Profion Llygaid a Sbectol i Ddefnyddwyr Sgriniau

Mae'r Brifysgol yn cyfrannu at gost profion llygaid i weithwyr sy'n defnyddio sgriniau, neu offer tebyg, yn rhan hanfodol o'u gwaith arferol a hynny am ran sylweddol o'u horiau gwaith arferol. Gellir hawlio hyd at £30.00 am brawf llygaid. Os dengys y prawf fod angen lensiau cywiro er mwyn gwneud gwaith â sgriniau ac offer tebyg yn unig, bydd y Brifysgol yn cyfrannu hyd at £75.00 ar ben cost y prawf tuag at gost y sbectol.

Dylid anfon Ffurflen Hawlio Costau Prawf Llygaid a Sbectol (gan gynnwys yr holl lofnodion a'r dyddiadau angenrheidiol), i'r adran Adnoddau Dynol, gyda'r derbynebion wedi'u clymu yn sownd wrthi.