Gwasanaethau Gyrfaoedd

Careers services consultation.

Bydd ein Hymgynghorwyr Gyrfaoedd yn rhoi cymorth ichi adnabod y sgiliau sydd gennych chi eisoes, a’ch annog i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael yn Aberystwyth.

Mae astudio cwrs gradd yn golygu ymroi gymaint â phosibl i’r profiad myfyriwr cyflawn. Bydd hynny yn rhoi’r cyfle ichi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau na fydd mor hawdd i’w cyrchu ar unrhyw adeg arall yn y dyfodol. 

Er mai’ch astudiaethau academaidd fydd eich prif flaenoriaeth yn y brifysgol, dylech hefyd ddysgu sut i reoli ac i drefnu’ch amser yn effeithiol i roi cyfle i’ch hun gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i’ch helpu i ddeall sut mae sicrhau bod eich gradd a’r holl brofiadau sydd ar gael i chi wrth astudio yn y Brifysgol yn cyfrannu tuag at eich gyrfa i’r dyfodol. Bydd ein staff profiadol a phroffesiynol yn eich cynorthwyo i:

  • ddewis a darganfod opsiynau profiad gwaith  adnabod y sgiliau a ddaw yn rhinwedd eich astudiaethau – sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr
  • cynllunio llwybr gyrfa addas ar gyfer eich dyfodol
  • ymgeisio am swyddi yn hyderus
  • asesu perthnasedd cyrsiau ôl-raddedig i’ch dyheadau gyrfaol
  • deall sut i fynd ati i sefydlu busnes eich hun a’r camau angenrheidiol nesaf
  • cysylltu â chyflogwyr, cyn-raddedigion a chyrff proffesiynol i ddatblygu eich cynlluniau gyrfaol.

Cysylltiadau â Diwydiant

Fe gynigir ichi ddigonedd o gyfleoedd i gysylltu â chyflogwyr ar ffurf gweminarau a ffeiriau gyrfaoedd, ac yn y cwricwlwm. Yma fe allech gael cyfle i weithio gyda chyflogwyr ar broblemau go iawn sy’n eu hwynebu, a fydd yn gyfle ichi gynnig datrysiadau i broblemau’r lle gwaith, sy’n brofiad unigryw! Ein nod yw cynnwys cyswllt â chyflogwyr ym mhob un o’n cynlluniau gradd, yn ogystal â rhoi cyfle ichi fanteisio ar weithgareddau gyda chyflogwyr y tu hwnt i’ch cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys cwmnïau mawr amlwladol, megis PwC, IBM ac Enterprise Rent-a-Car, sefydliadau gwladol megis Network Rail, Teach First a Qinetiq, yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus, Llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Sifil.

Profiad Gwaith

Byddwch yn wynebu llu o wahanol gyfleoedd profiad gwaith, o swyddi rhan-amser achlysurol ar y campws ac yn yr adrannau Prifysgol, i swyddi i raddedigion gyda chwmnïau a sefydliadau - yn lleol a’r tu hwnt. Ochr yn ochr â’r rhain i gyd ceir cyfleoedd i ddatblygu profiadau cysylltiedig â gwaith trwy fod yn Llysgennad i’ch adran, cymryd rhan yn y gwaith o redeg clybiau a chymdeithasau, a chyfleoedd gwirfoddoli o bob math.

Cofiwch fod cyfleoedd am brofiad gwaith mwy ffurfiol ar gael hefyd, trwy raglenni gradd sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant a chynllun y Brifysgol, Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n rhoi cyfle i bawb gael profiad gwaith gwerthfawr ac ystyrlon ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae Aberystwyth yn benodol yn cynnig amrywiaeth o brofiadau AberYmlaen i chi hefyd, sy’n rhoi rhagor o bosibiliadau i chi, yn ogystal â llu o ddewisiadau semester/blwyddyn dramor gyda phrifysgolion partneriaethol ar draws y byd. Cymerwch ran mewn cynifer o’r rhain â phosibl oherwydd byddant yn bendant yn gwneud i chi sefyll allan yn y dyfodol wrth i chi ddatblygu eich cynlluniau gyrfaol, a byddant yn gwella eich dealltwriaeth o’ch cwrs gradd ac yn rhoi golwg llawer ehangach i chi ar fywyd.