Rhodd Goffa Mrs Foster Watson
Dyfernir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson bob pum mlynedd i aelod o staff Prifysgol Aberystwyth am waith cyhoeddedig sydd yn ysgolheigaidd ac eto o ddiddordeb cyffredinol.
Ystyrier y llyfrau a gynigir gan banel o dri beirniad o fri, ac fe ddyfernir y wobr ar sail gwerth y llyfr fel cyfraniad i wybodaeth a’i ddiddordeb i’r darllenwr diwylliedig.
Cynigir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson gan y Senedd nesaf yn 2024 am lyfr a gyhoeddwyd ers 01 Medi 2018, yn unol â’r rheolau perthnasol
Er mwyn gwneud cais am y Rhodd Goffa, dylid danfon pedwar copi o unrhyw lyfr cymwys at Dr Gethin Rhys, Cofrestrydd Academaidd Dros Dro, Cledwyn. 16 Hydref 2024 yw'r dyddiad cau. Gellir anfon copiau electronig i'r Gofrestrfa Acdemaidd aqrstaff@aber.ac.uk
Dyfarnwyd y Rhodd Goffa yn y gorffennol i:
2018 |
Dr Martin Crampin, Dysgu Gydol Oes |
2013 |
Yr Athro Iwan Rhys Morus, Hanes a Hanes Cymru |
2008 |
Yr Athro Ken Booth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol |