Gofynion Mynediad
Cyrsiau Meistr a Ddysgir
Yn gyffredinol, rhaid bod gennych o leiaf radd anrhydedd ail ddosbarth is (2.2) i gael eich derbyn ar fwyafrif y cyrsiau Meistr a ddysgir. Fodd bynnag, gall fod angen gradd anrhydedd 2.2 gyda marc o 56.5% ar rai adrannau (e.e. yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol) neu brofiad gwaith perthnasol (e.e. cyrsiau Dysgu o Bell).
Cyrsiau Ymchwil
Os ydych yn gwneud cais am le ar gwrs Meistr neu Ddoethuriaeth ymchwil neu a ariennir, dylai fod gennych radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2.1) neu radd uwch, neu dylech fod yn disgwyl ennill gradd o’r fath.
Rhai nad ydynt yn raddedigion
Mae croeso i’r rheini nad ydynt yn raddedigion a chanddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith amser llawn perthnasol wneud cais am le ar unrhyw gwrs Meistr. Yn yr achos hwn, byddwn yn pwyso a mesur eich cais yn unigol. Nid yw’r rheini nad ydynt yn raddedigion yn gymwys i gael lle ar gwrs TAR na rhaglen Ddoethuriaeth.