Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.
Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.