Rhestr Wirio Cyn Cyrraedd

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Er ein bod yn cynnwys dodrefn sylfaenol, bydd angen i chi ddod ag eitemau hanfodol megis teclynnau cegin, cyllyll a ffyrc a phadelli / dillad gwely ac ati.

I gael rhestr o beth i’w ddod a rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen cyn cyrraedd.

 

Pryd gaf fi symud i mewn?

Bydd dyddiad dechrau a gorffen eich arhosiad ar gael yn eich Cytundeb Trwydded Llety a bydd modd i chi ddewis amser a dyddiad cyrraedd wrth gwblhau’r cyflwyniad ar-lein.

A allaf gyrraedd cyn dechrau fy Nghontract Meddiannaeth?

Fel rheol, ni fydd modd i chi symud i mewn cyn y dyddiad a nodwyd yn eich Contract Meddiannaeth. Ond, weithiau gellir gwneud eithriadau. Gweler isod i gael rhagor o fanylion. Os ydych chi’n teimlo eich bod angen symud i mewn yn gynnar am reswm nad ydyw wedi’i nodi isod, cysylltwch â’r Swyddfa Llety.

Myfyrwyr Newydd:

Caiff myfyrwyr newydd sy’n cyrraedd ym mis Medi gyrraedd yn gynnar os ydynt:

  • Wedi cael cadarnhad eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyn wythnos y glas a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr.
  • Wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y rhaglen ymaddasu.
  • Yn rhan o’r gwasanaeth cwrdd a chyfarch rhyngwladol.

Myfyrwyr Presennol:

Caiff myfyrwyr presennol sy’n cyrraedd ym mis Medi symud i mewn yn gynnar os ydynt:

  • Wedi cael cadarnhad eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyn wythnos y glas a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr megis tîm Aber.
  • Yn byw yn Llety Haf y Brifysgol – efallai y bydd eich llety ar gael yn gynnar ond ni ellir gwarantu hyn.

A allaf gyrraedd ar ôl dechrau fy Nghontract Meddiannaeth?

Yn eich rhaglen gyflwyno (sydd ar y Porth Llety), bydd gofyn i chi ddewis dyddiad / amser cyrraedd. Os ydych chi’n gwybod eich bod yn cyrraedd yn hwyrach na’r dyddiadau a roddwyd, bydd angen i chi lenwi ffurflen cyrraedd yn hwyr (o dan y dyddiadau / amser cyrraedd a roddwyd), er mwyn sicrhau bod eich ystafell yn cael ei chadw i chi.

Noder: byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am eich Ffioedd Llety o ddechrau eich Contract hyd yn oed os nad ydych wedi symud i mewn.

 

O ble ydw i'n casglu fy allwedd?

Bydd angen i chi ddod â’ch Ffurflen Rhyddhau Allwedd gyda chi er mwyn casglu eich allwedd.  Gall hwn fod yn fersiwn electronig, e.e. sgrinlun neu fersiwn argraffedig. Mae ar gael ar ddiwedd y rhaglen gyflwyno ar-lein.  Bydd y Ffurflen Rhyddhau Allwedd yn cynnwys y dyddiad a’r amser yr ydych yn bwriadu cyrraedd.

Bydd gwybodaeth am ble i gasglu allwedd eich ystafell ar gael yn y cyflwyniad ar-lein ar y Porth Llety.

Gallwch hefyd edrych ar ein gweddalen symud i mewn i gael manylion am gyrraedd.

Pan fyddaf yn symud i mewn, ble gallaf barcio i ollwng fy nherth?

Nid oes angen trwydded barcio ar gyfer Penwythnos y Glas a gallwch barcio’n agos at eich bloc/neuadd/fflat. Ond gofynnwn i chi barcio yno am uchafswm o ugain munud yn unig, ac yna symud eich cerbyd i faes parcio i osgoi tagfa. 

A allaf gael rhywun i aros pan fyddaf yn symud i mewn?

Yn anffodus, ni chaiff neb aros gyda chi yn eich llety yn ystod Penwythnos Mawr y Croeso.

Ni fydd eich rhieni, eich perthnasau, eich ffrindiau neu bwy bynnag sy'n dod â chi i'r Brifysgol yn gallu aros gyda chi yn llety eich prifysgol. Mae nifer fawr o Welyau a Brecwast a Gwestai yn Aberystwyth a’r cyffiniau, fodd bynnag mae’r rhain yn dueddol o gael eu harchebu’n gyflym dros gyfnod Penwythnos y Glas felly byddem yn eich cynghori i archebu’n gynnar.

Pa eitemau sydd angen eu profi PAT?

Bydd rhaid i unrhyw eitemau trydanol dros 12 mis gael prawf PAT. Os nad oes gan eitemau brawf PAT, ni ellir eu defnyddio o fewn preswylfeydd y Brifysgol. Felly, rydym yn cynghori eich bod yn trefnu prawf PAT i’ch eitemau cyn cyrraedd. Gweler y weddalen prawf PAT i gael rhagor o wybodaeth.

 

Sut ydw i'n cofrestru gyda meddyg?

Pan fyddwch yn cyrraedd Prifysgol Aberystwyth, dylech gael pecyn cofrestru â meddyg teulu. Gallwch lenwi hwn a’i roi i Cymorth i Fyfyrwyr. Hefyd, gallwch ofyn am gyngor gan feddygfeydd penodol a gofyn iddynt am eu proses gofrestru.