Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r ffi uchaf y gellir ei chodi ar israddedigion amser-llawn o’r DU ac Iwerddon o £9,250 i £9,535. Wrth aros am is-ddeddfwriaeth ar y newid hwn, rydym yn bwriadu gweithredu’r newid hwn i ffioedd y myfyrwyr perthnasol ym mlwyddyn academaidd 2025/26. Rydym wedi llunio tudalen Cwestiynau Cyffredin y gallwch ddod o hyd iddi yma.

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol, sy'n golygu y gall costau llety gael eu cynnwys yn eich ffioedd dysgu.

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser 18,170
Gwyddoniaeth Llawn Amser 20,715
Blwyddyn mewn Diwydiant I'w cadarnhau
Blwyddyn Dramor I'w cadarnhau

Cyrsiau Israddedig £

Ffi Gofrestru (untro, na ellir ei ad-dalu)

360

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

400

Ffi fesul modiwl 20 credyd (yr un)

800

Cyfanswm (gan gynnwys y Ffi Gofrestru)

9,960

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ostwng lefel uchaf y ffioedd i fyfyrwyr y DU ac Iwerddon ar gyfer Blynyddoedd Sylfaen pynciau a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth, y ffi ar gyfer Blwyddyn Sylfaen y cynlluniau canlynol fydd £5,760 o’r Flwyddyn Academaidd 2025/26:

 

Cyfrifeg a Chyllid (N40F)

Busnes a Rheolaeth (N12F)

Economeg Busnes (L11F)

Cyllid Busnes (N31F)

Troseddeg (M90F)

Economeg (L10F)

Addysg (X30F)

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)

Hanes (V10F)

Cysylltiadau Rhyngwladol (F42L)

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)

Y Gyfraith (M10F)

Marchnata (N50F)

Cymdeithaseg (L30F)

 

Bydd lefel y ffioedd ar gyfer Blwyddyn Sylfaen pob cynllun arall ar lefel uchaf ffi'r Llywodraeth ar gyfer graddau Baglor.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2024

Ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ffi uchaf y gellir ei chodi ar israddedigion amser-llawn o'r DU ac Iwerddon, sef o £9,000 i £9,250, byddwn yn gweithredu'r newid hwn i ffioedd y myfyrwyr perthnasol i’r flwyddyn academaidd 2024/25. 

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu bod cost eich llety a reolir gan brifysgol wedi'i gynnwys yn eich ffioedd dysgu. Gan ddibynnu ar ba lety yr ydych yn ei ddewis, bydd hyn naill ai’n gwbl rad ac am ddim neu â gostyngiad o £2,000. 

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser 16,520
Gwyddoniaeth Llawn Amser 18,830
Blwyddyn mewn Diwydiant To be confirmed
Blwyddyn Dramor To be confirmed

Cyrsiau Israddedig £

Ffi Gofrestru (untro, na ellir ei ad-dalu)

360

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

380

Blwyddyn 1

3,040

Blwyddyn 2

3,040

Blwyddyn 3

3,040

Cyfanswm (gan gynnwys y Ffi Gofrestru)

9,480