Dogfennau Llywodraethu
Mae Prifysgol Aberystwyth, a sefydlwyd yn 1872, yn sefydliad siartredig a dyfarnwyd Siarter Frenhinol iddi am y tro cyntaf yn 1889, ac mae'n gweithredu yn unol â'i Siarter Frenhinol Atodol a diwygiwyd yn 2018. Mae'r Brifysgol hefyd yn elusen gofrestredig (rhif 1145141).
Mae’r Brifysgol yn cwrdd â'i goblygiadau drwy'r strwythur llywodraethiant canlynol:
- Mae’r Siarter yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol, ac egwyddorion fel y gallu i ddysgu ac arholi.
- Mae’r Ystatudau yn cynnwys rheolau yn ymwneud â chyrff statudol, aelodau a swyddogion sefydliad y Brifysgol.
- Mae’r Ordinhadau yn ymwneud â’r modd y rheolir y Brifysgol yn ôl fframwaith cyffredinol y Siarter a’r Ystatudau.
Rhaid i unrhyw gynigion i ddiwygio’r Siarter ac Ystatudau gael eu cymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor.