Yn unol â'r Siarter a'r Ystatudau, mae Prifysgol Aberystwyth yn penodi nifer o Swyddogion Anrhydeddus.
Swyddogion Anrhydeddus presennol y Brifysgol yw:
Manylion |
Llun |
Canghellor Y Gwir Anrhydeddus Arglwyddess Ustus Nicola Davies DBE (hyd at 31 Rhagfyr 2029)
- Ganed y Fonesig Nicola Davies yn Llanelli. Symudodd ei theulu i Ben-y-bont ar Ogwr lle mynychodd Ysgol Oldcastle a “Bridgend Girls Grammar”.
- Darllenodd y gyfraith ym Mhrifysgol Birmingham. Galwyd y Fonesig Nicola i’r Bar yn Gray’s Inn ym 1976. Ei siambrau oedd Serjeants’ Inn Chambers yn Llundain, a’i maes arbenigol hi oedd y gyfraith feddygol. Ym 1992 penodwyd y Fonesig Nicola yn Gwnsler y Frenhines, yn 2010 yn Ynad yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines.
- Rhwng 2014 a 2017 roedd y Fonesig Nicola yn Farnwr Llywyddol y Gylchdaith yng Nghymru. Yn 2018 penodwyd y Fonesig Nicola i’r Llys Apêl. Hi yw'r fenyw gyntaf o Gymru i ddal pob un o'r penodiadau uchod. Roedd y Fonesig Nicola yn un o bedwar cyd-gynullydd y “Inns of Court Alliance for Women” a sefydlwyd yn 2022.
- Y Fonesig Nicola oedd Trysorydd Gray’s Inn am 2023. Hi yw’r fenyw gyntaf o Gymru i fod yn Drysorydd Tafarn y Llys yn Lloegr a Chymru.
|
.jpg) |
Dirprwy Ganghellor Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens (hyd at 31 Rhagfyr 2025)
- Cafodd yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd a Choleg Somerville Rhydychen. Mae wedi derbyn doethuriaethau anrhydeddus gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol De Cymru. Roedd yn Uchel Siryf Dyfed 2011–12 ac mae bellach yn Ddirprwy Raglaw ar gyfer y tair sir, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
- Mae'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn gyfarwyddwr profiadol sydd wedi treulio gyrfa ym maes darlledu, llywodraethu a'r byd academaidd. Mae'n Gyfarwyddwr anweithredol ar brif Fwrdd y BBC aii Aelod dros Gymru. Ers mis Ebrill 2019, hi yw Cadeirydd daliadau masnachol y BBC ledled y byd. Hi hefyd yw Comisiynydd Etholiadol Cymru.
- Mae'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn adnabod ac yn cefnogi'r Brifysgol. Mae wedi bod yn ddarlithydd, uwch ddarlithydd, athro a Chyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Mae hi wedi creu cysylltiadau gwerthfawr i'r sefydliad yn ogystal â chefnogi nifer fawr o raddedigion sydd bellach yn amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.
|
|
Dirprwy Ganghellor Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd LLB (hyd at 31 Gorffennaf 2024)
- Wedi ei eni ym Metws y Coed yn 1951, magwyd Elfyn Llwyd AS yn Llanrwst ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. Cyn ei ethol yn Aelod Seneddol, gweithiodd fel cyfreithiwr a dod yn fargyfreithiwr yn 1997.
- Mae Elfyn Llwyd yn Aelod Seneddol ers 1992, yn cynrychioli Meirionnydd Nant Conwy yn Nhŷ’r Cyffredin o 1992 tan 2010 a Dwyfor Meirionnydd ers 2010. Elfyn Llwyd yw arweinydd grŵp seneddol Plaid Cymru yn San Steffan. Ei ddiddordebau gwleidyddol pennaf yw materion cartref, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth. Fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 9 Chwefror 2011.
- Mae’n rhugl ei Gymraeg a’i Saesneg, ac yn briod â’r gantores werin Gymraeg Eleri Llwyd. Mae ganddynt ddau o blant. Ymhlith ei ddiddordebau mae bridio colomennod, darllen, teithio a rygbi.
- Aelod o’r Cyngor rhwng 2015 a 2021.
|
 |