Cyllid Ychwanegol
Mae yna gynlluniau ychwanegol ar gael hefyd sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i dalu costau prifysgol.
Dyma gipolwg o'r hyn sydd ar gael yma yn Aberystwyth:
Cymynroddion Elusennol
Efallai y byddwch yn gallu cael grantiau gan gyrff elusennol neu gyrff eraill sydd wedi neilltuo arian at gyrsiau penodol neu fathau penodol o fyfyrwyr. Mae’n werth cael cip ar The Directory of Grant-Making Trusts, a gyhoeddir gan y Sefydliad Cymorth i Elusennau (Charities Aid Foundation) a The Grants Register a gyhoeddir gan Macmillan. Dylai’r llyfrau hyn fod ar gael yn eich llyfrgell gyhoeddus leol. Gall myfyrwyr yn yr Alban holi Adran Addysg yr Alban am wybodaeth ynglŷn â’r Gofrestr o Waddoliadau Lleol.
Swyddi a gwaith rhan-amser
Bydd rhai myfyrwyr yn dod o hyd i waith yn ystod y gwyliau neu waith rhan-amser yn ystod eu hastudiaethau. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd am waith rhan-amser i’w myfyrwyr. Mae’r swyddi’n amrywio o gynorthwywyr arlwyo i arddangoswyr mewn labordai gwyddonol. Mae’n bwysig gofalu nad yw unrhyw swydd yn amharu ar eich gwaith academaidd. Cofiwch hefyd y gallai eich enillion effeithio ar faint o grant gewch chi, neu ar yr ad-daliad treth a gewch chi ar gyfamod.
Nawdd
Mae rhai cwmnïau mawr a’r lluoedd arfog yn cynnig nawdd i fyfyrwyr. Mae nawdd ar gael fel arfer i fyfyrwyr sy’n astudio peirianneg, cyfrifiadureg, astudiaethau busnes, gwyddoniaeth ac ieithoedd. Gall nawdd gynnig gwaith ac arian i chi yn ystod y gwyliau.
Blwyddyn mewn Gwaith
Mae’r Flwyddyn mewn Gwaith yn gyfle gwych i gymryd blwyddyn allan rhwng eich ail a’ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad neu gwmni ym Mhrydain neu dramor. Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a chael profiad gwaith gwerthfawr i’w gynnwys yn eich CV. Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd dysgu’r Brifysgol yn ystod eich blwyddyn mewn gwaith, a chewch gyflog am flwyddyn.
Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl
Gallwch wneud cais am gymorth ariannol o sawl ffynhonnell, yn dibynnu ar y math o anabledd sydd arnoch. Mae’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn cynnig ystod o gymorth ariannol, ac mae’n bosib y gallwch gael grant ychwanegol i dalu costau teithio. Bydd rhai myfyrwyr ag anabledd yn gallu hawlio budd-dâl gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol hefyd.