Strategaeth Ehangu Mynediad
Mae Strategaeth Ehangu Mynediad 2022-2026 yn egluro blaenoriaethau Prifysgol Aberystwyth ar gyfer ymateb i’r ymrwymiad yng Nghynllun Strategol 2018 – 2023 i wella mynediad at addysg uwch ac annog cyfranogiad a gweithgareddau cydweithredol drwy bartneriaethau helaeth.
Mae’r strategaeth yn cyd-daro ac yn cefnogi nodau a gwaith Cynlluniau Ffioedd a Mynediad 2022-2023 a Chynlluniau Rhaglen Ymestyn yn Ehangach 2020/21 i 2022/23.
Rydym ni’n falch o’n gwaith yn ehangu mynediad ac wedi buddsoddi’n sylweddol i annog pobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn Addysg Uwch i ehangu eu dyheadau. Mae cymorth derbyniadau wedi’i dargedu, digwyddiadau ysgol/coleg arloesol, gwell mynediad i’n hystâd, buddsoddi mewn offer dysgu ac addysgu i gefnogi anghenion dysgu a chymorth ymarferol i wella cyfraddau cadw, wedi arwain at well cyfranogiad ar draws sawl grŵp. Rydym ni wedi gwella ein prosesau derbyn i sicrhau bod recriwtio’n deg ac wedi gweithio i ddileu rhwystrau ble bynnag rydym ni’n eu gweld, boed y rheiny’n ariannol, cysyniadol neu ffisegol.
Byddwn yn parhau gyda’r gwaith hwn drwy’r cynlluniau a amlinellir uchod a thrwy’r Strategaeth Ehangu Mynediad hwn.
Ein Cynulleidfaoedd Targed
Nodau ac Amcanion y Strategaeth
Amcanion Ehangu Mynediad -
- Gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch
- Chwalu rhwystrau at ymgeisio ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch
- Gweithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i gyflenwi nodau Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach
- Gweithio’n agos gyda chyrff allanol i barhau i godi dyheadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, drwy amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau
- Datblygu darpariaeth sy’n cefnogi dilyniant
- Darparu gwasanaethau cymorth sy’n gwella cyfraddau cadw myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch a datblygu gwasanaethau newydd mwy addas i’w hanghenion.
1. Gweithio gydag Ysgolion a Cholegau
2. Chwalu Rhwystrau
3. Gweithio gyda Phartneriaid
4. Gweithio gyda Chyrff Allanol
5. Datblygu Darpariaeth
6. Darparu Gwasanaethau Cymorth
Monitro a Gwerthuso
Mae datblygiadau strategaeth a gweithredu’n cael eu llywio’n barhaus gan ddata. Caiff y data ei gasglu drwy amrywiaeth eang o sianeli gan gynnwys:
- Derbyniadau – data ar gyfraddau ymgeisio, cyfraddau cynnig, trosi
- Y Swyddfa Gynllunio – meincnodi’r sector (e.e. drwy HESA)
- Recriwtio Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad - cyfraddau ymgeisio, gwasgariad daearyddol ymgeiswyr. Gwerthuso pob digwyddiad (e.e. dyddiau Bagloriaeth Cymru, ysgolion ar y campws, Aber Ar Agor, Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr)
- Marchnata - adroddiadau data marchnata Digidol, dadansoddi traffig gwe a chyfryngau cymdeithasol, adroddiadau gwybodaeth y farchnad i lywio ymgyrchoedd hysbysebu
- Rydym ni’n ystyried ymuno â’r Traciwr Mynediad Addysg Uwch (HEAT) sy’n wasanaeth i sicrhau gwell gwybodaeth am lwybrau dilyniant myfyrwyr ysgol a choleg sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau allgymorth.
i. Gweithio gydag Ysgolion a Cholegau
ii. Chwalu Rhwystrau
iii. Gweithio gyda Phartneriaid
iv. Gweithio gyda Chyrff Allanol
v. Datblygu Darpariaeth
vi. Darparu Gwasanaethau Cymorth
Bydd ein dangosyddion perfformiad craidd yn darparu mesur o gynnydd ar gyfer pob blaenoriaeth strategol.
Nifer yn dod o gymdogaethau cyfranogiad isel |
Canran yn dod o gymdogaethau cyfranogiad isel |
Meincnod (%) |
Gwyriad safonol (%) |
Targed 2023/24 |
---|---|---|---|---|
155 | 12.0 | 12.6 | -0.88 | 13% |
Nifer yn derbyn DSA | Canran yn derbyn DSA (%) | Meincnod (%) | Gwyriad safonol (%) | Targed 2023/34 |
---|---|---|---|---|
510 | 11.8 | 8.0 | +0.88 | 12% |
Targedau 2022 - 2026
- Gwella ffigur meincnodi HESA o gymdogaethau cyfranogiad isel. Meincnod cyfredol: 12.6%
- Cefnogi ceisiadau, trosi, dilyniant a chadw carfan benodol o fyfyrwyr Ehangu Mynediad
- Cynnal y ganran o fyfyrwyr sy’n derbyn y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).