Sut i ddewis cwrs
Wrth i chi feddwl pa brifysgol yr hoffech fynd iddi, mae hefyd yn bwysig iawn i chi feddwl pa gwrs yr hoffech ei astudio.
Mae’n bosibl eich bod yn gwybod yn union beth rydych eisiau ei wneud, a bod gennych lwybr gyrfa pendant mewn golwg.
Neu efallai mai dim ond ambell syniad sydd gennych yn troelli yn eich pen.
Beth bynnag sy’n wir amdanoch chi, mae’n werth treulio amser yn pwyso a mesur y penderfyniad. Dyma ychydig o awgrymiadau i’ch helpu:
- Ymchwilio
Gan fod miloedd o gyrsiau i ddewis ohonynt mae’n bwysig dechrau ymchwilio cyn gynted â phosibl – gall chwilio cyrsiau ar wefan UCAS a gwefannau cymharu cyrsiau ar-lein fod yn adnoddau defnyddiol i wneud hyn. - Dewis ymarferol a brwdfrydedd
Peth doeth ydi ystyried gradd fel cam i’ch gyrfa yn y dyfodol, ond, bydd dewis cwrs sy’n cyd-fynd â rhywbeth y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gwneud eich profiad dysgu hyd yn oed yn well. - Math o gwrs
Efallai y bydd un pwnc fel gradd anrhydedd sengl yn iawn i chi, ond cofiwch fod graddau cyfun neu brif bwnc/is-bwnc ar gael hefyd os ydych chi’n mwynhau dau bwnc. - Manylion y cwrs
Chwiliwch am y manylion i weld beth yw union gynnwys y cwrs, oherwydd bydd yr un cwrs yn amrywio o un brifysgol i’r llall. Meddyliwch am y cydbwysedd rhwng dysgu damcaniaethol a’r gwaith ymarferol, rhwng darlithoedd a gwaith yn y labordy, a rhwng astudio annibynnol a mwy o oriau cyswllt, etc. - Asesu
Dylai pob cwrs fod â manylion ynghylch sut y caiff ei asesu – arholiadau, adroddiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs, sesiynau ymarferol yn y labordy, ac ati – mae’n werth i chi ystyried sut rydych yn hoffi dysgu. - Adnoddau
A oes unrhyw gyfleusterau, adnoddau neu offer penodol yr hoffech gael rhagor o brofiad yn eu defnyddio neu a fydd yn cynorthwyo eich dysgu a’ch llwybr gyrfa? - Arbenigwyr
Ar y rhan fwyaf o dudalennau’r cyrsiau neu’r adrannau fe welwch fanylion am y staff academaidd sy’n weithgar yn eu maes ymchwil neu sy’n dysgu ar eich cwrs. Mae’n werth edrych ar eu cymwysterau, a byddai’n werth gofyn cwestiynau iddynt am y cwrs neu am eu hymchwil – hyd yn oed cyn i chi ymgeisio! - Blwyddyn allan
Y dyddiau hyn mae’n gyffredin i lawer o’r cyrsiau gynnig blwyddyn dramor i astudio neu flwyddyn mewn diwydiant. A oes rhywle yr hoffech deithio iddo? Neu gwmni yr hoffech weithio iddo? Os oes, edrychwch i weld a yw’r cyfleoedd hyn ar gael. - Diwrnodau Agored
Mynychu Diwrnod Agored yw’r unig ffordd bendant i chi gael syniad gwell o’r cwrs, adnoddau’r adran, y darlithwyr a’r brifysgol yn ehangach.
Yma yn Aberystwyth rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, o feysydd gwyddoniaeth i’r celfyddydau, achrediadau safon diwydiant perthnasol, dewisiadau blwyddyn mewn gwaith, dewisiadau astudio dramor a mwy – a chaiff y cyfan ei ddysgu gan arbenigwyr yn eu maes ymchwil.