BSc, MSc, PhD - Beth maen nhw i gyd yn ei olygu?
BA, BSc, MA, MSc, PhD (a rhagor) yw talfyriadau y graddau y gallwch eu cael ym Mhrydain.
Maent yn dangos lefel benodol a disgyblaeth benodol y cymhwyster a gewch mewn prifysgol.
Er bod y rhan fwyaf o gyrsiau yn cael eu gwneud yn llawn amser, mae yna opsiynau ar gyfer dysgu rhan-amser, dysgu o bell a threfniadau dysgu hyblyg eraill.
Dyma ddisgrifiad o rai o’r cymwysterau mwyaf cyffredin:
Baglor
- BA = Baglor yn y Celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol
- BSc = Baglor yn y Gwyddorau
- BENG = Baglor yn y Peirianneg (Meddalwedd, Roboteg a Ffiseg)
- LLB = Baglor yn y Gyfraith
Y canlynol wedi’u cyflawni fel rheol ar ôl 3 i 4 blynedd o gwrs israddedig.
Graddau Meistr Integredig
- MARTS = Meistr yn y Celfyddydau
- MBIOL = Meistr yn y Gwyddorau Biolegol
- MCOMP = Meistr mewn Cyfrifiadureg
- MENG = Meistr mewn Peirianneg
- MMATH = Meistr mewn Mathemateg
- MPHYS = Meistr mewn Ffiseg
- MSCI = Meistr yn y Gwyddorau a’r Celfyddydau
Cwrs 4 mlynedd (3 mlynedd ar lefel Baglor, ac 1 mlynedd Meistr) y cewch fenthyciad amdani gydol eich cwrs, yn hytrach na’ch bod yn gorfod ariannu gradd Meistr ar wahân.
Meistr
- MA = Meistr yn y Celfyddydau y dyniaethau a’r gwyddorau
- MSc = Meistr yn y Gwyddorau
- MBA = Meistr yn y Gweinyddiaeth Busnes
- MPhil = Meistr yn y Athroniaeth
- MRes = Meistr yn y Ymchwil
- LLM = Meistr yn y Gyfraith
Y canlynol wedi’u cyflawni ar ôl graddio ar lefel israddedig, fel rheol yn para 1 i 2 flynedd.
PhD
- PhD = Doethur mewn Athroniaeth: ar gyfer ystod o ddisgyblaethau.
Y canlynol wedi’u cyflawni ar ôl graddio ar lefel gradd Meistr, fel rheol yn para 3 i 8 blynedd.
Mae ystod o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau ymchwil pellach - ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau – ar gael yn Aberystwyth.