Dyddiadau'r Tymor
Sesiwn 2021/22
Dylid darllen Dyddiadau’r Tymhorau ar y cyd â gofynion presenoldeb y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a amlinellir yn adran 3.1 y Rheolau a Rheoliadau i Fyfyrwyr.
Sylwer fod dyddiadau'r sesiynau wedi eu newid er mwyn cychwyn wythnos yn hwyrach nag a gyhoeddwyd yn wreiddiol.
Digwyddiad |
Dyddiad |
---|---|
Arholiadau Atodol | Llun 09/08/2021 – Iau 26/08/2021 |
Tymor yr Hydref | Llun 27/09/2021 – Sadwrn 18/12/2021 (12 wythnos) |
Wythnos Ymgartrefu/Sefydlu/Cofrestru | Llun 27/09/2021 – Gwener 01/10/2021 (1 wythnos) |
Dysgu Semester 1 | Llun 04/10/2021 – Sadwrn 18/12/2021 (11 wythnos) |
Gwyliau’r Nadolig* | Llun 20/12/2021 – Sadwrn 08/01/2022 (3 wythnos) |
Tymor y Gwanwyn | Llun 10/01/2022 – Sadwrn 02/04/2022 (12 wythnos) |
Semester 1 Adolygu a cyfnod o asesiadau yn dechrau | Llun 10/01/2022 – Sadwrn 29/01/2022 (3 wythnos) |
Dysgu Semester 2 |
Llun 31/01/2022 – Sadwrn 02/04/2022 (9 wythnos) A Llun 25/04/2022 - Sadwrn 07/05/2022 (2 wythnos) |
Gwyliau’r Pasg* | Llun 04/04/2022 – Sadwrn 23/04/2022 (3 wythnos) |
Tymor yr Haf | Llun 25/04/2022 – Sadwrn 28/05/2022 (5 wythnos) |
Semester 2 Adolygu a cyfnod o asesiadau yn dechrau | Llun 09/05/2022 – Sadwrn 08/05/2022 (3 wythnos) |
Graddio (Dros Dro) | Gwener 08/07/2022 - Sadwrn 16/07/2022 |
Arholiadau Atodol | Llun 15/08/2022 – Iau 25/08/2022 |
Mae seremonïau graddio’n cael eu cynllunio ar rai, neu bob un, o’r dyddiadau a nodwyd uchod. Bydd manylion union ddyddiadau ac amserau’r seremonïau i fyfyrwyr sy’n graddio eleni, ac i’r myfyrwyr y bu’n rhaid gohirio’u seremonïau o 2020 a 2021 oherwydd argyfwng Covid, yn cael eu darparu yn fuan yn 2022.
Efallai y bydd nifer fach o raglenni yn cychwyn y tu allan i ddyddiadau cyhoeddedig y tymor, e.e. Myfyrwyr TAR a Gwyddor Milfeddygaeth. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y cânt eu cynghori gan eu hadran os bydd angen iddynt gofrestru neu fynychu ar wahanol adegau.
*Cyfnodau gwyliau i fyfyrwyr amser llawn israddedig ac uwchraddedig a ddysgir, ac i fyfyrwyr ar y Rhaglen Sylfaen Ryngwladol. Ni chynhelir dosbarthiadau ffurfiol sydd wedi'u hamserlennu yn ystod cyfnodau gwyliau. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd gweithgareddau eraill yn cael eu trefnu, megis gwaith maes neu leoliadau profiad gwaith a gweithgareddau eraill.
Mae'r cyfnod rhwng diwedd Tymor 3 a chychwyn y sesiwn nesaf yn gyfnod o wyliau i fyfyrwyr israddedig amser llawn ac i fyfyrwyr sydd ar y Rhaglen Sylfaen Ryngwladol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sicrhau eu bod ar gael ei ailsefyll arholiadau yn Aberystwyth yn ystod y cyfnod arholiadau atodol ym mis Awst. Dylech gofio y bydd myfyrwyr uwchraddedig amser llawn a ddysgir yn parhau i astudio yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gofyn i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig amser llawn fod yn byw yn Aberystwyth am 44 wythnos y flwyddyn, a dylid cymryd yr 8 wythnos sy'n weddill fel absenoldeb amodol. Bydd y myfyriwr a'r goruchwyliwr yn trafod pryd yn union y bydd yr absenoldeb ymchwil uwchraddedig yn digwydd, ond nid oes rhaid iddo gyd-fynd â chyfnodau gwyliau'r Brifysgol. Cyhoeddir y rhain yng nghalendr dyddiadau tymor y Brifysgol.
Dylech gofio hefyd bod y cyfnodau Cynefino a Pharatoi ar ddechrau Semester 1 a 2 yn rhannau annatod o'r flwyddyn academaidd. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn byw yn Aberystwyth yn ystod y cyfnodau hyn. Dylent hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y Brifysgol a chan adrannau academaidd.