Gwybodaeth Ariannol

Talebau Gofal Plant
Tâl Gwyliau
Yswiriant
Talu Cyflogau
Pensiynau
Tâl Gwyliau Cynyddol: Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Tâl Gwyliau

Mae tâl llawn yn daladwy yn ystod gwyliau. At ddibenion cyfrifo hawl gwyliau cronedig ar derfynu cyflogaeth, caniateir un rhan o ddeuddeg o’r hawl i wyliau ar gyfer pob mis o wasanaeth a gwblhawyd yn y flwyddyn wyliau gyfredol.

Pe bai gan aelod o staff, ar ddiwedd ei gyflogaeth gyda'r Brifysgol, hawl i wyliau nad yw wedi'i gymryd eto, fel arfer byddai'n ofynnol iddynt gymryd y gwyliau hynny yn ystod y cyfnod o rybudd a roddwyd iddynt, neu ganddynt. Pe bai gwyliau blynyddol yn ddyledus o hyd ar y dyddiad y daw’r gyflogaeth i ben, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff a ganlyn, byddent yn cael tâl cronedig mewn perthynas â’r diwrnodau hynny yn ôl y gyfradd sy’n gymwys i dâl gwyliau ar y pryd. Byddai'r taliad hwn yn ychwanegol at unrhyw daliadau eraill sy'n ddyledus gan y Brifysgol. Fodd bynnag, pe bai’r aelod o staff yn cael ei ddiswyddo’n ddiannod, neu’n gadael gwasanaeth y Brifysgol heb roi rhybudd priodol yn unol â’i gontract cyflogaeth, ni fyddai hawl i dâl gwyliau yn bodoli.

Lle, ar y dyddiad gadael, yr oeddid wedi mynd y tu hwnt i'r hawl i wyliau pro-rata, gellir gwneud didyniad priodol o'r taliad cyflog terfynol.

Yswiriant

Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant ar gyfer eiddo personol a ddefnyddir mewn cysylltiad â busnes y Brifysgol. Mae hwn wedi'i gynllunio i gwmpasu llyfrau, offerynnau gwyddonol ac offer arall, offer masnach neu broffesiwn, ac ati sy'n eiddo i unigolion ond a gedwir er hwylustod ar eiddo'r Brifysgol. Nid yw'n ymestyn i ddillad, llyfrau nodiadau electronig, cyfrifiaduron personol neu liniadur ac offer cysylltiedig.

Yswiriant y Brifysgol

Talu Cyflogau

Telir cyflogau yn fisol, mewn ôl-daliadau, trwy drosglwyddiad credyd i gyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu a enwir, fel arfer ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.

Cynghorir aelodau newydd o staff i anfon eu Ffurflen Treth Incwm P45 ymlaen i'r Swyddfa Gyllid cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau ar eu penodiad er mwyn galluogi'r Swyddfa Gyllid i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol drwy'r gyflogres.