicks
Cynllunwyr Ariannol Siartredig