Gweithdrefn Gwyno

Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn ymroi i ddarparu gwasanaeth a phrofiad o ansawdd uchel i staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd. 

Gall fod achlysuron prin, fodd bynnag, lle bydd camgymeriad yn digwydd a / neu lle bydd unigolion o’r farn nad yw PA wedi cwrdd â’u disgwyliadau. Mewn achos o’r fath, anogir unigolion i anfon adborth at Brifysgol Aberystwyth, ac mae ganddynt hawl yn ogystal i wneud cwyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod os bydd rhywbeth yn mynd o chwith er mwyn gwneud yn iawn am hynny a, lle bo’n briodol, er mwyn gwneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol. 

Os ydych chi’n fyfyriwr cofrestredig, yn ymgeisydd neu’n aelod o staff, gweler isod os dymunwch fynegi pryderon ynghylch torri Safonau’r Gymraeg, ein gweithgareddau Codi arian neu’r gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i faterion perthnasol gael eu hystyried yn unol â’r weithdrefn fwyaf priodol.  

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, neu’n rhiant neu warcheidwad i fyfyriwr, ceir manylion llawn ynghylch y modd y bydd cwynion yn cael eu hystyried yn y Weithdrefn Gwyno Gyhoeddus. 

Myfyrwyr

Gall myfyrwyr gyflwyno adborth i Brifysgol Aberystwyth drwy borth Dy Lais ar Waith / Rho Wybod Nawr: https://www.aber.ac.uk/cy/student/your-voice-matters/

Gall myfyrwyr droi at Bolisi Cwynion pwrpasol. Dylid gwneud cwyn yn unol â’r Polisi hwn, a amlinellir yma: www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/complaints/

Gall myfyrwyr sy’n pryderu eu bod wedi cael eu trin yn anffafriol neu sydd wedi wynebu bwlio neu aflonyddu oherwydd hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedl, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred (neu ddim crefydd neu gred), mamolaeth/beichiogrwydd, hunaniaeth neu statws o ran rhywedd, oed, aelodaeth o undeb llafur, anabledd, cefndir troseddu neu unrhyw nodwedd warchodedig arall grybwyll y pryderon yn unol â’r Cod ar Urddas a Pharch ar: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/student-dignity-respect/

Ymdrinnir â chŵynion a gyflwynir gan rieni neu warcheidwaid myfyrwyr Aberystwyth fel Cwynion gan y Cyhoedd yn Gyffredinol oni bai eu bod yn cael eu derbyn â chaniatâd ysgrifenedig penodol y myfyriwr. 

Materion Staffio

Fel gweithwyr cyflogedig yn y Brifysgol, gall staff droi at nifer o bolisïau a gweithdrefnau pwrpasol, a gall fod yn fwy priodol i ystyried unrhyw gŵyn yn unol â’r prosesau hyn. 

Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn yn cynnwys: 

  • Gweithdrefn Disgyblu Staff (Ordinhad 32) 
  • Gweithdrefn Gwyno Staff (Ordinhad 33) 
  • Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno sy’n ymwneud â’r Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Ganghellor, a’r Dirprwy Is-Gangellorion (Ordinhad 31) 
  • Chwythu’r Chwiban (Datgelu er lles y Cyhoedd) 
  • Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith 
  • Gweithdrefn ar gyfer Ymchwilio i Gamymddwyn wrth wneud Ymchwil 

Gellir gweld copïau o’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn yma: https://www.aber.ac.uk/cy/corporate-information/policies/

Ymgeiswyr

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cwyn ffurfiol ynghylch agwedd ar wasanaeth derbyn israddedigion neu raddedigion ddilyn y canllawiau sydd ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/ug-admissions/ (ar gyfer derbyn israddedigion) neu https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/pg-admissions/ (ar gyfer derbyn graddedigion). 

Safonau'r Gymraeg

Os ceir amheuaeth fod Prifysgol Aberystwyth wedi tramgwyddo telerau ei Safonau Iaith Gymraeg, dylid gwneud cwyn drwy’r ffurflen sydd ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/bilingual-policy/complaints-procedure/

Codi Arian

Dylid cyflwyno cwynion sy’n ymwneud â gweithgaredd codi arian gan y Brifysgol i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn unol â’r Drefn Gwyno am Weithgareddau Codi Arian, sydd ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/development/about/complaints-procedure/

Gwasanaethau Gwybodaeth

Dylid cyflwyno cwynion sy’n ymwneud â’r adran Gwasanaethau Gwybodaeth yn unol â Gweithdrefn Gwyno’r adran hon, sydd ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/complaints/

Cwynion y mae / nad oes modd eu hystyried 

Oni cheir gweithdrefn Gwyno arall, sy’n fwy priodol, y gall Achwynydd droi ati, gall y Weithdrefn hon ymdrin fel arfer â’r rhan fwyaf o fathau o gŵynion, yn cynnwys y rheiny sy’n ymwneud ag: 

  • amheuon ynghylch arferion cyflogi anghyfreithlon ac anfoesol, gan gynnwys mewn cadwyni cyflenwi; 
  • methiant ymddangosiadol i ddilyn prosesau’r Brifysgol, gan gynnwys mewn perthynas â gwneud penderfyniadau. 

Yn anffodus, ceir achlysuron pan na fyddai’n briodol i’r Brifysgol ystyried cwyn yn unol â’r Weithdrefn hon. Mae’r achlysuron hyn yn cynnwys: 

  • os oes Gweithdrefn arall, sy’n fwy priodol, y gall Achwynydd droi ati; 
  • bod y gŵyn yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, sy’n sefydliad annibynnol a chanddo’i Weithdrefn Gwyno ei hun (ar gael drwy www.umaber.co.uk); 
  • bod y gŵyn yn cael ei chyflwyno’n ddienw, ac nad oes modd i’r Brifysgol felly ymateb i’r Achwynydd (er y gall y Brifysgol ddewis ymchwilio i weld a oes unrhyw sail dros y gŵyn); 
  • bod yr Achwynydd yn anghytuno â phenderfyniad corff democrataidd o fewn i’r Brifysgol yn unol â phrosesau’r sefydliad; ac 
  • nad yw cwyn yn cael ei gwneud o fewn i 30 diwrnod gwaith y Brifysgol ar ôl i broblem godi, neu ddod yn adnabyddus i'r Achwynydd. 

Cyflwyno Cwyn 

Dylid gwneud pob ymdrech, yn y lle cyntaf, i ddatrys cwyn yn uniongyrchol â’r adran(nau) o’r Brifysgol dan sylw. Cyfeirir at hyn fel ‘Datrysiad Cam 1’ yn y Weithdrefn Gwyno Gyhoeddus. 

Os oes angen uwchraddio cwyn i ‘Weithdrefn Cam 2’ dylid gwneud hynny gan ddefnyddio’r ffurflen isod, a hynny fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith y Brifysgol i ddiwedd y Cam cyntaf:   

Ffurflen Gweithdrefn Cam 2