Ffioedd Llety

A oes blaendal i’w dalu?

Does dim blaendal i'w dalu ond mae gofyn i chi dalu Ffi Dderbyn sydd yn gyfateb i 7 diwrnod o rent yn ystod y broses o gwblhau eich Contract Meddiannaeth.

Mae'r Ffi Dderbyn yn trosi'n awtomatig yn rhagdaliad o’r Ffi Llety a chaiff ei defnyddio fel y cyfryw ar y dyddiad dyledus cyntaf.

Sut mae talu fy ffioedd llety?

Gallwch dalu eich ffioedd llety mewn un taliad sengl neu drwy uchafswm o dri rhandaliad ym mis; Hydref, Ionawr ac Ebrill neu Mai.

Gofynnir i chi wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer talu wrth gwblhau’r Contract Meddiannaeth ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch talu’r Ffioedd Llety cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr (Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB). Ffôn: 01970 622043, e-bost: fees@aber.ac.uk.

Faint yw’r Ffi Dderbyn?

Mae'r Ffi Dderbyn yn cyfateb i 7 noson o rent ac mae'n amrywio o breswyl i breswyl.

Gweler ein tudalen Ffioedd Llety am ragor o wybodaeth am ein cyfraddau nosweithiol.

 

Pryd / sut mae angen talu’r ffi dderbyn / blaendal?

Rhaid talu'r ffi dderbyn erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich Contract Meddiannaeth.

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd/debyd gan ddefnyddio ein system dalu ar-lein ddiogel drwy'r Porth Llety.

 

 

 

Faint mae’r llety’n costio?

Mae pris pob neuadd yn amrywio – gweler ein gweddalen Ffioedd Llety i gael rhagor o fanylion.

Yma gallwch weld hefyd beth sydd wedi’i gynnwys yn eich ffioedd llety.

Beth os na allaf dalu fy ffioedd llety?

Gellir gwneud ymholiadau ynghylch talu ffioedd Llety i'r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr (Canolfan Groeso i Fyfyrwyr, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB0 Ffôn: 01970 622043, e-bost: fees@aber.ac.uk

Bydd y Brifysgol yn dilyn gweithdrefnau casglu safonol sy’n annog myfyrwyr i dalu ar amser. Ond, os na fydd myfyriwr yn anrhydeddu cytundebau i dalu, cymerir camau cymesur a theg i annog setlo’r ddyled fel rhybudd i eraill. Bydd hyn yn cynnwys gosod cosbau cyfatebol, cyfeirio’r ddyled i asiantaethau casglu allanol ac, yn niffyg dim arall, cymerir camau drwy’r llysoedd i adfer y ddyled.

 

 

A ydw i'n atebol am rhent fy nghyd-letywyr?

Nid yw ein Contractau ar y cyd, felly rydych chi’n gyfrifol am eich rhent eich hun ac nid am rhent unrhyw un arall.