Ffioedd Llety

A oes blaendal i’w dalu?

Does dim blaendal i'w dalu.

Nid oes angen i chi dalu ffi derbyn mwyach.

Sut mae talu fy ffioedd llety?

Gallwch dalu eich ffioedd llety mewn un taliad sengl neu drwy uchafswm o dri rhandaliad ym mis; Hydref, Ionawr ac Ebrill neu Mai.

Gofynnir i chi wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer talu wrth gwblhau’r Contract Meddiannaeth ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch talu’r Ffioedd Llety cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr (Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB). Ffôn: 01970 622043, e-bost: fees@aber.ac.uk.

Faint mae’r llety’n costio?

Mae pris pob neuadd yn amrywio – gweler ein gweddalen Ffioedd Llety i gael rhagor o fanylion.

Yma gallwch weld hefyd beth sydd wedi’i gynnwys yn eich ffioedd llety.

Beth os na allaf dalu fy ffioedd llety?

Gellir gwneud ymholiadau ynghylch talu ffioedd Llety i'r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr (Canolfan Groeso i Fyfyrwyr, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB0 Ffôn: 01970 622043, e-bost: fees@aber.ac.uk

Bydd y Brifysgol yn dilyn gweithdrefnau casglu safonol sy’n annog myfyrwyr i dalu ar amser. Ond, os na fydd myfyriwr yn anrhydeddu cytundebau i dalu, cymerir camau cymesur a theg i annog setlo’r ddyled fel rhybudd i eraill. Bydd hyn yn cynnwys gosod cosbau cyfatebol, cyfeirio’r ddyled i asiantaethau casglu allanol ac, yn niffyg dim arall, cymerir camau drwy’r llysoedd i adfer y ddyled.

 

 

A ydw i'n atebol am rhent fy nghyd-letywyr?

Nid yw ein Contractau ar y cyd, felly rydych chi’n gyfrifol am eich rhent eich hun ac nid am rhent unrhyw un arall.