Ysgoloriaethau Chwaraeon

Ysgoloriaethau Chwaraeon; tîm chwaraeon; myfyrwyr mewn dillad chwaraeon

£1,000 y flwyddyn 

Rydym yn cynnig Ysgoloriaethau Chwaraeon bob blwyddyn i fyfyrwyr newydd i’r Brifysgol sy'n rhagori mewn maes chwaraeon penodol.

Mae deiliaid yr ysgoloriaethau yn derbyn pecyn o fudd-daliadau ychwanegol gan gynnwys:

  • Aelodaeth Platinwm am ddim o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol
  • Mynediad ffafriol i ardaloedd cryfder a chyflyru yn y gampfa ar adegau penodol
  • Grant Addysg Hyfforddwyr Undeb y Myfyrwyr (60% o gyllid tuag at hyrwyddo datblygiad personol ar gyfer cymhwyster chwaraeon e.e. hyfforddi, dyfarnu, cymorth cyntaf ac ati)
  • Gweithdai cymorth addysgiadol ar adferiad, maeth a phrofi, a ddarperir gan ein tîm Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Cymorth mentora i gynorthwyo gyda gyrfa ddeuol astudio a chwaraeon

Mae Ysgoloriaethau Chwaraeon yn agored i ymgeiswyr Israddedig ac uwchraddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser yn y Brifysgol (nid yw myfyrwyr presennol yn gymwys i wneud cais).  Mae’n bosib y gofynnir i ymgeiswyr i ddod am gyfweliad i drafod eu cais ymhellach, a rhaid iddynt ddarparu geirda i gefnogi eu cais.  Mae'n ofynnol i ddeiliaid yr ysgoloriaethau cynrychioli'r Brifysgol yn eu chwaraeon a darparu diweddariadau yn rheolaidd am berfformiadau a chyflawniadau perthnasol.

 Sut alla i wneud cais?

  • Mae ceisiadau ar gyfer mynediad 2024 bellach wedi cau.
  • Ar gyfer mynediad 2025, cwblhewch a chyflwynwch y Ffurflen Gais ar-lein, gan gynnwys geirda, erbyn 30 Mehefin 2025.  
  • Telerau ac Amodau

*Noder: dim ond i ymgeiswyr newydd i'r Brifysgol y mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth Chwaraeon yn agored, nid yw myfyrwyr presennol yn gymwys i wneud cais.