Beth mae cwrs a ddysgir yn ei olygu?
Mae gradd Meistr a addysgir fel arfer yn gofyn am 12 mis o astudio sy’n cynnwys dau semester “a addysgir” a semester “hunan-astudio” terfynol. Bydd yr elfen a addysgir yn cynnwys darlithoedd a seminarau traddodiadol. Bydd rhai rhaglenni hefyd yn cynnwys trafodaethau grŵp, dadansoddi astudiaethau achos a/neu waith ymarferol yn y labordy neu yn y maes. Yn ystod y semester hunan-astudio, bydd angen i chi gwblhau traethawd hir a/neu brosiect dan oruchwyliaeth. Mae asesu rhaglen gradd a addysgir yn amrywio o bwnc i bwnc, ond gall fod ar ffurf arholiadau ysgrifenedig nas gwelwyd o’r blaen, gwaith cwrs wedi’i asesu, a/neu waith prosiect grŵp ac ati.