Y weithdrefn ymgeisio

Pryd alla i wneud cais am lety?

Bydd ceisiadau am Fyfyrwyr Israddedig newydd a Myfyrwyr ôl-raddedig newydd yn agor tua dechrau Ebrill.

Mae’r ceisiadau i Fyfyrwyr Presennol yn agor ganol mis Tachwedd.

Noder: mae’n bosibl y bydd y dyddiadau hyn yn amrywio bob blwyddyn academaidd.

Bydd modd i israddedigion wneud cais am lety ar ôl iddynt ddewis Prifysgol Aberystwyth fel eu dewis Cadarn neu Wrth Gefn yn unig. Bydd modd i uwchraddedigion wneud cais os ydynt wedi cael cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unig.

 

Sut mae gwneud cais am lety?

Bydd angen i chi wneud cais am lety drwy’r Porth Llety ar-lein.

Ewch i’r dudalen sut i wneud cais i weld y canllaw cam wrth gam ar sut i wneud cais.

 

 

 

Beth yw’r porth llety?

Y Porth Llety yw ei'n gwasanaeth ar-lein ble gallwch wneud cais am, a sicrhau, llety ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sut mae mewngofnodi i’r porth llety?

Dilynwch y linc berthnasol ar ein tudalen Llety.

  • Myfyrwyr Israddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich  manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni.  Defnyddiwch yr un cyfeiriad ebost a ddefnyddioch i wneud cais am eich cwrs. Dim ond os ydych wedi nodi mai Aberystwyth yw eich Dewis Cadarn neu eich Dewis Wrth Gefn y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
  • Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich  manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni. Dim ond os byddwch wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
  • Myfyrwyr Presennol - gallwch fewngofnodi gyda'ch cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth fel myfyriwr ABER.
  • Myfyrwyr Erasmus a Chyfnewid -  Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.  Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
  • Myfyrwyr TAR - Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.  Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

A oes gennyf sicrwydd o lety?

Rydych yn cael gwarant o lety ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o astudio os ydych yn:

  • Myfyriwr Israddedig llawn amser newydd
  • Myfyriwr ôl-raddedig newydd
  • Myfyriwr cyfnewid/Erasmus rhyngwladol
  • Myfyriwr sy'n dychwelyd o gyfnod absenoldeb dros dro i ailddechrau ei flwyddyn gyntaf o astudio

I fod yn gymwys am le wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais yn dod i law erbyn y dyddiadau cau yn y flwyddyn mynediad a gyhoeddwyd, a’u bod yn cwblhau eu Contract Meddiannaeth erbyn y dyddiad cau a nodir ar y Porth Llety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle mewn Llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.